Diweddariad Vevox: Medi 2022

Mae gan y Brifysgol drwydded safle ar gyfer Vevox, meddalwedd bleidleisio, sy’n golygu ein bod yn elwa o ddiweddariadau rheolaidd. Gallwch weld diweddariadau mis Mawrth ar y blog hwn.

Dyma grynodeb o’r diweddariadau ar gyfer mis Medi:

Rhyngwyneb Vevox ar gael yn Gymraeg

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch o gyhoeddi bod gan Vevox, meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol, ryngwyneb sydd bellach ar gael yn Gymraeg.

Ers i ni gaffael Vevox rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’u Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid i ddatblygu’r system i ddiwallu anghenion ein dysgu a’n haddysgu ac rydym yn falch iawn o weld y datblygiad hwn.

Gall defnyddwyr ddewis eu hiaith yn y rhyngwyneb pan fyddant yn mewngofnodi i Vevox.

Cliciwch ar yr eicon iaith a amlygir isod a dewiswch Cymraeg a Save.

Language button highlighted in the Vevox login page

Math newydd o gwestiwn ar gael

Mae yna gwestiwn newydd arddull graddio ar gael – gofyn i’ch myfyrwyr raddio pethau ar sail pwysigrwydd neu roi pethau yn y drefn gywir.

Gall y cwestiwn hwn naill ai gael ei farcio fel un cywir neu ei ddefnyddio i gynhyrchu dewisiadau defnyddwyr. O’r pôl piniwn, dewiswch y cwestiwn arddull Graddio.

Eisiau dysgu mwy am Vevox?

Os ydych chi’n defnyddio Vevox am y tro cyntaf, archebwch le ar ein sesiwn Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i sesiwn hyfforddi Vevox sy’n cael ei gynnal ddydd Iau 22 Medi, 11:00-12:00. Gallwch hefyd wirio ein deunyddiau cyfarwyddyd i ddechrau arni.

Os oes gennych unrhyw adborth ar y diweddariad hwn, neu nodweddion eraill Vevox, mae croeso i chi anfon e-bost atom (eddysgu@aber.ac.uk) a byddwn yn hapus i adrodd ar eich rhan.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*