Trefnu cynnwys Blackboard – Cyngor Defnyddiol gan Fyfyrwyr (Llysgenhadon Dysgu)

Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar ôl gwneud fy ffordd trwy ddau fodiwl enghreifftiol nad oeddwn i wedi eu gweld o’r blaen ac un arall o fodiwl a ddilynais yn yr 2il flwyddyn, sylwais mai’r cynlluniau modiwl mwyaf hygyrch a hawdd llywio drwyddynt oedd y rhai lle’r oedd y wybodaeth a’r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau wedi eu labelu yn ôl wythnos a theitl y pwnc, yn hytrach na dim ond yn ôl rhif y seminar benodol honno; h.y. ‘Seminar: Wythnos 2 – Dysgu am Benodoldeb ‘>’ Seminar 2 ‘. Roedd labelu’r ffeiliau fel hyn yn golygu bod dod o hyd i’r wybodaeth a gyflwynwyd yn y seminarau a’r darlithoedd penodol hynny yn broses fwy syml a chyflym na gorfod chwilio drwy amryfal gyflwyniadau PowerPoint seminarau er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol.

Yn ogystal, y ffolder fwyaf amlwg ar gyfer cadw recordiadau Panopto y ddarlith a’r seminar a’r sleidiau PowerPoint cysylltiedig fyddai ‘Deunyddiau Dysgu’ yn fy marn i. Byddai’n lle da hefyd i’r deunyddiau ychwanegol fel Rhestr Ddarllen Aspire, gweithdai, sesiynau tiwtorial, ac amserlen gyffredinol y modiwl hwnnw. Byddwn yn argymell, fodd bynnag, os oes nifer fawr o ffeiliau ar gyfer seminarau a darlithoedd h.y. mwy na thair ffeil yr wythnos, eu bod yn cael eu rhoi mewn ffolder ar wahân o dan y teitl ‘Darlithoedd/ Seminarau’ yn y golofn ffolderi ar y chwith, ynghyd â chopi o’r Rhestr Ddarllen Aspire.

Ysgrifennwyd gan Katie Henslowe,   Seicoleg

Pan ddechreuais fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, un o’r cyflwyniadau cyntaf a gefais oedd cyflwyniad i ddefnyddio Blackboard. Fodd bynnag, ro’n i’n teimlo’n fwy dryslyd yn dod allan nac oeddwn i’n mynd i mewn! Felly, es yn ôl i’m hystafell a phenderfynu astudio’r dudalen. Roedd mewngofnodi a dewis modiwl yn iawn. Fodd bynnag, roedd yn rhaid archwilio gryn dipyn cyn dod i arfer â’r cynllun a chymerodd amser i weld pa dasgau roedd angen eu cwblhau. Roedd dod o hyd i lawlyfr y modiwl a manylion cyswllt staff yn arbennig o anodd, ond cysondeb oedd y prif anhawster. Roedd cynllun gwahanol i bob modiwl ac roedd hynny’n ddryslyd, gan fod angen amser i ddod o hyd i ddeunyddiau. Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf, roeddwn i’n gweld y broses yn un lethol!

Gan fy mod yn fy nhrydedd flwyddyn bellach, rydw i wedi arfer gyda Blackboard. Felly mae bod yn Llysgennad Dysgu wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn ac yn gyfle gwych i roi fy marn ar ddefnyddio Blackboard. Yn ystod y gweithgaredd profi defnyddioldeb oedd yn rhan o’r prosiect Llysgenhadon Dysgu, adolygais ddau fodiwl, y naill na’r llall yn rhai o fy adran i. Roedd yn fy synnu bod y cynllun a’r deunyddiau dysgu yn edrych mor wahanol. Roedd gweld wythnos 1 ar waelod y dudalen yn bendant yn rhywbeth oedd yn ddieithr i mi. Roedd yn eithaf hawdd dod o hyd i’r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau ond roedd yn anodd dod o hyd i’r llawlyfr modiwl, manylion cyswllt cydlynydd y modiwl a’r cynllun marcio, ac roedd hynny’n rhwystredig. Fy nghyngor i yw y dylid gwneud Blackboard yn glir ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Gellid gwneud hyn trwy sicrhau cysondeb rhwng y deunyddiau, gan ddilyn cynllun safonol ar gyfer bob modiwl o bosib, er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i’r wybodaeth gywir heb lawer o straen.  

Ysgrifennwyd gan Charlotte Coleman, Ysgol Addysg

Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth am dair blynedd mae’n deg dweud fy mod i wedi cael fy siâr o broblemau gyda Blackboard fel nifer o fyfyrwyr eraill rwy’n siŵr. Cyn cymryd rhan yn y prosiect, ‘doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod gwahaniaeth yng nghynllun modiwlau gwahanol adrannau’r Brifysgol. Ar ôl cymryd rhan yng ngweithgaredd profi defnyddwyr Blackboard, sylwais ar lawer o wahaniaethau ond yr amlycaf i mi oedd y dull o gyrraedd at gynnwys wythnosol. Yn fy mhrofiad i, mae ffolder ar wahân i bob un o fy modiwlau yn yr adran Deunyddiau Dysgu, lle mae cynnwys bob wythnos wedi’i storio. Mae hyn wedi bod yn help mawr i mi er mwyn aros yn drefnus, gan fod pob tasg a deunydd sy’n berthnasol i wythnos benodol yn hawdd cyrraedd atynt o fewn ffolder yr wythnos honno. Yn ystod y gweithgaredd profi, canfûm fod ffolderi rhai modiwlau yn anos i’w defnyddio o ganlyniad i’r ffordd roedd y cynnwys wedi’i drefnu.

Fy un awgrym ar gynlllunio modiwl Blackboard fyddai rhoi amser i drefnu cynnwys bob wythnos a chynnwys ffolder ar wahân i bob wythnos neu bwnc. Yn fy mhrofiad i, mae’n arbed llawer o amser ac mae’n sicrhau bod popeth yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer bob wythnos. Isod mae rhai enghreifftiau o un o fy modiwlau trydedd flwyddyn lle’r oedd y deunyddiau wedi eu trefnu yn y modd hwn. Roedd cynllun y modiwl hefyd yn cynnwys y botwm adolygu. Golygai hyn y byddai deunyddiau’r wythnos ganlynol yn ymddangos pan fyddai popeth wedi cael ei gwblhau a’r botwm yn cael ei dicio. Unwaith eto, o safbwynt myfyriwr, mae hyn yn ddefnyddiol iawn er mwyn aros yn drefnus.   

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*