Defnyddio Meddalwedd Trydydd Parti ar gyfer Dysgu ac Addysgu

Distance Learner Banner

Wrth i ni symud tuag at gynllunio a darparu dysgu ar-lein, mae angen i ni fod yn greadigol wrth ddefnyddio ein hadnoddau.

Er mai’r cyngor hyd yma yw i ddefnyddio technolegau yr ydych chi a’ch myfyrwyr yn gyfarwydd â hwy, gallai fod rheswm da dros roi cynnig ar lwyfan gwahanol nad yw’n cael ei gefnogi na’i gynnal gan y Brifysgol.

Os ydych chi’n ystyried defnyddio llwyfan gwahanol, cofiwch ystyried datganiadau preifatrwydd y cwmni dan sylw, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud â data personol (eich data personol chi a’ch myfyrwyr). Er enghraifft, mae meddalwedd fideo-gynadledda Zoom yn cynnwys nifer o nodweddion gwych, yn enwedig o ran creu ystafelloedd i grwpiau llai (breakout rooms). Serch hynny, mae eu datganiad preifatrwydd yn nodi eu bod yn casglu amrywiaeth eang o wybodaeth ynglŷn â threfnydd y cyfarfod yn ogystal â’r cyfranogwyr.

Mae’r un egwyddorion yn berthnasol i feddalwedd pleidleisio trydydd parti. Mewn blogbost blaenorol, nodwyd ei fod yn bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd i’ch data chi a data eich myfyrwyr. Wrth ddewis llwyfan trydydd parti dylech ystyried:

  • pa ddata personol y mae’r cwmni o dan sylw yn ei gasglu amdanoch chi;
  • pa ddata personol y gallai fod gofyn i’ch myfyrwyr ei ddarparu;
  • sut y caiff eich cyflwyniadau eu storio;
  • sut y caiff eich data ei gadw, ac ymhle.

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n sicrhau ei fod yn hawdd dod o hyd i’w Polisi Preifatrwydd. Ar y rhan fwyaf o safleoedd, gallwch ddod o hyd i ddolen ar waelod yr hafan o dan y pennawd Preifatrwydd.

Rydym ar gael i’ch helpu chi a’ch myfyrwyr i symud i ddysgu ar-lein. Byddwch yn ymwybodol bod ein harbenigedd yn seiliedig ar gefnogi’r technolegau yr ydym yn eu cynnal yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, felly efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i’ch cynorthwyo os oes gennych ymholiadau am lwyfannau eraill. Mae llawer o’r egwyddorion a’r arferion gorau o ran dysgu â thechnoleg yn berthnasol pa bynnag lwyfan a ddefnyddiwch, a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu gyda hyn.

Nid dweud na ddylech ddefnyddio’r llwyfannau hyn yr ydym ni, ond yn hytrach rydym am i chi ystyried y goblygiadau o ran eich data chi a data eich myfyrwyr cyn i chi wneud hynny, fel bod modd i chi wneud dewis gwybodus ynghylch sut i ddarparu dysgu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â dysgu ar-lein, cysylltwch â ni ar elearning@aber.ac.uk / 01970 622472.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn a diogelu data a defnyddio meddalwedd trydydd parti, gan gynnwys achosion posibl o dorri rheoliadau diogelu data personol, cysylltwch â’r Rheolwr Rheoli Gwybodaeth ar infocompliance@aber.ac.uk.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Barhad Dysgu ac Addysgu ar ein gwe-ddalennau yn ogystal â’n Cwestiynau Cyffredin.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*