Branwen Rhys: aelod diweddaraf UDDA

Ymunais â’r Uned Datblygu ac Addysgu ychydig ar ôl y Pasg eleni fel Swyddog Cefnogi E-ddysgu rhan-amser. Cyn hyn, bȗm yn gweithio fel Swyddog i’r Gofrestrfa Academaidd yn cefnogi’r Tîm Nyrsio arloesol gyda’u blwyddyn cyntaf o fyfyrwyr yn y Brifysgol.

Yn wreiddiol o Ynys Mȏn, symudais i Aberystwyth yn 2005 i ddechrau swydd Llyfrgellydd Graddedig dan Hyfforddiant gyda Gwasanaethau Gwybodaeth ac i gwblhau fy nghymhwyster dysgu o bell mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth yn DIS (ychydig yn nes!).

I mi, symudiad dros dro i lawr i’r de oedd hyn, gyda’r bwriad o ddychwelyd i ogledd Cymru ymhen y flwyddyn. Fodd bynnag, rydw i’n dal yma deunaw mlynedd yn ddiweddarach – yn briod a dau o blant, dau fochyn cwta, crwban pedair ugain oed a dim chwant codi pac!

Wedi blwyddyn yn y Brifysgol symudais i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y pymtheg mlynedd nesaf. Cefais amryw o rolau o fewn yr Uned Datblygiadau Digidol yno gan gyd-weithio ac arwain prosiectau megis ‘Cylchgronau Cymru’, Arddangosfa Ar-lein David Lloyd George, Portreadau Ar-lein, ‘Maes y Gȃd i Les y Wlad’ ac yn fwy diweddar, prosiect ‘Hanes Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG’.

Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau pob math o gelf a chrefft, cerddoriaeth a mynd am dro gyda’r teulu. Yn y gwaith, rydw i’n addysgwr naturiol sy’n mwynhau rhannu gwybodaeth a sgiliau ag eraill i’w galluogi i weithio’n fwy effeithlon. Mae’n bleser gennyf i ddychwelyd i Adran Gwasanaethau Gwybodaeth, i swydd sy’n nes i’m gwreiddiau llyfrgellyddol, ac edrychaf ymlaen i fod yn aelod sefydledig o’r Tîm LTEU.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*