Cyrsiau Ymarfer Ultra wedi’u creu

Blackboard Ultra icon

Nawr bod y templedi wedi’u cadarnhau rydym wedi creu Cwrs Ymarfer Ultra unigol ar gyfer pob aelod o staff.

Mae’r cwrs ymarfer hwn yn breifat i chi ac nid oes unrhyw fyfyrwyr wedi cofrestru arno. Gallwch ddefnyddio’r cwrs hwn i greu cynnwys a rhoi cynnig ar y rhyngwyneb cwrs Ultra newydd.

Cewch hyd i’ch cwrs ymarfer drwy fynd i Mudiadau ar y ddewislen ar yr ochr chwith:

Mae’r cwrs wedi’i greu gyda’r templed cwrs PA dwyieithog. I gael rhagor o wybodaeth am dempledi cwrs, gweler ein blog blaenorol. Eu henw fydd eich enw Cwrs Ymarfer Ultra / Ultra Practice Course.  

I helpu i’ch paratoi ar gyfer y cyrsiau Ultra y flwyddyn academaidd nesaf, rhowch gynnig ar y canlynol:

  1. Creu cyhoeddiad
  2. Creu ffolder i drefnu deunydd
  3. Creu / uwchlwytho dogfen
  4. Postio dolen i wefan
  5. Copïo deunydd o un o’ch modiwlau i mewn i’ch cwrs ymarfer Ultra

Fe welwch y bydd modd i chi lusgo a gollwng cynnwys yn llawer haws yn Ultra.  Hefyd, gallwch ddewis lle rydych chi’n ychwanegu cynnwys (heb fod cynnwys newydd yn cael ei roi ar waelod y dudalen yn ddiofyn).

Gan fod Ultra yn llawer mwy llyfn na’r Blackboard gwreiddiol, mae eich dull o drefnu cynnwys yn hanfodol i helpu myfyrwyr i lywio’r modiwl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r nodweddion rhagolwg er mwyn i chi gael syniad o sut mae’r cynnwys yn edrych i fyfyrwyr:

Efallai yr hoffech drafod trefn y cynnwys gyda chydweithwyr i weld a oes dull adrannol neu gynllun yr hoffech ei ddilyn.

Byddwn yn defnyddio’r ymarferion trefnu hyn at ddibenion hyfforddi dros y misoedd nesaf. Cadwch lygad ar ein blog a’n tudalennau gwe i gael gwybodaeth ychwanegol wrth i ganllawiau pellach gael eu cynhyrchu.

Byddwn yn blogio tasgau ychwanegol dros y misoedd nesaf i chi roi cynnig arnynt yn eich cwrs ymarfer Ultra. Yn ein blog nesaf o’r natur hon, byddwn yn edrych yn fanwl ar y profion Grade Book, Aseiniadau, Turnitin, a Blackboard.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am symud i Blackboard Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*