Gwybodaeth Ddefnyddiol: Addysgu Ar-lein

Distance Learner Banner

Trefnu sesiynau drwy MS Teams:

  • Dylid defnyddio MS Teams i gynnal pob sesiwn addysgu ar-lein, oni bai y cytunir fel arall.
  • Sicrhewch fod holl fanylion eich sesiynau addysgu ar-lein ar Blackboard (gweler ein Cwestiynau Cyffredin sut i drefnu cyfarfod Teams yn Blackboard?).
  • Sylwer, ar gyfer unrhyw sesiynau sydd wedi’u trefnu drwy Blackboard, y gall myfyrwyr ddefnyddio’r ddolen i ymuno â’r sesiwn 15 munud cyn yr amser cychwyn a ddewiswyd. Unrhyw bryd cyn hyn, mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i ychwanegu’r sesiwn at eu calendrau Office365 (gweler Cwestiynau Cyffredin ar gyfer myfyrwyr).

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr:

  • Defnyddiwch y nodwedd cyhoeddiadau yn Blackboard i gyfathrebu gyda’ch myfyrwyr. (Gweler ein Cwestiynau Cyffredin Sut mae ychwanegu cyhoeddiad i’m cwrs Blackboard?)
  • Sicrhewch fod eich tudalen cysylltiadau Blackboard yn cynnwys eich gwybodaeth gyswllt ynghyd â chyfarwyddiadau clir ar sut a phryd y dylai myfyrwyr gysylltu â chi.

Cyflwyno sesiynau ar-lein o’r Brifysgol:

  • Os oes angen, gallwch ddod i mewn i’r Brifysgol i gynnal eich sesiynau ar-lein o’r ystafelloedd dysgu sydd wedi eu neilltuo ar eich cyfer yn eich amserlen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r ystafell a’r amser cywir sydd wedi’i neilltuo ar eich cyfer.

Sesiynau DPP perthnasol:

  • Bydd yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau DPP ar gyfer aelodau staff dros yr wythnosau nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddysgu ac addysgu ar-lein ac offer E-ddysgu cysylltiedig.

Am unrhyw gymorth technegol gyda defnyddio MS Teams neu unrhyw un o’r offer E-ddysgu, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar ddysgu ac addysgu, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Diweddariadau Dysgu ac Addysgu – Medi 2020

Distance Learner Banner

Hoffem roi trosolwg i chi o’r datblygiadau diweddaraf a’r deunyddiau cymorth yr ydym wedi bod yn gweithio arnynt dros y misoedd diwethaf.

Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael o  https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/cysondeb/  

Trefnu cyfarfod MS Teams o Blackboard

Dylai’r holl sesiynau addysgu a gynhelir drwy MS Teams gael eu trefnu yn Blackboard. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau ar-lein sydd wedi’u hamserlennu.

Sefydlu cyfarfod: https://faqs.aber.ac.uk/3067

Gwybodaeth i fyfyrwyr: https://faqs.aber.ac.uk/3061

Recordio seminarau a gweithgareddau Teams 

Mae ystyriaethau preifatrwydd y mae angen eu cofio wrth recordio cyfarfod o fewn MS Teams.

Gwybodaeth bellach: Canllawiau ar recordio seminarau a gweithgareddau Teams

Defnyddio ystafelloedd dysgu

Mae gwybodaeth am ddefnyddio ystafelloedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys sut i ddefnyddio MS Teams mewn sesiwn addysgu wyneb yn wyneb ar gael o Canllaw Ystafell Dysgu 2020-21.

Deunyddiau cymorth i fyfyrwyr

Mae adnoddau Cynorthwyo eich Dysgu bellach ar gael i fyfyrwyr o https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2020-21/students/supporting-your-learning/. Fe ychwanegwn at y dudalen yn ystod y semester wrth i bethau newid neu wrth i ni agosáu at adegau allweddol i fyfyrwyr.

