Myfyrdodau o’r Fforwm Academi: Sut y gallaf wneud fy nysgu’n fwy cynhwysol?

What does insivity mean to you wordcloud

Sesiwn y Fforwm Academi ar gynwysoldeb yr wythnos diwethaf oedd un o’r sesiynau â’r presenoldeb uchaf eleni. Roedd hi’n wych gweld cymaint o ddiddordeb mewn datblygu dysgu sy’n fwy cynhwysol, a chymaint o ymroddiad i wneud hynny hefyd. Cyflwynwyd y sesiwn hon mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bu’r Cynghorydd Hygyrchedd Nicky Cashman yn rhoi gwybodaeth i staff am ddemograffeg yn PA, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr. 

Dechreuodd y sesiwn â’r cwestiwn eang ‘Beth mae cynwysoldeb yn ei olygu i chi?’ (gweler uchod y cwmwl geiriau a grëwyd gennym). Wedi cyflwyniad Nicky, aethom ymlaen i gynnal gweithgaredd yn seiliedig ar sefyllfaoedd. Cafodd pob grŵp un sefyllfa i weithio â hi. Bob ychydig o funudau, roedd pob grŵp yn cael darn ychwanegol o wybodaeth er mwyn rhoi safbwynt ehangach iddynt ar y sefyllfa.

Mae’r sefyllfaoedd i’w gweld ar waelod y postiad hwn.

Wedi’r gweithgaredd cafwyd trafodaeth ar gyfer y grŵp cyfan. Bu aelodau o staff yn siarad am ‘ddyletswydd gofal’ tuag at eu myfyrwyr ac i ba raddau y disgwylir iddynt fonitro eu myfyrwyr ac y dylent fod yn gwneud hynny. Buom yn trafod hefyd y cydbwysedd rhwng gofalu am fyfyrwyr unigol ac anghenion y garfan gyfan o fyfyrwyr. Roedd y grŵp a fu’n ystyried Sefyllfa Un yn berffaith gywir wrth dynnu sylw at y ffaith y byddai sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haseinio i grwpiau ymlaen llaw yn ffordd fwy cynhwysol o weithio, er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae rhywun yn cael ei eithrio. Cafwyd trafodaeth ynghylch pryd mae asesiadau amgen yn briodol a phryd y byddai cymorth ychwanegol i gwblhau’r asesiadau sy’n bod eisoes yn fwy addas. Yn olaf, trafodwyd pwysigrwydd sefydlu ymddiriedaeth â myfyrwyr, yn ogystal â chysylltu â myfyrwyr a allai fod yn dangos arwyddion cynnar eu bod yn cael anhawster.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Nicky ac i’r holl staff a ddaeth i’r sesiwn hon a chyfrannu ati.

Archebu eich lle ar sesiynau sydd i ddod gan y Fforwm Academi:

Fforwm Academi: Addysgu grwpiau bychain

Fforwm Academi 7: How can I embed wellbeing into the curriculum?

Fforwm Academi 8: Preparing Students for Assessments

Fforwm Academi 9: Reflections on this year’s Academy Forum

Sefyllfaoedd:

Sefyllfa 1: Nid yw John, sy’n fyfyriwr ar fodiwl blwyddyn gyntaf yr ydych yn gyfrifol amdano, wedi bod yn bresennol yn unrhyw un o’r seminarau. Cawsant farc gweddol dda am yr aseiniad cyntaf ac roeddent yn bresennol ym mwyafrif y darlithoedd, ond rydych wastad yn eu gweld yn dod i mewn ychydig yn hwyr, ac yn gadael yn syth wedi i’r ddarlith orffen.

GWYBODAETH NEWYDD: Gwaith grŵp yw ail aseiniad y modiwl hwn. Rydych chi wedi gofyn i’r myfyrwyr roi rhestr ichi o’r grwpiau y byddant yn gweithio ynddynt, ond nid yw John wedi cael ei aseinio i unrhyw un o’r grwpiau ac ni chysylltodd â chi i egluro pam.

GWYBODAETH NEWYDD: Mae’r grŵp yr ydych wedi aseinio John iddo wedi cysylltu â chi yn dweud na allant gael gafael arno ac na fu’n bresennol yn unrhyw un o’r cyfarfodydd y gwnaethant eu trefnu.

GWYBODAETH NEWYDD: Mae John wedi cysylltu â chi o’r diwedd ac wedi datgelu ei fod yn cael anhawster â gorbryder cymdeithasol. Mae’n dweud nad yw’n gallu cymryd rhan yn y gwaith grŵp ac mae’n poeni y bydd yn methu’r modiwl o ganlyniad.


Sefyllfa 2: Mae Catrin yn fyfyrwraig ar ei thrydedd flwyddyn ac nid ydych wedi ei dysgu hi o’r blaen. Mae’n bedwaredd wythnos y dysgu yn ystod Semester 2 a’r unig sesiwn y bu Catrin yn bresennol ynddi yw sesiwn gyntaf y modiwl yn wythnos 1. Nid yw hi wedi bod yn bresennol yn unrhyw un o’r sesiynau byw ond gallwch weld o Panopto ei bod wedi gwylio tua 50% o’r darlithoedd a recordiwyd ymlaen llaw. Ei marc cyfartalog ar gyfer ei gradd o’r semester cyntaf yw 47%.

GWYBODAETH NEWYDD: Rydych chi wedi anfon sawl e-bost at Catrin i weld sut mae hi ac i drefnu cyfarfod ond nid ydych wedi cael ateb ganddi.

GWYBODAETH NEWYDD: Gallwch weld o’i chofnod myfyriwr ei bod wedi cael marc cyfartalog o 69% yn ei blwyddyn gyntaf a 74% yn ei hail flwyddyn.

GWYBODAETH NEWYDD: Wedi ichi ebostio Catrin sawl gwaith eto, cawsoch ateb ganddi yn y diwedd ac fe gytunodd i gwrdd â chi. Yn ystod eich cyfarfod, datgelodd Catrin mai hi yw prif ofalwraig ei mam, a gafodd ddiagnosis o ganser angheuol 3 mis yn ôl.


Sefyllfa 3: Rydych chi wedi bod yn dysgu Lisa am yr eildro. Fel gyda’r modiwl diwethaf, oedd â rhai sesiynau yn cychwyn am 9 y bore, rydych chi wedi sylwi bod Lisa’n methu’r holl ddarlithoedd sy’n cael eu cynnal yn y bore. Bu’n dair wythnos ac nid yw Lisa wedi bod yn bresennol yn unrhyw rai o’r sesiynau a gynhelir yn y bore.

GWYBODAETH NEWYDD: Rydych chi wedi edrych ar yr ystadegau ar Panopto ac ymddengys fod Lisa wedi gwylio’r holl sesiynau y bu iddi eu methu. Mae ganddi hefyd lawer o gwestiynau ac mae’n anfon llawer o negeseuon e-bost atoch, pob un ohonynt yng nghanol y nos.

GWYBODAETH NEWYDD: Er ei bod yn methu’r darlithoedd a gynhelir yn gynnar yn y bore, mae Lisa wastad yn bresennol yn y seminarau, ac yn cyfrannu’n helaeth atynt. Hi yn aml yw’r un amlycaf yn y trafodaethau, ac mae’n torri ar draws eraill ac yn ymateb yn flin weithiau pan fydd rhywun yn anghytuno â’i phwyntiau. 

GWYBODAETH NEWYDD: Cafodd Lisa farc isel yn ei haseiniad diwethaf ac mae hi’n drist iawn ynghylch hynny. Daeth i siarad â chi yn ei gylch, ac yn ystod y sgwrs dywedodd wrthych ei bod wedi cael diagnosis o ADHD cyn hyn, ond na ddatgelodd hynny wrth y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*