Atgoffa: Galwad am Gynigion: Cynadledd Dysgu ac Addysgu 2020

Keynote announcement banner

*Cau Dydd Gwener*

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 8fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 7 Medi – Dydd Mercher 9 Medi 2020.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Mae thema’r gynhadledd eleni, Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu, yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.

Dyma 5  prif gangen y gynhadledd eleni:

  • Troi at Ddysgu Ar-lein
  • Creu Cymuned Ddysgu
  • Datblygu Lles yn y Cwricwlwm
  • Ymgorffori Dysgu Gweithredol
  • Gweithio gyda Myfyrwyr fel Partneriaid

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu.

Mae’r cyfnod i archebu lle yn y gynhadledd bellach ar agor.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am eddysgu@aber.ac.uk.[:]

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*