Ystyriaethau ar gyfer Canfod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan aelodau’r Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Mae tirwedd dysgu ac addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi bod yn datblygu’n gyflym. Fel y mae’r staff yn ymwybodol, diweddarwyd y Rheoliad Ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol  er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu myfyrwyr. Diweddarwyd y Ffurflen Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a’r tabl cosbau i gynnwys ‘Cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel eich gwaith eich hun’ (a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd ym mis Mawrth 2023).

Crëwyd y gweithgor Deallusrwydd Artiffisial, dan gadeiryddiaeth Mary Jacob, ym mis Ionawr 2023 i gydlynu ymdrechion y prifysgolion. Gweler Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i gael canllawiau ac adnoddau cyfredol. Rydym wrthi’n cynllunio deunyddiau hyfforddi ar gyfer staff a myfyrwyr a fydd ar gael ymhell cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyngor ar farcio

Ar 3/4/2023, daeth offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial Turnitin yn weithredol. Ar hyn o bryd, mae’r Sgôr Deallusrwydd Artiffisial (AI Score) yn weladwy i staff ond nid i fyfyrwyr. Gallai hyn newid os bydd Turnitin yn diweddaru’r adnodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gweler Lansio Adnodd Turnitin i Ddatgelu Ysgrifennu drwy Ddeallusrwydd Artiffisial a ChatGPT | (aber.ac.uk) ar flog UDDA a Turnitin’s AI Writing Detection (Cynnwys allanol) gan Turnitin (sylwer y gall yr un darn gael ei adnabod fel cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial ac fel darn sy’n cyfateb i ffynhonnell allanol).

Mae consensws clir ymhlith arbenigwyr yn y sector na all unrhyw offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial roi tystiolaeth bendant.

Daw hyn gan y QAA, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg Drydyddol (a noddir gan Jisc), ac eraill. Cewch hyd i ddolenni i’r dystiolaeth hon ar dudalen Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan gynnwys y recordiad QAA lle mae Michael Webb o’r Ganolfan Genedlaethol yn esbonio pam fod hyn yn wir.

Os ydych chi’n wynebu achos posib o ymddygiad academaidd annerbyniol, mae eich barn broffesiynol yn allweddol er mwyn gwneud y penderfyniad cywir. Dyma’r cyngor gorau y gallwn ei roi i adrannau:

  1. Defnyddiwch offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin ar y cyd â dangosyddion eraill – Gall offeryn Turnitin roi arwydd bod angen ymchwiliad pellach ond nid yw’n dystiolaeth ynddo’i hun.
  2. Gwiriwch y ffynnonellau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml, ond nid bob amser, yn cynhyrchu dyfyniadau ffug. Gall y rhain ymddangos yn gredadwy ar yr olwg gyntaf – awduron go iawn a chyfnodolion go iawn, ond nid yw’r erthygl yn bodoli. Gwiriwch y ffynonellau a nodwyd er mwyn gweld a ydynt yn 1) rhai go iawn a 2) wedi eu dewis yn briodol ar gyfer yr aseiniad. A yw’r ffynhonnell yn berthnasol i’r pwnc? Ai dyma’r math o ffynhonnell y byddai myfyriwr wedi’i darllen wrth ysgrifennu’r aseiniad (e.e. nid llyfr plant yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ar gyfer astudiaeth achos busnes)? Nid yw hyn yn brawf pendant o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, ond mae’n dystiolaeth gadarn nad yw’r myfyriwr wedi gwneud pethau’n gywir.
  3. Gwiriwch y ffeithiau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml yn cynhyrchu celwyddau credadwy. Gallai’r testun swnio’n rhesymol ond mae’n cynnwys rhai ‘ffeithiau‘ sydd wedi eu creu. Nid yw deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn ddeallus mewn gwirionedd, mae’n gweithio fel peiriant rhagfynegi testun soffistigedig, felly os byddwch chi’n sylwi ar rywbeth sy’n ymddangos o’i le, gwnewch yn siŵr nad yw’n gelwydd credadwy.
  4. Ystyriwch lefel y manylder – Mae deallusrwydd artiffisial yn tueddu i gynhyrchu allbwn rhy generig, e.e. defnyddio termau haniaethol heb unrhyw ddiffiniadau nac enghreifftiau pendant. A yw’r traethawd neu’r adroddiad wedi’i ysgrifennu yn or-gyffredinol ynteu a yw’n cynnwys enghreifftiau pendant sy’n ddigon manwl i gefnogi’r casgliad ei fod wedi ei ysgrifennu gan fyfyriwr? Unwaith eto, nid yw diffyg manylder yn dystiolaeth bendant bod myfyriwr wedi twyllo ond gall fod yn rhybudd ar y cyd â ffactorau eraill.
  5. Cynhaliwch gyfweliad i benderfynu a yw’r gwaith yn ddilys – Os gwelwch arwyddion cryf o ymddygiad academaidd annerbyniol, gallai cyfweliad neu banel lle gofynnir cwestiynau i’r myfyriwr am ei aseiniad fod yn ffordd o gael tystiolaeth bendant. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol ar raddfa eang. Mae hon yn broblem gymhleth, nid i’n prifysgol ni yn unig ond ar draws y sector.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gweler y Crynodeb Wythnosol o Adnoddau i ddysgu am ddigwyddiadau a deunyddiau, e.e. yr erthygl hon yn benodol am astudiaeth ar offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin: Fowler, G. A. (3/4/2023), We tested a new ChatGPT-detector for teachers. It flagged an innocent studentWashington Post. Mae Fowler yn egluro sut yr aethant ati i’w brofi, yr hyn a ganfuwyd, a pham y cynhyrchodd ganlyniadau ffug.

Yn fyr, os mai sgôr deallusrwydd artiffisial Turnitin yw’r unig beth amheus y mae staff yn sylwi arno, byddem yn argymell yn erbyn dwyn achos Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Mae gormod o bosibilrwydd o niwed os nad yw’r myfyriwr wedi twyllo mewn gwirionedd.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*