Cipio Darlithoedd yn Effeithiol: Awgrymiadau i staff a myfyrwyr

Yn y blog hwn byddwn yn edrych at sut y gallwn gipio darlithoedd yn fwy effeithiol i ehangu dysgu a chofio gwybodaeth. Byddwn yn adeiladu ar ein blog blaenorol o’r enw Defnyddio’r adnodd capsiynau a chwis yn Panopto.

Mae’r awgrymiadau a’r drafodaeth isod yn seiliedig ar bapur sy’n cael ei gyhoeddi eleni gan seicolegwyr o Brifysgolion Glasgow, Dundee, Sheffield ac Aberdeen, ar y cyd â staff o’r Gwasanaethau TG ym Mhrifysgol Manceinion. Mae’r papur, ‘Lecture capture: Practical recommendations for students and lecturers’, wedi cael ei ysgrifennu o fewn cyd-destun dysgu hunanreoledig ac mae’n cynnig cyfarwyddyd i staff a myfyrwyr ar sut i fanteisio i’r eithaf ar recordiadau darlith. Gwnaeth Prifysgol Aberystwyth gyflwyno ei Pholisi Cipio Darlithoedd yn 2016 yn sgil cyflwyno Panopto yn 2013. Gan fod cipio darlithoedd wedi cynyddu ledled y sector Addysg Uwch yn y DU[1], mae’r ffocws yn symud nawr i sut mae’n gweithio o ran dysgu.

Mae’r erthygl ar gael ar-lein ac mae wedi’i rhannu’n 4 adran:

  1. Cyflwyniad
  2. Dysgu hunanreoledig fel fframwaith damcaniaethol ar gyfer gweithredu cipio darlithoedd
  3. Argymhellion i fyfyrwyr
  4. Argymhellion i staff

Yn ogystal â hyn, mae awduron yr astudiaeth wedi creu ffeithlun i fyfyrwyr sy’n cynnwys eu prif ddarganfyddiadau:

Nordmann et al. 2018.

Mae’r ffeithlun llawn ar gael ar-lein.

Trafododd y Grŵp E-ddysgu’r papur hwn yn rhan o’r awr hyfforddiant tîm rheolaidd. Isod ceir rhai o’r pwyntiau yr hoffem eu hamlygu i staff a myfyrwyr:

  • Dylai myfyrwyr ystyried y recordiadau fel ychwanegiad at eu dysgu ac nid i gymryd lle presenoldeb. Mae astudiaethau wedi dangos bod presenoldeb yn y sesiwn fyw yn golygu perthynas gryfach o ran y radd derfynol gyda chipio darlithoedd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo’r dysgu.[2]
  • Cyflwynwch y myfyrwyr i system cymryd nodiadau Cornell a’u hannog i gymryd nodiadau yn ystod darlithoedd. Mae cymryd nodiadau yn helpu’r gallu i gadw gwybodaeth, ond mae’n dasg sy’n golygu ymdrech gwybyddol felly gall defnyddio strategaethau megis system cymryd nodiadau Cornell helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf arno. Mae fideo sy’n cyflwyno nodiadau Cornell ar gael yma.
  • Ymgorfforwch adolygu recordiadau fideo i’r gweithgareddau ‘gwaith cartref’, gan eu hannog i fynd drwy’u nodiadau ac ail-wylio adrannau penodol o’r recordiadau’n unig. Dylai myfyrwyr ail-wylio’r ddarlith o fewn rhai diwrnodau i fynychu’r sesiwn, ond nid yn syth ar ôl y sesiwn. Mae cael toriad rhwng adolygu yn cynyddu’r gallu i gadw gwybodaeth. Mae gwylio’r fideo yn llawn yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddant yn cael trafferth canolbwyntio, felly dylai myfyrwyr ganolbwyntio ar yr adrannau hynny nad ydynt yn eu cofio na’u deall a defnyddio’r recordiad i wella’r nodiadau y gwnaethant eu cymryd yn y lle cyntaf. Dylent adolygu eu nodiadau wrth wylio’r recordiad.
  • Os bydd myfyriwr yn colli darlith fe’u cynghorir i wylio’r recordiad yn llawn cyn gynted â phosibl ac yna ail-wylio’r recordiad ymhen rhai diwrnodau gan wylio adrannau penodol fel y nodwyd uchod. Dylent wylio’r recordiad ar y cyflymder arferol a chymryd nodiadau wrth wylio yn yr un modd ag y buasent yn ei wneud mewn sesiwn fyw.
  • Defnyddio’r gweithgareddau dysgu gweithredol – gallai’r rhain gynnwys trafodaethau gyda chymheiriaid, cwestiynau ymarfer ar ddiwedd y sesiwn, pleidleisio yn y dosbarth. Mae tystiolaeth yn dangos bod mwy o weithgareddau rhyngweithiol yn fwy tebygol o annog myfyrwyr i ddod i’r darlithoedd yn hytrach na gwylio’r recordiad. Ystyriwch ddefnyddio cwisiau yn Panopto i brofi eu gwybodaeth neu i weld a ydynt wedi deall y deunydd: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=2771

Byddwn yn mewnosod yr awgrymiadau o’r papur hwn i’n sesiynau hyfforddi sydd i ddod

  • E-ddysgu Uwch: Defnyddio Offer E-ddysgu ar gyfer Gweithgareddau Adolygu (27 Mawrth am 3yp yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu)

Gallwch archebu lle ar y sesiynau hyn yma.

Rydym bob amser yn chwilio am flogwyr gwadd felly os ydych chi’n defnyddio Panopto mewn ffordd benodol, e-bostiwch ni.

Cyfeiriadau

Credé, M., Roch, S.G., & Kieszczynka, U. M. (2010). Class attendance in college: A meta-analytic review of the relationship of class attendance with grades and student characteristics. Review of Educational Research, 80 (2), 272-295. https://doi.org/10.3102%2F0034654310362998

Newland, B. (2017). Lecture Capture in UK HE: A HeLF Survey Report. Heads of eLearning Forum, a gafwyd o https://drive.google.com/file/d/0Bx0Bp7cZGLTPRUpPZ2NaaEpkb28/view

Nordmann, E., Kuepper-Tetzel, C. E., Robson, L., Phillipson, S., Lipan, G., & Mcgeorge, P. (2018). Lecture capture: Practical recommendations for students and lecturers. https://doi.org/10.31234/osf.io/sd7u4

[1] Mae Newland, 2017 yn adrodd bod gan 86% o Sefydliadau Addysg Uwch dechnoleg cipio darlithoedd.

[2] Gweler Credé, Roch a Kieszcynka (2010).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*