Awgrymiadau ynglŷn â defnyddio’r Bwrdd Trafod

Distance Learner Banner

Un o’r offerynnau rhyngweithiol sydd ar gael yn y Blackboard yw’r Bwrdd Trafod. Wrth drosglwyddo i ddysgu ar-lein, rydym ni wedi gweld staff yn dechrau defnyddio byrddau trafod i gyfathrebu â’u myfyrwyr a myfyrwyr yn eu defnyddio i gyfathrebu â’u cyd-fyfyrwyr.

Yn y blogbost hwn, byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau ar y ffordd orau o ddefnyddio’r byrddau trafod i gynllunio gweithgareddau dysgu a rhai strategaethau er mwyn eu rhoi ar waith wrth ddysgu. Wrth i ni drosglwyddo i ddysgu ar-lein, mae’n bwysig cofio bod hyn yn newydd i’r myfyrwyr yn ogystal â’r staff. Bydd gweithgaredd dysgu ar-lein sydd wedi ei gynllunio’n effeithiol i helpu i sicrhau llai o straen i fyfyrwyr a llai o ymholiadau i staff.

Mae un o’r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn gan staff yn ymwneud â’r ffordd y mae’r myfyrwyr yn defnyddio’r amrywiol offerynnau e-ddysgu. Mae’r defnydd yn dibynnu ar y ffordd y cynllunnir y gweithgaredd dysgu a’r ffordd y mae’n bwydo i weddill y modiwl a’r broses ddysgu.

Y cwestiwn cyntaf y dylech ei ystyried wrth ddechrau defnyddio byrddau trafod yw beth yw ei ddiben? Beth hoffech chi i’ch myfyrwyr ei wneud neu allu ei wneud ar ôl gwneud y gweithgaredd? Ar ôl i chi sefydlu mai’r bwrdd trafod yw’r offeryn mwyaf addas ar gyfer y gweithgaredd (cofiwch roi blaenoriaeth i’r anghenion dysgu), cewch ddechrau ei gynllunio.

Mae blogbost diweddar gan Slobodan Tomic, Ellen Roberts, Jane Lund o Brifysgol Efrog yn nodi rhai awgrymiadau ar y ffordd orau o gynnwys Fforymau Trafod yn eich gwaith dysgu.  Maent yn cynnig cyfres o 5 cwestiwn a fydd yn gymorth i chi egluro pwrpas penodol eich bwrdd trafod ar gyfer eich gweithgaredd dysgu:

1.       Beth yw’r gweithgaredd?Trafodaeth (gellir cyfeirio at adnodd penodol neu beidio)   Dadl Myfyrio ar brofiad personol Cyflwyniad a grëir ar y cyd Rhannu adnoddau
2.       Beth yw diben y drafodaeth neu’r gweithgaredd?Rhoi myfyrwyr mewn sefyllfa i:   ·       Trin a beirniadu darlleniad ·       Ffurfio dadl ·       Profi/herio damcaniaeth ·       Gweithio mewn parau/timau ·       Datblygu sgiliau (e.e. chwilio am adnoddau a’u rhannu)  
3.       Beth sydd angen i fyfyrwyr ei wneud ac erbyn pa bryd?Am ba hyd y bydd y gweithgaredd yn cael ei gynnal?   A ddylai myfyrwyr bostio unwaith, neu fwy nag unwaith? A ddylai myfyrwyr ymateb i un post arall o leiaf? A oes angen iddynt gyfathrebu y tu allan i’r platfform er mwyn cwblhau’r dasg? A ddylai myfyrwyr enwebu cofnodwr? Erbyn pa bryd mae angen cwblhau pob rhan o’r dasg?
4.       Beth fydd swyddogaeth y tiwtor, a pha mor aml y bydd y tiwtor yn ‘bresennol’ (gweler isod)?A fydd tiwtoriaid yn hwyluso’r drafodaeth?   Ynteu a fyddant yn cadw llygad ond yn peidio â gwneud sylwadau hyd at bwynt penodol? A fydd y tiwtoriaid yn taro golwg bob dydd? Pob ychydig o ddyddiau? Ar ddiwedd y dasg os yw’n dasg a arweinir gan y myfyrwyr?
5.       Beth ddylai’r myfyrwyr ei wneud os byddant yn cael unrhyw broblemau?Sut y dylid cyfleu hyn?   Yn y fforwm? Trwy e-bost?

