Blackboard SaaS – diweddariad 1

Blackboard Logo


Bydd llawer ohonoch wedi gweld y cyhoeddiad bod Prifysgol Aberystwyth yn symud i lwyfan cwmwl Blackboard SaaS. Rydym yn bwriadu rhoi diweddariad misol ar gynnydd y prosiect trwy’r blog E-ddysgu, a dyma’r diweddariad cyntaf.

Mae SaaS yn golygu ‘Software as a Service’, ac fe fydd symud i ddefnyddio Blackboard SaaS yn cynnig nifer o fanteision. Y brif fantais o bosib yw na fydd cyfnodau lle nad yw’r gwasanaeth ar gael (downtime) ar ôl i ni fudo i SaaS. Ar hyn o bryd mae dau gyfnod cynnal a chadw a drefnir ymlaen llaw bob blwyddyn – sef dau ddiwrnod yn ystod Gwyliau’r Nadolig a dau ddiwrnod yn ystod yr haf. Bydd y rhai ohonoch sy’n dilyn y blog hwn yn gwybod pa mor anodd y gall fod i drefnu’r rhain, a’i bod bron yn amhosibl dod o hyd i amser sy’n gyfleus i bawb. Mae Blackboard SaaS yn cael ei ddiweddaru heb darfu ar y gwasanaeth o gwbl (i gael gwybod mwy am hyn a nodweddion eraill SaaS gweler https://uk.blackboard.com/learning-management-system/saas-deployment.html).

Ni fydd y gwasanaeth ar gael am gyfnod yn ystod y broses fudo, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn yn agosach at yr amser. Ac unwaith y byddwn wedi symud y newyddion da fydd – dim mwy o gyhoeddiadau yn rhoi gwybod nad yw’r gwasanaeth ar gael dros y Nadolig neu’r haf!

Caiff SaaS ei ddiweddaru trwy ddefnyddio dull diweddaru parhaus – mae hyn yn golygu y bydd Blackboard yn cael ei ddiweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf bob mis. Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys trwsio bygiau a chyflwyno nodweddion newydd. Felly, dylech weld bod problemau’n cael eu trwsio’n gynharach ac ni fydd rhaid i chi aros yn rhy hir am offer newydd neu ddiweddariadau i offer cyfredol.

Mae digonedd o wybodaeth am Blackboard SaaS ar gael ar-lein; os byddwch yn mynd ati i chwilio am ragor o wybodaeth, cofiwch fod dwy fersiwn wahanol o Blackboard ar gael ar SaaS, sef Original ac Ultra. Rydym yn bwriadu symud i’r fersiwn Original i ddechrau – a byddwn yn ystyried Ultra yn y dyfodol.

Ers i ni anfon y cyhoeddiad gwreiddiol, mae’r tîm E-ddysgu ac Integreiddio Systemau wedi treulio llawer o amser yn ymgyfarwyddo ag SaaS. Un o’r pethau mwyaf cyffrous oedd cael defnyddio fersiwn newydd a hollol ffres o Blackboard. Nid yw’r rhan fwyaf ohonom erioed wedi gweld Blackboard heb unrhyw gyrsiau na defnyddwyr – roedd ychydig bach fel wynebu ardal o eira ffres!!

Ein blaenoriaethau cyntaf fydd sicrhau bod yr holl brif nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl, a gwneud yn siŵr bod yr holl ychwanegion (neu Flociau Adeiladu) yr ydym yn eu defnyddio yn gweithio’n iawn. Rydym yn defnyddio Blociau Adeiladu ar gyfer llawer o wahanol bethau, o Turnitin a Panopto i’r faner sy’n sgrolio ar hafan y safle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Blackboard SaaS, cysylltwch â ni ar elearning@aber.ac.uk

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*