Cawsom gyfle yn ddiweddar i gyflwyno sesiynau ‘Gwnewch y gorau o’ch dysgu ar-lein’ i Gynorthwywr Adrannol i Gymheiriaid, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn ogystal â Chynorthwywyr Preswyl. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr i’r adnoddau sydd ar gael iddynt: y modiwl Cefnogi eich dysgu ar Blackboard (a fydd yn cael ei gyflwyno i’r holl fyfyrwyr yn fuan); a’r Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr.
Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn i ofyn i fyfyrwyr: ‘Beth arall y gallwn ei wneud i’ch cefnogi wrth ichi ddysgu?’. Hoffem rannu â chi rywfaint o’r adborth a gawsom, ynghyd ag awgrymiadau ynghylch sut y gellid ymdrin â’r rhain:
Estyniadau i aseiniadau
Er nad yw hyn yn rhywbeth y gall y staff dysgu ei ddatrys, gallai fod yn fuddiol cynnwys dolen i’r wybodaeth am Estyniadau i Waith Cwrs ynghyd â’r wybodaeth arall am asesiadau.
Strwythur clir
Crybwyllodd rhai myfyrwyr y ffaith eu bod wedi cael anhawster wrth lywio’u ffordd drwy eu llwyth gwaith o safbwynt dysgu ar-lein, a’r angen am strwythur cliriach o ran sut a phryd y bydd y cynnwys yn cael ei ryddhau iddynt. Felly, hoffem annog staff i gynnwys tabl byr ac ynddo ddyddiadau rhyddhau cynnwys (gellir ei gynnwys yng Ngwybodaeth y Modiwl), a chadw at ddyddiadau ac amseroedd y seminarau a’r sesiynau byw a amserlennwyd.


Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar arolygon ar-lein a gynlluniwyd gan Jisc ac a ddefnyddir gan sefydliadau gwahanol ledled y DU.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi. 