Dau ganllaw: Rhestr Wirio Recordio Fideo a Chyngor ar Recordio Fideo

Wrth i fwy a mwy o ddeunyddiau fod ar gael ar-lein, gan gynnwys darlithoedd sy’n cael eu recordio ymlaen llaw, mae’n hawdd cael eich llethu: yn ogystal ag addasu deunyddiau dysgu er mwyn eu cyflwyno yn y dull gwahanol hwn a symleiddio gwybodaeth yn rhannau byrrach, gall agweddau ymarferol recordio fideos addysg fod yn dasg go frawychus. Ond peidiwch â phoeni! Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi creu dau ganllaw, Rhestr Wirio Recordio Fideo a Chyngor ar Recordio Fideo.
Mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw un yn disgwyl sgrin werdd berffaith na swae ryngweithiol aml-ffrwd yn steil y Minority Report. Os byddwch chi’n dilyn y rhestr wirio, fydd hi ddim yn anodd i chi sicrhau bod eich fideos yn rhai o safon dda. Mae’r cyngor yn rhoi cymorth ychwanegol i chi wella eich sgiliau recordio fideos.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, os hoffech chi fwy o arweiniad neu eglurhad, cofiwch fod croeso i chi anfon e-bost at yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu: lteu@aber.ac.uk ac eddysgu@aber.ac.uk.

Helo gan un o’ch Arbenigwyr Dysgu Ar-lein newydd

Sionedyn sefyll ar prom Aberystwyth

Helo, Sioned ydw i ac rwy’n un o dri Arbenigwr Dysgu Ar-lein sydd newydd ymuno â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (UGDA) yn ddiweddar.

Cefais fy ngeni a’m magu yn Aberystwyth, ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddychwelyd i’r Brifysgol, ar ôl cwblhau fy BSc, MSc a PhD yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADGD). Wrth gwblhau fy PhD, bûm yn ffodus iawn o gael y cyfle i ddysgu yn DGES ar amrywiaeth o fodiwlau cyfrwng Cymraeg a Saesneg a deuthum yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch yn 2019. Ym mis Gorffennaf 2019 cefais fy nghyflogi gan Menter a Busnes, yn y lle cyntaf i wneud gwaith ymchwil ar fesur allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd Cymru, ac yna fel Rheolwr Datblygu a Mentora, gan roi arweiniad i arweinwyr sy’n rhedeg grwpiau trafod wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda ffermwyr Cymru.

Edrychaf ymlaen at fanteisio ar fy mhrofiadau yn y gorffennol, gan ddysgu gan gyd-weithwyr eraill yn UGDA a chan staff ar draws y Brifysgol, i rannu arferion gorau ar ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf ar-lein i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, edrychaf ymlaen yn fawr iawn i gael y cyfle i helpu i ddatblygu’r ddarpariaeth o gyrsiau hyfforddi Cymraeg ar-lein i staff y brifysgol.

Os hoffech drafod unrhyw beth sy’n ymwneud â dysgu ar-lein, mae croeso i chi gysylltu â mi yn Gymraeg neu’n Saesneg ar sil12@aber.ac.uk.

Newidiadau i Turnitin

O fis Medi 2020, dylid defnyddio dau osodiad newydd ar bob man cyflwyno ar Turnitin. Gwneir hyn fel y gall myfyrwyr weld eu Hadroddiad Tebygrwydd (fel y cytunwyd gan y Bwrdd Academaidd).

Mae’r ddau osodiad o dan yr adran Gosodiadau Dewisol / Optional Setting wrth ichi greu man cyflwyno ar Turnitin:

1. Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir ysgrifennu drostynt tan y Dyddiad Dyledus)
2. Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am eddysgu@aber.ac.uk.

Cyfarchion oddi wrth eich Arbenigwr Dysgu Ar-lein newydd arall.

Sut mae, pawb!
Fy enw i yw Lara, ac rwyf newydd ymuno â’r Tîm Gwella Dysgu ac Addysgu am y chwe mis nesaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno fy hun.
Rwy’n hanu’n wreiddiol o’r Almaen, Bafaria i fod yn fanwl gywir. Cefais fy magu yn yr Alpau, ac rwy’n dal i weld eisiau’r mynyddoedd o bryd i’w gilydd. Ond mae’r môr, a bryniau Cymru gystal bob tamaid.

Cadwyn o fynyddoedd dramatig ym Mafaria Uchaf. © Lara Kipp
Mynyddoedd ym Mafaria Uchaf. © Lara Kipp
Machlud haul yn Aberystwyth, yn dangos silwét o'r Pier. © Lara Kipp
Machlud haul yn Aberystwyth. © Lara Kipp

