Dewis dull ar-lein ar gyfer arolygon barn

Image of students using polling handsets
https://flic.kr/p/9wNtHp

Mae cynnal arolwg barn neu bleidlais yn y dosbarth yn ffordd wych i sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cydadweithio’n fwy yn yr ystafell ddosbarth (gweler er enghraifft: Shaw et al, 2015; Boyle a Nicol 2003; Habel a Stubbs, 2014; Stratling, 2015). Fe’i defnyddir yn helaeth mewn addysg bellach ac uwch, ac mae nifer o staff Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio arolygon barn yn y dosbarth yn gyson. Yn ogystal â’r setiau llaw Qwizdom sydd ar gael yn offer i’w benthyca mae mwy a mwy yn defnyddio gwasanaethau ar-lein fel Poll Everywhere, Socrative a Mentimeter (ymysg eraill). Mae’r gwasanaethau hyn yn fodd i’r myfyrwyr ddefnyddio’u dyfeisiau eu hunain (megis ffonau symudol, tabledi a gliniaduron) i gymryd rhan mewn arolygon barn, rhoi adborth a gofyn cwestiynau.

Gall y Grŵp E-ddysgu roi ystod eang o wybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio arolygon barn wrth addysgu. Mae hyn yn amrywio o gyngor ar sut i gynnwys arolygon barn yn llwyddiannus yn eich arferion addysgu, i gymorth ymarferol ar greu a defnyddio arolygon yn y dosbarth.

Ar hyn o bryd, nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cynnig dull pleidleisio ar-lein a gefnogir yn ganolog ar gyfer dyfeisiau symudol. Er hynny, mae ystod eang o wasanaethau ar gael, llawer ohonynt â fersiynau di-dâl neu fersiynau prawf. Bwriad y blog hwn yw eich helpu i asesu pa ddull sy’n fwyaf addas i chi a’ch myfyrwyr.

  1. Beth hoffech chi ei wneud? Fel ym mhob technoleg ddysg sy’n cael ei rhoi ar waith, y cwestiwn cyntaf y mae angen ichi ei ofyn yw ‘Beth hoffwn i weld y myfyrwyr yn ei wneud?’ Bydd y gwasanaeth a ddewiswch yn dibynnu ar yr ateb. Er enghraifft, os ydych chi am i’ch myfyrwyr gyflwyno cwestiynau, neu roi adborth ysgrifenedig, chwiliwch am wasanaeth sy’n cynnig mwy na chwestiynau amlddewis
  2. Faint o fyfyrwyr fydd yn y dosbarth? Mae llawer o’r fersiynau di-dâl neu’r fersiynau cyfyngedig o feddalwedd sy’n codi tâl yn gosod cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr sy’n cael eu defnyddio. Edrychwch yn ofalus ar fanylion yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y fersiwn di-dâl.
  3. Rydym yn argymell yn gryf hefyd y dylech edrych ar Bolisi Preifatrwydd y gwasanaeth, er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod pa ddata personol amdanoch chi a’ch myfyrwyr fydd yn cael ei gasglu (edrychwch ar ein blogiadau ar y mater hwn).

Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi llunio rhywfaint o wybodaeth ar rai gwasanaethau a allai fod o fudd ichi.

Pan fyddwch chi wedi penderfynu pa wasanaeth i’w ddefnyddio, dyma gynghorion ar ddefnyddio pleidleisio’n llwyddiannus yn y dosbarth.

  1. Meddwl am eich cwestiwn/cwestiynau. Mae llawer o adnoddau ar gael ynghylch llunio cwestiynau da, yn enwedig cwestiynau aml-ddewis. Peidiwch â theimlo bod rhaid ichi ofyn cwestiwn sydd ag ateb cywir neu anghywir. Weithiau gall cwestiwn sy’n ennyn trafodaeth neu sy’n dangos ehangder y safbwyntiau ar bwnc yn fuddiol.
  2. Defnyddio arolwg barn i ddechrau trafodaeth. Mae amryw o ffyrdd ichi ddefnyddio arolygon barn a thrafodaethau grŵp gyda’i gilydd – dwy ffordd boblogaidd yw Cyfarwyddyd Cymheiriaid (yn enwedig gwaith Eric Mazur) neu Gyfarwyddyd Dosbarth Cyfan (Dufresne, 1996)
  3. Ymarfer. Gofalwch ymarfer cyn y sesiwn fel eich bod yn gyffyrddus ac yn gyfarwydd â defnyddio’r cwestiynau a dangos y canlyniadau. Gallwch wneud hyn o’ch swyddfa drwy ddefnyddio dyfais symudol megis tabled neu ffôn symudol.
  4. Neilltuo amser yn y ddarlith. Os ydych yn defnyddio gweithgareddau arolygon barn yn y dosbarth, gofalwch adael digon o amser i’r myfyrwyr gael gafael ar eu dyfeisiau, meddwl am yr atebion ac ymateb. Efallai y bydd angen amser hefyd i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth neu esbonio’r atebion.
  5. Rhoi gwybod i’ch myfyrwyr ymlaen llaw. Gofalwch fod eich myfyrwyr yn gwybod bod angen dod â’u dyfeisiau a bod y rhain ganddyn nhw yn y dosbarth. Gallwch wneud hyn drwy wneud cyhoeddiad yn Blackboard. Gallwch chi hefyd ddarparu cysylltiadau â Chwestiynau Cyffredin perthnasol megis sut i gysylltu â wifi Prifysgol Aberystwyth (Android: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=692, Windows: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=870, iOS: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=700 )

Mae yna ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio arolygon barn – o gasglu gwybodaeth am faint mae’r myfyrwyr yn ei wybod ar ddechrau modiwl i ddarganfod pa bynciau y mae angen ichi ymdrin â nhw mewn sesiwn adolygu. Gallwch hefyd gasglu barn, cael adborth ar sut mae’r ddarlith yn mynd, neu gasglu cwestiynau dienw. Os ydych chi’n defnyddio arolygon barn wrth addysgu, cysylltwch â ni i sôn mwy – gallen ni hyd yn oed gynnwys eich gwaith ar y blog!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*