Cynhadledd Fer: Defnyddio Meddalwedd Pleidleisio i Ddatblygu Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu

Mini Conference Logo

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi y cynhelir y Gynhadledd Fer nesaf ar ddydd Iau 16 Rhagfyr, ar-lein drwy Teams.

Byddwn yn edrych ar feddalwedd pleidleisio – offer y gellir ei ddefnyddio i sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â’u dysgu ac yn gwella eu dealltwriaeth o bynciau cymhleth. Eleni, mae’r Brifysgol wedi prynu Vevox, offer pleidleisio ar-lein, sydd wedi’i integreiddio’n llawn yn Teams ac sy’n gallu gwneud eich gweithgareddau wyneb yn wyneb yn rhyngweithiol.

Galwad am Gynigion:

Rydym yn chwilio am gydweithwyr sy’n defnyddio meddalwedd pleidleisio wrth ddysgu ac addysgu i roi cyflwyniad yn y Gynhadledd Fer. Gallai’r pynciau posibl gynnwys:

  • Defnyddio polau ar gyfer gweithgareddau cynefino a thorri’r garw
  • Polau ar gyfer gemeiddio
  • Polau ar gyfer datblygu’r dysgu
  • Gwneud sesiynau addysgu wyneb yn wyneb yn rhyngweithiol
  • Polau ar gyfer gweithgareddau anghydamseredig

Cyflwynwch eich cynnig ar-lein cyn dydd Gwener 19 Tachwedd.

Mae’n bosibl archebu lle ar gyfer y digwyddiad undydd nawr – archebwch ar-lein.

Bydd cyflwynwyr allanol yn ymuno â ni yn y digwyddiad felly cofiwch gadw llygaid ar ein blog wrth i ni gyhoeddi ein rhaglen.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni: lteu@aber.ac.uk.

One thought on “Cynhadledd Fer: Defnyddio Meddalwedd Pleidleisio i Ddatblygu Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu

  1. Pingback: Wedi colli ein hyfforddiant Hanfodion Vevox? | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*