Defnyddio’r Bwrdd Gwyn yn Microsoft Teams

Yn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar offeryn sydd ar gael i wneud y dasg o ddysgu mewn sesiwn Microsoft Teams yn fwy rhyngweithiol. Mae’r Bwrdd Gwyn yn lle i chi a’ch myfyrwyr allu cydweithio.

Gellir defnyddio’r bwrdd gwyn ar gyfer y canlynol:

  1. I fyfyrwyr gael rhannu syniadau neu safbwyntiau
  2. I egluro diagram cymhleth i’ch myfyrwyr
  3. I wneud mapiau meddwl ar gyfer syniadau neu gysyniadau
  4. I rannu neu fapio proses gymhleth

Mae fideo ardderchog ar ddefnyddio’r Bwrdd Gwyn yn Teams gan The Virtual Training Team: https://www.youtube.com/watch?v=qDqtWRu0rTA

Pan fyddwch chi mewn cyfarfod, gallwch rannu eich Bwrdd Gwyn:

  1. Cliciwch eicon Rhannu / Share:Screen grab from Teams window showing the options available to you. The Share icon is the fourth icon from the left.

2. Dewiswch Bwrdd Gwyn Microsoft / Microsoft Whiteboard:

Screen grab showing the Whiteboard app.

3. Bydd eich bwrdd gwyn yn agor a bydd cyflwyniad yn dechrau i’ch myfyrwyr. Mae modd hefyd i’ch myfyrwyr gyfrannu at y bwrdd:

General image of the whiteboard open in the Team app. Includes the free hand options down the right hand side of the screen.

4. Ar yr ochr dde, mae gwahanol ysgrifbinnau a rhwbiwr ar gael. Dyma nodweddion sylfaenol bwrdd gwyn MS Teams. Yma mae modd i chi a’ch myfyrwyr ddewis defnyddio eich pad cyffwrdd i ysgrifennu/darlunio.

Os oes arnoch chi eisiau nodweddion ychwanegol, lawrlwythwch yr ap ac wrth gyflwyno eich Bwrdd Gwyn, dewiswch Agor yn yr ap/Open in app:

Screen grab showing the Open in app option which appears in the top right hand corner of the screen.

Bydd hyn yn agor y Bwrdd Gwyn yn yr ap lle bydd llawer mwy o nodweddion ar gael i chi. Mae yna eitemau ychwanegol ar y ddewislen:

Menu item to edit the whiteboard that opens when you select to Open the whiteboard in the app. There's more functionality here, including: Freehand Text editor Sticky notes Photo Upload a file Undo Redo

Pen iconYsgrifbin llaw rydd yw hon. Os byddwch yn clicio arni gallwch ddewis o blith nifer o wahanol ysgrifbinnau sydd ar gael. Yn ogystal ag ysgrifbinnau a phensiliau, mae modd i chi hefyd ychwanegu pren mesur i’ch bwrdd gwyn.

Text editorGolygydd testun yw hwn. Bydd clicio arno yn eich galluogi i deipio yn uniongyrchol ar y bwrdd gwyn, heb fod angen ysgrifennu â llaw rydd.

Sticky note iconOfferyn nodyn gludiog yw hwn – gallwch ofyn i’ch myfyrwyr ysgrifennu eu syniadau ar wahanol nodiadau gludiog , neu eu trefnu yn ôl gwahanol syniadau.

Upload photoMae’r eicon hwn yn eich galluogi i lwytho lluniau ar y bwrdd gwyn. Efallai y byddwch yn dymuno eu hanodi.

Upload fileUwchlwytho ffeiliau ar y bwrdd gwyn. 

Er mai dim ond ar yr ap y mae’r nodweddion hyn ar gael, bydd modd i’ch myfyrwyr weld unrhyw beth y byddwch yn dewis ei gyflwyno ar y bwrdd gwyn.

Os hoffech chi i’ch myfyrwyr allu defnyddio nodweddion llawn y bwrdd gwyn hefyd, megis ychwanegu lluniau a defnyddio nodiadau gludiog, bydd angen iddynt hwythau osod yr ap.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*