Fforymau Academi 2021-22

Wrth i ddechrau’r tymor newydd gychwyn, hoffem eich gwahodd i’r Fforymau Academi sydd ar ddod dros y flwyddyn academaidd nesaf. Cynhelir ein fforymau academi yn seiliedig ar bwnc neu thema benodol sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu. Maent yn ofod anffurfiol i fyfyrio ar arferion addysgu a’u rhannu, meithrin cysylltiadau â chydweithwyr o ddisgyblaethau eraill, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddadleuon yn y sector Addysg Uwch.

Yn seiliedig ar adborth o’n sesiynau llwyddiannus y llynedd, rydym wedi ymestyn ein Fforymau Academi i 90 munud.

Cynhelir ein sesiwn gyntaf ar 2 Tachwedd, 11yb-12.30yp. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar ganlyniadau’r arolwg Mewnwelediad Digidol. Mae’r arolwg yn cael ei redeg gan JISC ac mae’n gofyn i fyfyrwyr am eu profiadau dysgu digidol. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21, cawsom dros fil o ymatebion. Dewch i’r sesiwn hon os hoffech chi glywed am y canfyddiadau a hefyd meddwl am ffyrdd y gallwch chi gynnwys y canlyniadau yn eich addysgu digidol.

Yn ail, ar 2 Rhagfyr (10yb-11.30yb), byddwn yn ystyried cynllunio dysgu cyfunol. Dros y deunaw mis diwethaf, mae cydweithwyr wedi cyflwyno gweithgareddau addysgu yn gyfan gwbl ar-lein, yn gyfan gwbl wyneb yn wyneb, a hefyd addysgu Hyflex i fyfyrwyr. Os hoffech ystyried sut i gyfuno’r gweithgareddau addysgu ar-lein â gweithgareddau addysgu wyneb yn wyneb, dewch i’r sesiwn hon. Byddwch yn gallu myfyrio ar yr adnoddau yr ydych wedi’u cynhyrchu a sut y gallech chi fynd ati i’w haddasu ar gyfer y cyd-destun addysgu cyfredol.

Yn dilyn cyfnod gwyliau’r gaeaf, bydd ein trydydd sesiwn Fforwm Academi yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror (10yb-11.30yb). Bydd y sesiwn hon yn edrych ar strategaethau ar gyfer dylunio asesiadau dilys. Mae JISC yn amlinellu, yn eu papur The Future of Assessment: five principles, five targets for 2025, mai un o ddaliadau allweddol dylunio asesiad yw ei wneud yn ddilys. Rhoddir cyfle i’r cyfranogwyr wella asesiad sy’n bodoli eisoes neu ddylunio un newydd sbon.

Gan edrych ymlaen at y gwanwyn, bydd ein pedwerydd Fforwm Academi am y flwyddyn yn edrych ar gyfleoedd adborth i gymheiriaid. Mae myfyrwyr yn datblygu gwell proses wybyddol drwy gael cyfle i weithio gyda’u cymheiriaid – o aralleirio damcaniaethau cymhleth, i feirniadu gwaith myfyrwyr eraill yn sensitif, gellir defnyddio gweithgareddau adborth cymheiriaid yn effeithiol iawn. Cynhelir y Fforwm Academi hwn ar 3 Mawrth, 11yb-12.30yp. 

Bydd ein fforwm academi olaf yn edrych ar Fyfyrwyr fel Partneriaid ar 27 Ebrill, 11yb-12.30yp. Mae yna wahanol ddulliau y gellir eu defnyddio ar gyfer prosiectau Myfyrwyr fel Partneriaid. Byddwn yn edrych ar y rhain – o gyd-ddylunio gan fyfyrwyr i brosiectau datblygu. Yn yr UDDA, rydym wedi gweithio ar nifer o fentrau myfyrwyr fel partneriaid a byddwn yn rhannu ein prosiectau yn ogystal â rhoi cyfleoedd i chi sefydlu eich prosiect eich hun ar lefel sesiwn, modiwl, cwrs neu adran. 

Am y tro, bydd ein Fforymau Academi yn cael eu cynnal ar-lein. Archebwch eich lle ar ein Safle Archebu Cwrs. Gobeithio eich gweld chi yno.

One thought on “Fforymau Academi 2021-22

  1. Pingback: Fforwm Academi 2: Cynllunio Dysgu Cyfunol |

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*