Gallwch gofrestru ar gyfer y wythfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu!ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 7 a dydd Mercher 9 Medi 2020.
Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen ar gael ar ein tudalennau gwe.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Rydym ni wedi diweddaru’r IPG er mwyn ymateb i sefyllfa Covid-19. Mae’r IPG newydd yn cynnwys eitemau a fydd yn helpu i gynorthwyo myfyrwyr i ddysgu ar-lein. Fe’i datblygwyd gan yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu gyda chyfraniad sylweddol gan is-grwpiau’r Grŵp Cynllunio Sefyllfaoedd Posib Dysgu ac Addysgu.
Beth sy’n Newydd?
Caiff pob eitem newydd neu eitem sydd wedi ei haddasu ei hamlygu mewn ffont trwm yn yr IPG newydd. Maent yn cynrychioli rhai arferion da a ddefnyddir ar hyn o bryd yn y Brifysgol, ac yn ymateb hefyd i rai o’r ymholiadau y mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi eu derbyn gan staff a myfyrwyr dros gyfnod argyfwng Covid-19. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
Recordiad Panopto o gyflwyniad i fodiwl er mwyn helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo â’r ffordd y bydd y modiwl yn cael ei redeg
Gweithgareddau cynefino – gweler isod
Rhoi gwybodaeth glir i fyfyrwyr ynglŷn â’r hyn y mae angen iddynt ei wneud ar-lein, sut y dylid ei wneud, a beth i’w wneud os byddant yn cael problemau.
Argymhellion ynglŷn â darparu deunyddiau darlithoedd drwy recordiadau Panopto byr.
Deunyddiau cynefino
Mae modiwlau Dysgu o Bell Dysgu o Bell IBERS yn defnyddio ffolder gynefino (a elwir yn Uned 0). Mae hon yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau i fyfyrwyr y mae’n rhaid eu cwblhau er mwyn sicrhau bod modd i fyfyrwyr astudio ar-lein yn llwyddiannus. Rydym yn argymell defnyddio’r dull hwn ar gyfer modiwlau’r flwyddyn nesaf. Bydd y math o weithgareddau yr hoffech eu cynnwys yn amrywio o fodiwl i fodiwl ac yn dibynnu ar ba offer a dulliau a ddefnyddir yn y modiwl. Dyma rai enghreifftiau:
Ymarfer cyflwyno aseiniad ar Turnitin neu Blackboard er mwyn gwirio’r broses a sicrhau bod modd i fyfyrwyr weld eu hadborth
Gwylio recordiad Panopto a chwblhau cwis
Postio neges gyflwyniadol ar fforwm drafod
Cwblhau prawf Blackboard ffurfiannol
Dod o hyd i ddeunyddiau llyfrgell drwy Restr Ddarllen Aspire
Os hoffech chi gymorth neu gefnogaeth gyda’r IPG newydd, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk
Gan fod modiwlau 2020-21 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.
Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.
Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.
Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau.
Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard:
Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau.
Eleni, mae’r Copi Gwag o Gwrs yn berthnasol i holl Uwchraddedig fodiwlau ar y campws.
Mae’r cymorth canlynol ar gael i’ch helpu â Chopi Gwag o Gwrs:
Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd – Dysgu ac Addysgu
Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.
Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Galw staff @PrifAber. Ydych chi’n defnyddio darlithoedd byr neu gwisiau Panopto wrth ddysgu ar-lein? Rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau ar gyfer ein modiwl arferion da newydd. E-bostiwch udda@aber.ac.uk os hoffech rannu eich deunydd â ni.
15/7/2020 “Transforming Assessment Webinars – ‘Feedback is useless if no-one can get what it means’ – The effect of technology-mediated peer feedback on uptake and literacy. James Michael Wood (Seoul National University, South Korea); Inclusive assessment design: what can we learn from assessment adjustments?. Joanna Tai, Mary Dracup, Merrin Mccracken, Yasmin Mobayad (Deakin University, Australia); Assessment and digital competences: building capacity with academic staff. Rob Lowne and Suzanne Stone (Dublin City University, Ireland)” http://taw.fi/15jul2020
“Call for papers for Compass: Journal of Learning and Teaching – Compass is an open access, peer-reviewed journal that welcomes research articles, case studies, opinion pieces and reviews relating to learning, teaching, assessment, and the wider student experience within higher education.” https://journals.gre.ac.uk/index.php/compass
Beard, Mary “The end of the university as we know it? – Mary Beard asks if the iconic university lecture might have had its day, in the aftermath of the pandemic” BBC Radio 4 https://www.bbc.co.uk/programmes/m000k2cq
Tan, E., Small, A., & Lewis, P. (2020). Have a question? Just ask it: using an anonymous mobile discussion platform for student engagement and peer interaction to support large group teaching. Research in Learning Technology, 28. https://journal.alt.ac.uk/index.php/rlt/article/view/2323
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth.
Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar offeryn sydd ar gael i wneud y dasg o ddysgu mewn sesiwn Microsoft Teams yn fwy rhyngweithiol. Mae’r Bwrdd Gwyn yn lle i chi a’ch myfyrwyr allu cydweithio.
Gellir defnyddio’r bwrdd gwyn ar gyfer y canlynol:
I fyfyrwyr gael rhannu syniadau neu safbwyntiau
I egluro diagram cymhleth i’ch myfyrwyr
I wneud mapiau meddwl ar gyfer syniadau neu gysyniadau
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 8fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 7 Medi – Dydd Mercher 9 Medi 2020.
Mae thema’r gynhadledd eleni, Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu, yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.
Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Galw staff @PrifAber. Ydych chi’n defnyddio darlithoedd byr neu gwisiau Panopto wrth ddysgu ar-lein? Rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau ar gyfer ein modiwl arferion da newydd. E-bostiwch udda@aber.ac.uk os hoffech rannu eich deunydd â ni.
24/6/2020 “ALT – Preparing for our ‘new normal’: how can effective student feedback help universities to survive and thrive in the next academic year? Student feedback webinar. Topics to be covered include; Is student evaluation still as important, and what does this look like in the ‘new normal’?; How are universities developing their student feedback mechanisms to reflect what the next academic year is really going to be like?; What are the new, and emerging opportunities, for capturing student feedback?; Is it possible to engage the dis-engaged and traditionally harder-to-reach groups?; How are academic and professional teams being supported to deliver this agenda?” https://go.alt.ac.uk/3e1Xvbe
Association for Learning Technology (ALT), “Call for chapters: Designing Courses with Digital Technologies: Evidence and Examples by and for Higher Education Instructors” Higher education is currently undergoing a digital transformation. As most higher education institutions are integrating digital technologies, instructors need guidance. In this book, to be published by Routledge, instructors from around the world, representing different subject disciplines, will write short chapters with concrete examples of how they use digital technologies to support teaching and learning informed by evidence. The book will be written by and for instructors. https://go.alt.ac.uk/30MLdQf
Educause Review, “Editor’s Picks”: “Can HyFlex Options Support Students in the Midst of Uncertainty?”, “Teaching during COVID-19: Why We’re Fortunate”, “Orienting Students to Online Learning: A Must for Student Success” https://er.educause.edu/editors-picks
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth.
Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi trefnu mwy o hyfforddiant Symud i Ddysgu Ar-lein a Defnyddio Microsoft Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu. Cewch gadw eich lle ar-lein ac fe wnawn ni anfon gwahoddiad Calendr Teams i chi er mwyn i chi gael mynychu’r sesiynau hyfforddi.
Yn y sesiwn Symud i Ddysgu Ar-lein, rydym ni’n cyflwyno rhywfaint o ganllawiau cyffredinol ar sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer dysgu ar-lein. Rydym ni’n edrych ar yr amrywiol offer rhyngweithiol sydd ar gael yn Blackboard ac yn cynnig cyngor ar y ffordd orau i’w ddefnyddio wrth ddysgu. Rydym yn cynnig canllawiau hefyd ar yr adnoddau e-asesu sydd ar gael i chi, canllawiau ar sut i deilwra eich recordiadau Panopta er mwyn eu cyflwyno ar-lein, a sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer sesiynau cynadledda fideo ar-lein. Gorffennir gyda chanllawiau ar sut i ddefnyddio meddalwedd trydydd parti i gefnogi dysgu.
Yn y sesiwn Defnyddio Microsoft Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu, rydym ni’n ymhelaethu ar ein cyngor ar gynnal sesiynau dysgu ar-lein i fyfyrwyr ac yn mynd drwy’r nodweddion sydd ar gael i chi mewn cyfarfodydd Teams.
Egwyddorion Dysgu Gweithredol a Hygyrchedd sy’n sail i’r sesiynau hyn a bydd yr egwyddorion yn helpu eich myfyrwyr i ddysgu ar-lein yn effeithiol.
Byddwn yn datblygu ein rhaglen DPP dros yr haf er mwyn ymateb i anghenion staff. Os ydych chi’n dymuno trafod unrhyw agwedd ar ddysgu, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk. I gael unrhyw ganllawiau technegol, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk.
Mae Dr Lara Kipp, o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl TP22320: Principles of Scenography. Cymeradwyodd y panel y modiwl hwn oherwydd cynllun arloesol ei ddull asesu a’r gefnogaeth, y deunyddiau dysgu clir a drefnwyd yn rhesymegol, defnyddio cyhoeddiadau mewn modd gwreiddiol, a chynnig amryw ffyrdd i fyfyrwyr gael bod yn rhan o’r gweithgareddau dysgu.
Yn ogystal, cafodd y modiwl canlynol statws Canmoliaeth Uchel:
Dr Rhianedd Jewell o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd am fodiwl CY25620 / CY35620: Y Gymraeg yn y Gweithle
Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.
Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.
Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.
Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.