Mae llawer o awgrymiadau defnyddiol eraill yn y blogbost hwn felly mae’n werth ei ddarllen.

Ar ôl sefydlu pwrpas priodol y bwrdd trafod, cewch ddechrau meddwl am y ffordd orau o’i gynnwys yn eich gwaith dysgu.

Dylai’r awgrymiadau canlynol helpu i annog cysylltiad:

  1. Paratoi:
    1. Ydych chi wedi paratoi’r myfyrwyr ar gyfer y gweithgaredd?
    2. Ydych chi wedi egluro’n union yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl gan y myfyrwyr?
    3. Ydych chi wedi rhoi canllawiau i’r myfyrwyr ynglŷn ag ymwneud â’r byrddau trafod.
    4. Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r myfyrwyr beth yw’r ffordd orau i gyfathrebu â chi?
  2. Eglurhad:
    1. Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r myfyrwyr beth yw manteision cymryd rhan yn y gweithgaredd?
    2. Ydy eich myfyrwyr yn gwybod pam mae angen iddynt gymryd rhan yn y gweithgaredd?
    3. Ydych chi wedi egluro i’r myfyrwyr pam rydych wedi trefnu’r gweithgaredd mewn modd penodol?
  3. Ymateb:
    1. Ydych chi wedi ymateb i bostiadau ar y bwrdd trafod yn rheolaidd (os yw hynny wedi ei gynllunio yn rhan o’r gweithgaredd dysgu)?
    2. Ydych chi wedi ymateb i bostiadau mewn gweithgareddau dysgu eraill?
    3. Os ydych chi’n cynnal rhith-seminarau, ydych chi wedi cyfeirio at eu cynnwys yn y postiadau?
  4. Enghreifftiau:
    1. Ydych chi wedi rhoi enghreifftiau o bostiadau’r fforwm drafod i fyfyrwyr?
    2. Os ydych chi’n disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at bostiadau eraill ar y fforwm drafod, ydych chi wedi rhoi enghreifftiau o’r mathau o bostiadau y dylent fod yn eu cyfrannu?

Efallai y cewch Fodel Pum Cyfnod Gilly Salmon yn ddefnyddiol.  Nid yw’r model yn newydd ond fe’i cynlluniwyd i helpu i roi strwythur i drafodaeth myfyrwyr ar-lein.

Gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn gymorth i chi gynllunio eich gweithgaredd dysgu gyda byrddau trafod. Ar ôl i chi gynllunio’r gweithgaredd, fe gewch yr holl gymorth fydd ei angen er mwyn ei roi ar waith ar gael ar y dudalen cwestiynau cyffredin. https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=discussion.

Rydym ni’n awyddus bob amser i glywed gan bobl sy’n defnyddio offer e-ddysgu yn llwyddiannus yn eu gwaith dysgu. Os ydych chi wedi bod yn defnyddio’r Bwrdd Trafod yn llwyddiannus, rhowch wybod inni. Anfonwch e-bost. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r offer hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni. eddysgu@aber.ac.uk.

Cyfeiriadau

Tomic, S., Roberts, E., Lund, J. 2020. Cynllunio dysgu ar-lein: swyddogaeth fforymau trafod. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.advance-he.ac.uk/news-and-views/designing-learning-and-teaching-online-role-discussion-forums. Dyddiad cyrchu diwethaf: 30.04.2020.

Salmon, G. n.d. Five Stage Model. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.gillysalmon.com/five-stage-model.html. Dyddiad cyrchu dierthaf: 30.04.2020.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*