Ddes i i Aberystwyth yn 2009 i astudio gradd Anrhydedd Gyfun mewn Senograffeg a Dylunio Theatr a Drama ac Astudiaethau Theatr. Syrthiais mewn cariad ag Aberystwyth, y lle, a’r bobl. Wrth i’m hastudiaethau israddedig ddirwyn i ben, argymhellodd un o’m tiwtoriaid fy mod yn gwneud cais am y rhaglen Mynediad at Radd Meistr, felly fe wnes i. Yn anffodus, nid yw’r fenter wych hon gan yr UE yn bodoli bellach. Fel rhan o’r rhaglen hon, astudiais ar yr MA Ymarfer Theatr a Pherfformio, ac fe’m partnerwyd gyda’r Tŷ Gloÿnnod Byw yng Nghwm Rheidol. Ymgeisiais am PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gydag anogaeth fy ngoruchwyliwr MA, a’m helpodd i ddatblygu cynnig. Cefais gynnig yr Ysgoloriaeth Ddoethurol i Ddatblygu Gyrfa. Un wythnos ar ôl fy arholiad llafar – yr arholiad terfynol ar gyfer PhD – cefais gynnig swydd ddarlithio amser llawn ym Mhrifysgol Derby yng nghanolbarth Lloegr.
Er eu bod yn dweud na fyddwch chi byth yn gadael Aberystwyth os arhoswch chi yma am fwy na phum mlynedd, ar ôl saith mlynedd codais fy mhac a symud o lan y môr i’r lle pellaf o’r môr ym Mhrydain… ond, fel y gallwch ddyfalu o’r ffaith fy mod yn ysgrifennu hwn, fe’m denwyd yn ôl i Aber mewn dim o dro. Dychwelais i fy alma mater i ymgymryd â gwaith dysgu sesiynol a rhan-amser, gan gynnig gweithdai llawrydd, a thiwtora preifat ochr yn ochr â hynny. Dechreuais ddysgu Cymraeg, sydd wedi bod yn llawer o hwyl ac yn rhywbeth y buaswn yn ei argymell i bawb, yn enwedig y rhai sydd fel arfer mewn swydd ddysgu. Mae’n hynod ddefnyddiol rhoi ein hunain yn esgidiau dysgwyr o bryd i’w gilydd.
Rwyf wedi mwynhau dysgu erioed, ac roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi cael athrawon eithriadol drwy gydol fy addysg, yn enwedig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Nawr fy mod i ar yr ochr arall, rwy’n ymdrechu’n barhaus i fod yn addysgwr o’r math hwnnw: un sy’n ennyn ymddiriedaeth eu dysgwyr ac yn eu hannog i wneud eu gorau. Ymuno â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu yw’r cam nesaf i mi, i ddatblygu ffyrdd o gynorthwyo staff â’u holl anghenion addysgu a dysgu. Yn awr yn fwy nag erioed, mae hyn yn waith hanfodol, wrth i bob un ohonom ddysgu i ddygymod ag argyfwng digynsail pandemig byd-eang, ac ymdrechu i leihau ei effaith ar ein myfyrwyr.
Os oes gennych ddiddordeb yn fy ymarfer creadigol, fy ymchwil neu fy nghyhoeddiadau, mae rhagor o wybodaeth ar fy ngwefan bersonol [dim ond Saesneg].

Cyfarchion oddi wrth eich Arbenigwr Dysgu Ar-lein newydd!

Fy enw i yw Ania ac rwy’n un o’r tri Arbenigwr Dysgu Ar-lein sydd wedi ymuno â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

Efallai bod rhai ohonoch eisoes yn fy adnabod gan y bûm yn gweithio o’r blaen yn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth fel Swyddog Cefnogi Cyfathrebu, Marchnata ac E-ddysgu. Wedi hynny, bûm yn rhan o’r Grŵp E-ddysgu lle bûm yn darparu cymorth technegol i staff ac yn goruchwylio’r arholiadau ar-lein, gan sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn. Gadewais Aberystwyth yn haf 2019 i ddilyn gradd meistr mewn Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol. Yn ystod fy ngradd, bûm hefyd yn gweithio i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Anglia Ruskin fel Cydlynydd y Ganolfan Wirfoddolwyr. 

Ni chredais erioed y byddwn yn cael cyfle i ailymuno â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i gydweithio â thîm mor gefnogol ac i gyfrannu at ymdrechion i ddatblygu rhagor ar y ddarpariaeth addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd eisoes wedi cyrraedd safon ragorol. Mae ymroddiad a chreadigrwydd staff addysgu Prifysgol Aberystwyth wedi fy ysbrydoli drwy gydol fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Edrychaf ymlaen at ddysgu oddi wrth eich arbenigedd ac i gydweithio â phob un ohonoch i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn addysg ar-lein o ansawdd uchel. Gobeithiaf y gallaf dynnu ar ymchwil ym maes Addysg Gadarnhaol er mwyn taflu goleuni diddorol a thrawsnewidiol ar anghenion seicolegol sylfaenol myfyrwyr a’r hyn sy’n eu cymell i ddysgu. Mae’n gwbl amlwg y bydd y flwyddyn nesaf hon un heriol dros ben i fyfyrwyr ac i staff y Brifysgol fel ei gilydd, a gobeithiaf y gallaf ddarparu’r gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn ichi ddatblygu addysg ar-lein sy’n gynaliadwy ac sy’n gydnaws â’ch dulliau chi a chydag anghenion eich myfyrwyr.

Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi.

Mae croeso ichi gysylltu â mi os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau: aeu@aber.ac.uk

Ania

Cymorth ychwanegol i staff addysgu ar gyfer dysgu ar-lein

Mae’r misoedd diweddar wedi dod â chynnydd disgwyliedig am addysgu uchel ei ansawdd ar-lein. Yn y flwyddyn academaidd i ddod, gan y bydd cyfran fawr o’r addysgu yn parhau i gael ei ddarparu ar-lein, bydd tri Arbenigwr Dysgu Ar-lein yn ymuno â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu. Byddant yn cynorthwyo’r Uned i gynllunio a chyflwyno rhaglen uchelgeisiol o hyfforddiant i holl staff addysgu PA. Nod y rhaglen hon yw gwneud yn siŵr bod modd i holl staff y Brifysgol gyflwyno gweithgareddau dysgu addysgegol-effeithiol, o dan ein hamodau dysgu newydd.

Hoffem roi croeso cynnes i aelodau newydd ein tîm.

Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Gofrestru ar y Gynhadledd

Gallwch gofrestru ar gyfer y wythfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu! ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 7 a dydd Mercher 9 Medi 2020.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen  ar gael ar ein tudalennau gwe.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Learning and Teaching Conference 2020 Logo

Newidiadau i Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard

Distance Learner Banner

Rydym ni wedi diweddaru’r IPG er mwyn ymateb i sefyllfa Covid-19. Mae’r IPG newydd yn cynnwys eitemau a fydd yn helpu i gynorthwyo myfyrwyr i ddysgu ar-lein. Fe’i datblygwyd gan yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu gyda chyfraniad sylweddol gan is-grwpiau’r Grŵp Cynllunio Sefyllfaoedd Posib Dysgu ac Addysgu.

Beth sy’n Newydd?

Caiff pob eitem newydd neu eitem sydd wedi ei haddasu ei hamlygu mewn ffont trwm yn yr IPG newydd. Maent yn cynrychioli rhai arferion da a ddefnyddir ar hyn o bryd yn y Brifysgol, ac yn ymateb hefyd i rai o’r ymholiadau y mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi eu derbyn gan staff a myfyrwyr dros gyfnod argyfwng Covid-19. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Recordiad Panopto o gyflwyniad i fodiwl er mwyn helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo â’r ffordd y bydd y modiwl yn cael ei redeg
  • Gweithgareddau cynefino – gweler isod
  • Rhoi gwybodaeth glir i fyfyrwyr ynglŷn â’r hyn y mae angen iddynt ei wneud ar-lein, sut y dylid ei wneud, a beth i’w wneud os byddant yn cael problemau.
  • Argymhellion ynglŷn â darparu deunyddiau darlithoedd drwy recordiadau Panopto byr.

Deunyddiau cynefino

Mae modiwlau Dysgu o Bell Dysgu o Bell IBERS yn defnyddio ffolder gynefino (a elwir yn Uned 0). Mae hon yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau i fyfyrwyr y mae’n rhaid eu cwblhau er mwyn sicrhau bod modd i fyfyrwyr astudio ar-lein yn llwyddiannus. Rydym yn argymell defnyddio’r dull hwn ar gyfer modiwlau’r flwyddyn nesaf. Bydd y math o weithgareddau yr hoffech eu cynnwys yn amrywio o fodiwl i fodiwl ac yn dibynnu ar ba offer a dulliau a ddefnyddir yn y modiwl. Dyma rai enghreifftiau:

  • Ymarfer cyflwyno aseiniad ar Turnitin neu Blackboard er mwyn gwirio’r broses a sicrhau bod modd i fyfyrwyr weld eu hadborth
  • Gwylio recordiad Panopto a chwblhau cwis
  • Postio neges gyflwyniadol ar fforwm drafod
  • Cwblhau prawf Blackboard ffurfiannol
  • Dod o hyd i ddeunyddiau llyfrgell drwy Restr Ddarllen Aspire

Os hoffech chi gymorth neu gefnogaeth gyda’r IPG newydd, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk