Gwneud addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn rhyngweithiol gyda thechnoleg

Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i roi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar feddyliau a syniadau neu weithio’n rhithiol mewn grwpiau cydamserol. O ystyried bod myfyrwyr yn cael eu hannog i wynebu i’r un cyfeiriad mewn ystafelloedd addysgu, bydd gwaith grŵp yn her benodol mewn ystafelloedd addysgu.

Rydym yn argymell eich bod yn annog myfyrwyr i ddod â’u dyfeisiau eu hunain. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i chi adeiladu’r drafodaeth grŵp honno. Os nad oes gan eich myfyrwyr fynediad at ddyfais, yna cyfeiriwch nhw at gg@aber.ac.uk. Os ydych chi am i fyfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw.

Defnyddiwch Vevox i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o’u trafodaethau

Offer pleidleisio yw Vevox. Dyma rai gweithgareddau dysgu y gallech eu hystyried, neu gallwch ddyfeisio rhai eich hun:

  • Meddwl a rhannu unigol – Rhowch dasg taflu syniadau neu ddatrys problemau fer i fyfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw feddwl am funud neu ddwy ac yna defnyddio Vevox i rannu eu syniadau. Mae hyn yn gweithio’n dda yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein, neu mewn amgylchedd HyFlex.
  • Pwynt aneglur neu bwyntiau cofio allweddol – Ar ddiwedd y ddarlith, gofynnwch i’r myfyrwyr bostio naill ai eu pwynt mwyaf aneglur neu eu pwyntiau cofio allweddol o’r ddarlith. Os ydych chi’n defnyddio pwyntiau cofio allweddol, mae hyn nid yn unig yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ba mor dda roedden nhw’n deall y cynnwys, ond hefyd yn atgyfnerthu dysgu’r myfyrwyr trwy ymarfer adalw. Da i athrawon a myfyrwyr!
  • Trafodaeth grŵp ac adborth – Os ydych chi’n defnyddio grwpiau o chwech lle mae myfyrwyr yn llwyddo i drafod cwestiwn wrth wynebu ymlaen (ie, rydyn ni’n gwybod bod hyn yn her!), gallwch ofyn i bob grŵp gyflwyno eu prif negeseuon trwy Vevox i’r dosbarth cyfan eu gweld. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfuno’r dysgu gan bob grŵp yn ystod yr amser yn y dosbarth.
  • Gwirio dealltwriaeth cyn ac ar ôl addysgu – Mae myfyrwyr yn dysgu orau os gallant gysylltu gwybodaeth newydd â gwybodaeth flaenorol. Gofynnwch gwestiynau i’r myfyrwyr ar ddechrau’r ddarlith i ysgogi’r wybodaeth honno, ac yna gofynnwch gwestiynau ar y diwedd i’w hatgyfnerthu. Gall hyn helpu myfyrwyr i gydnabod cymaint y maent wedi’i ddysgu o’r ddarlith ac atgyfnerthu eu dysgu ar yr un pryd.

Edrychwch ar ein canllaw ar ddefnyddio Vevox.

Gallwch ddefnyddio’r swyddogaeth Cwestiwn ac Ateb yn Vevox i roi digon o le i fyfyrwyr roi eu hadborth.

Mae myfyrwyr yn nodi eu hymatebion ar eu dyfeisiau symudol wrth i chi daflunio’r sgrin adborth i’r grŵp:

Sgrinlun o bôl Vevox fel y'i dangosir ar y sgrin lawn i'r cyfranogwyr ei weld.
Sgrinlun o'r hyn y bydd y myfyriwr yn ei weld trwy gymryd rhan mewn pôl.

Gall myfyrwyr hefyd uwchbleidleisio’r ymatebion sydd fwyaf defnyddiol yn eu barn hwy. Ar ôl y sesiwn, gallwch allforio’r holl ymatebion a sicrhau eu bod ar gael i fyfyrwyr trwy Blackboard mewn ffeil Excel.

Yn ogystal â’r swyddogaeth Cwestiwn ac Ateb, fe allech chi ddefnyddio’r nodweddion pleidleisio i roi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i ateb cwestiynau am rai senarios.

Defnyddiwch y nodweddion rhyngweithiol yn Teams

Nid yw’r ffaith bod yr addysgu’n digwydd yn fyw yn golygu na allwch sefydlu cyfarfod Teams i redeg ar yr un pryd a gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio rhai o’r tasgau rhyngweithiol neu gydweithredol yn Teams.

