Lansio Adnodd Turnitin i Ddatgelu Ysgrifennu drwy Ddeallusrwydd Artiffisial a ChatGPT

Turnitin icon

Ar 4 Ebrill bydd Turnitin yn lansio eu hadnodd newydd i ddatgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial a ChatGPT. Bydd hwn yn cael ei ychwanegu at yr Adroddiad Tebygrwydd. Cyn i gydweithwyr ddechrau defnyddio’r datgelydd deallusrwydd artiffisial, roeddem ni’n meddwl y byddem yn tynnu eich sylw at ambell rybudd yn ei gylch yn y dyfyniadau hyn gan gyrff proffesiynol awdurdodol yn y sector. 

Mae Jisc yn nodi (cyfieithwyd y dyfyniad o’r Saesneg): “Ni all datgelyddion deallusrwydd artiffisial brofi’n bendant bod testun wedi cael ei ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial.”

— Michael Webb (17/3/2023), AI writing detectors – concepts and considerations, Canolfan Genedlaethol Jisc ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial

Dyma gyngor yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (eto, cyfieithwyd y dyfyniad o’r Saesneg): “Byddwch yn ofalus yn eich defnydd o offer sy’n honni eu bod yn datgelu testun a gynhyrchwyd drwy ddeallusrwydd artiffisial, a chynghori staff am safiad y sefydliad ar hyn. Nid yw allbwn yr offer hyn wedi cael ei wirio a cheir tystiolaeth bod rhywfaint o destun a gynhyrchwyd drwy ddeallusrwydd artiffisial yn llwyddo i osgoi’r datgelyddion. Hefyd, mae’n bosibl na fydd myfyrwyr wedi rhoi caniatâd i lwytho eu gwaith i’r offer hyn nac wedi cytuno ar sut y bydd eu data’n cael eu cadw.”

— ASA (31/1/2023), The rise of artificial intelligence software and potential risks for academic integrity: briefing paper for higher education providers

Gweler hefyd y Canllawiau i Staff a luniwyd gan y Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol dan arweiniad Mary Jacob. Mae’r canllawiau’n amlinellu awgrymiadau ar gyfer sut y gallwn esbonio ein hasesiadau presennol wrth fyfyrwyr mewn ffyrdd a fydd yn eu hannog i beidio ag ymddwyn mewn modd sy’n academaidd annerbyniol drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â’r rhybuddion (neu’r ‘baneri coch’) i’w hystyried wrth farcio.

Gallwch ddarllen mwy am y datblygiad deallusrwydd artiffisial yn Turnitin yn y postiad blog hwn gan Turnitin.

I gael arweiniad ar sut i ddefnyddio’r adnodd hwn, darllenwch y canllaw hwn gan Turnitin:

Mae Turnitin hefyd wedi cyhoeddi tudalen adnoddau ar ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial i gefnogi addysgwyr gydag adnoddau addysgu ac i roi gwybod am eu cynnydd wrth ddatblygu nodweddion datgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio adnodd Turnitin i ddatgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial a ChatGPT neu am ddehongli’r canlyniadau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*