Sicrhewch fod Cyrsiau Blackboard Learn Ultra yn fwy gweledol gyda Modiwlau Dysgu, Delweddau Cwrs, a Delweddau Unsplash

Mae rhywfaint o’r adborth yr ydym wedi’i gael am Gyrsiau Blackboard Ultra yn nodi nad ydynt mor addasadwy yn weledol â chyrsiau’r Blackboard gwreiddiol. Caiff Ultra ei greu gan gadw hygyrchedd mewn cof, sy’n golygu nad yw rhai o’r nodweddion a oedd gennym o’r blaen, megis cefndiroedd lliw neu weadog a thestun a allai fod mewn cyferbyniad lliw isel ar gael mwyach.

Yn y neges flog hon byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau i chi a allai helpu i wneud eich Cyrsiau Blackboard Ultra yn fwy deniadol i’r golwg, gan gynnwys rhai nodweddion newydd sbon a gyrhaeddodd ym mis Medi.

Modiwlau Dysgu

Mae Modiwlau Dysgu yn gweithio’n debyg i ffolderi a gellir eu gosod ar lefel uchaf y Dudalen Gynnwys. Gallwch ddefnyddio’r rhain i drefnu eich Deunyddiau Dysgu. Un o’r datblygiadau a gyrhaeddodd yn ddiweddar yw’r gallu i uwchlwytho delweddau i Fodiwlau Dysgu.

I greu Modiwl Dysgu, cliciwch ar y + a Creu > Modiwl Dysgu:

Golygydd Modiwl Dysgu gyda Ychwanegu Llun wedi’i amlygu

O’r fan honno, gallwch bwyso Ychwanegu delwedd i uwchlwytho delwedd o’r chwilotwr ffeiliau. Dewiswch y ddelwedd o’r Chwilotwr Ffeiliau sy’n agor ac uwchlwytho. Fel arall, gallwch lusgo a gollwng eich delwedd i olygydd y Modiwl Dysgu. Ar ôl i chi ychwanegu delwedd at Fodiwl Dysgu, bydd yn ymddangos fel a ganlyn:

Modiwl Dysgu gyda delwedd ynghlwm a ffolder wythnosol

Cynhyrchydd delweddau Unsplash ar gyfer baneri a Modiwlau Dysgu

Cael trafferth dod o hyd i ddelwedd ar gyfer eich Modiwl Dysgu a’ch Baner Cwrs? Yn y fersiwn ym mis Medi, ychwanegwyd llyfrgell ddelweddau Unsplash i Blackboard Ultra. Nawr gallwch chwilio eu llyfrgell helaeth o ddelweddau heb freindal.

I ychwanegu Baner Cwrs, dewiswch Golygu gosodiadau arddangos:

ychwanegu Delwedd Cwrs gyda Golygu gosodiadau arddangos wedi'i amlygu

Yna dewiswch ddelwedd i’w huwchlwytho:

Delwedd Cwrs gydag eicon llun wedi'i amlygu i ychwanegu delwedd

Gallwch ddewis uwchlwytho eich ffeil ond os hoffech ddewis delwedd o Lyfrgell Unsplash, cliciwch ar y gwymplen a dewis Delweddau stoc o Unsplash.

Rhowch eich term chwilio, cadwch eich baner a dewiswch ei arddangos ar eich cwrs:

Gallwch hefyd ddefnyddio Unsplash ar Fodiwlau Dysgu. Yn hytrach nag uwchlwytho delwedd, cliciwch ar Ychwanegu delwedd yn y ddewislen Modiwl Dysgu a dewiswch Delweddau stoc o Unsplash ar y gwymplen i ddewis eich delwedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio’r nodweddion hyn neu am unrhyw agwedd ar Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (elearning@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*