
Gan Anna Udalowska
Mae llenyddiaeth addysgegol yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud gweithredol gan fyfyrwyr ym mhob menter sy’n effeithio ar eu profiad dysgu nhw. Gan ein bod ni, yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn gweithio mor agos â’r staff addysgu yn eu cynghori ar arferion gorau mewn dysgu ac addysgu, roeddem ni’n teimlo y byddai ein darpariaeth yn elwa o gael cyfraniad uniongyrchol gan fyfyrwyr. Penderfynwyd creu partneriaeth gyda grŵp o fyfyrwyr, yn gweithio fel Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, i ganolbwyntio ar un o’r materion a godir yn fwyaf amlwg mewn adborth gan fyfyrwyr – cynllun modiwlau Blackboard.
Gwnaed llawer eisoes i wella llywio a chysondeb modiwlau Blackboard, e.e., cyflwynwyd dewislenni Blackboard adrannol ac Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard. Mae enghreifftiau rhagorol o fodiwlau Blackboard i’w cael, gyda rhai’n cael eu harddangos yn ein Gwobrau Cwrs Nodedig. Fodd bynnag mae sylwadau ar anawsterau o ran llywio a diffyg cysondeb modiwlau Blackboard yn dal i ymddangos yn adborth y myfyrwyr (e.e. Arolwg Digital Insights).
Cyn dechrau’r prosiect, cafodd yr Uned gyfle i fynd i weithdy ar bartneriaeth myfyrwyr-staff a gyflwynwyd gan Ruth a Mick Healey sy’n ymgynghorwyr blaenllaw ar yr agwedd hon ar ymgysylltu â myfyrwyr. Roedd y sesiwn, yn ogystal ag ymgynghoriad dilynol oedd yn edrych yn benodol ar y prosiect Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, yn hynod o werthfawr. Er bod ein prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar ymgynghori â myfyrwyr, gwnaethom ein gorau i gyflwyno gwerthoedd sylfaenol partneriaethau myfyrwyr-staff, grymuso myfyrwyr i berchnogi’r prosiect, eu helpu i wireddu effaith eu gwaith a myfyrio ar sut y bu’n fuddiol i’w twf.





