Mwy o sesiynau hyfforddi ar gael

Distance Learner Banner

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi trefnu mwy o hyfforddiant Symud i Ddysgu Ar-lein a Defnyddio Microsoft Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu. Cewch gadw eich lle ar-lein ac fe wnawn ni anfon gwahoddiad Calendr Teams i chi er mwyn i chi gael mynychu’r sesiynau hyfforddi.

Yn y sesiwn Symud i Ddysgu Ar-lein, rydym ni’n cyflwyno rhywfaint o ganllawiau cyffredinol ar sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer dysgu ar-lein. Rydym ni’n edrych ar yr amrywiol offer rhyngweithiol sydd ar gael yn Blackboard ac yn cynnig cyngor ar y ffordd orau i’w ddefnyddio wrth ddysgu. Rydym yn cynnig canllawiau hefyd ar yr adnoddau e-asesu sydd ar gael i chi, canllawiau ar sut i deilwra eich recordiadau Panopta er mwyn eu cyflwyno ar-lein, a sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer sesiynau cynadledda fideo ar-lein. Gorffennir gyda chanllawiau ar sut i ddefnyddio meddalwedd trydydd parti i gefnogi dysgu.

Yn y sesiwn Defnyddio Microsoft Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu, rydym ni’n ymhelaethu ar ein cyngor ar gynnal sesiynau dysgu ar-lein i fyfyrwyr ac yn mynd drwy’r nodweddion sydd ar gael i chi mewn cyfarfodydd Teams.

Egwyddorion Dysgu Gweithredol a Hygyrchedd sy’n sail i’r sesiynau hyn a bydd yr egwyddorion yn helpu eich myfyrwyr i ddysgu ar-lein yn effeithiol.

Byddwn yn datblygu ein rhaglen DPP dros yr haf er mwyn ymateb i anghenion staff. Os ydych chi’n dymuno trafod unrhyw agwedd ar ddysgu, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk. I gael unrhyw ganllawiau technegol, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*