Llif Gwaith Aseiniad Panopto yn Blackboard Learn Ultra

Yn ein neges flog flaenorol amlinellwyd rhai o’r newidiadau i Panopto wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra.

Yn y neges flog hon byddwn yn amlinellu’r newidiadau i ddefnyddio Panopto ar gyfer Aseiniadau. Defnyddir Aseiniadau Panopto i fyfyrwyr gyflwyno recordiad neu gyflwyniad.

Yn rhan o’r newid hwn, rydym yn argymell:

  1. Eich bod yn Creu Aseiniad Blackboard
  2. Bod myfyrwyr yn cyflwyno drwy Blackboard Assignment ac yn uwchlwytho drwy’r adnodd cyflwyno Panopto

Y manteision i’r llif gwaith newydd hwn yw:

  1. Mae’r llif gwaith ar gyfer cyflwyno a marcio yn haws
  2. Mae marciau ac adborth yn mynd yn awtomatig i’r Llyfr Graddau
  3. Mae myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost ar gyfer eu cyflwyniad

Er mwyn cefnogi staff gyda’r broses hon, mae gennym ganllaw Aseiniad Panopto sy’n mynd â chi drwy osod yr aseiniad, cyflwyniad y myfyrwyr, a marcio ar ein tudalennau gwe Cipio Darlithoedd.

Mae gennym hefyd gwestiwn cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*