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gweld rhai syniadau gwych ar gyfer gwaith grŵp cydamserol, felly beth am eu cyflwyno i’r ystafell ddosbarth?

Dyma rai syniadau:

  • Dogfennau cydweithredol fel sail ar gyfer trafodaeth – Rydym yn defnyddio’r fformat hwn ein hunain yn yr UDDA, a gellir ei addasu’n hawdd i addysgu deunydd pwnc. Cyn y wers, rhowch dasg baratoi i fyfyrwyr megis darllen gyda chwestiynau meddwl. Yn ystod y sesiwn Teams, uwchlwythwch ddogfen Word gyda’r cwestiynau meddwl mewn fformat addas. Rhowch rai munudau i fyfyrwyr a gwahodd pawb i deipio eu hymatebion i’r ddogfen a rennir. Gallwch arddangos hwn ar y sgrin yn eich ystafell ddosbarth i bawb ei weld. Ar ôl i’r myfyrwyr orffen teipio, rhowch eich ymatebion i’w cyfraniadau a strwythuro’ch trafodaeth o amgylch hynny. Gallwch atgyfnerthu eu dysgu trwy ofyn am enghreifftiau pendant, ymhelaethu, neu gysylltu â chysyniadau eraill a gyflwynwyd yn y dosbarth. Gall myfyrwyr naill ai gyfrannu trwy siarad neu drwy ysgrifennu i’r ddogfen. Ar ôl y sesiwn, gall myfyrwyr lawrlwytho’r ddogfen gyda’r nodiadau llawn.
  • Byrddau gwyn – Mae byrddau gwyn rhyngweithiol ar gael yn Teams. Gallwch rag-lwytho delweddau neu ddiagramau i’r bwrdd gwyn a gofyn i’r myfyrwyr gymryd rhan gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn pan fônt yn y dosbarth. Mae gan y byrddau gwyn hefyd nodiadau gludiog rhithwir y gallwch eu defnyddio i ofyn i fyfyrwyr drefnu syniadau mewn trefn benodol. I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio Byrddau Gwyn wrth Addysgu, edrychwch ar ein blogbost.

Os yw Teams yn anghyfarwydd i chi, edrychwch ar ein Awgrymiadau ar gyfer Addysgu gyda Teams

Gallwch hefyd ddefnyddio Teams i addasu rhai Technegau Asesu yn y Dosbarth – gofynnwch i’r myfyrwyr sut maen nhw’n teimlo am bwnc penodol gan ddefnyddio’r emojis yn y sgwrs, neu gofynnwch iddyn nhw bostio eu pwynt mwyaf aneglur o’r sesiwn, neu ei ddefnyddio fel fforwm i annog myfyrwyr i ofyn cwestiynau.

Annog Gwaith Grŵp y tu allan i Sesiynau Addysgu

Anogwch eich myfyrwyr i weithio gyda’i gilydd y tu allan i’r sesiwn. Mae dau ddull o sefydlu grwpiau astudio: clustnodi myfyrwyr i grwpiau, neu adael i fyfyrwyr ddewis eu grwpiau eu hunain. Y broblem bosibl o adael i fyfyrwyr drefnu’r grwpiau eu hunain yw bod rhai myfyrwyr yn fwy cymdeithasol nag eraill, felly gallai rhai myfyrwyr gael eu heithrio. Gall clustnodi myfyrwyr i grwpiau atal y broblem honno, ond gallai beri problemau ychwanegol os oes gennych fyfyrwyr sydd ar y sbectrwm awtistig neu sydd â phroblemau iechyd meddwl sy’n gwneud gwaith grŵp yn anodd. Mae rhoi opsiwn arall iddynt yn arfer da. Pa bynnag ffordd yr ydych yn ei ddewis, gallwch adael i fyfyrwyr drefnu’r cyfarfodydd o hyd a defnyddio’r llwyfan o’u dewis.

Gofynnwch iddyn nhw ddod â rhywbeth maen nhw wedi gweithio arno i’r ystafell addysgu. Gall hyn fod yn rhithwir (megis dogfen neu PowerPoint) neu’n gorfforol (megis gwrthrych celf neu boster). Gallwch ofyn i fyfyrwyr anfon yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno neu ei drafod cyn y dosbarth ac yna defnyddio’r wers i’w gyflwyno i weddill y myfyrwyr.

Gosod pôl gan ddefnyddio Vevox i ofyn i fyfyrwyr raddio’r syniadau hyn neu bostio cwestiynau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn neu os oes arnoch angen rhai syniadau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*