Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Ail siaradwr gwadd: Andy McGregor, JISC

Keynote announcement banner

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hail siaradwr allanol ar gyfer Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni: Andy McGregor, Andy yw Cyfarwyddwr Technoleg Addysg ar gyfer JISC. 

Bydd gweithdy Andy’n canolbwyntio ar ddyfodol asesu ac mae’n seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ddatblygu asesu i fod yn fwy dilys, hygyrch, wedi’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.

Mae Andy yn gyfrifol am reoli portffolio JISC o brosiectau datblygu ac ymchwil sy’n datblygu gwasanaethau newydd i helpu prifysgolion a cholegau i wella addysg ac ymchwil.

Yn ogystal ag Andy, y siaradwr gwadd eleni yw Dr Chrissi Nerantzi o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.

Cynhelir y nawfed gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol ar-lein rhwng dydd Mercher 30 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Dilynwch y blog hwn i gael rhagor o gyhoeddiadau.

One thought on “Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Ail siaradwr gwadd: Andy McGregor, JISC

  1. Pingback: Rhaglen lawn: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021 | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*