Cyhoeddi’r Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Keynote announcement banner

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch o gyhoeddi mai Dr Chrissi Nerantzi fydd y prif siaradwr eleni.

Cynhelir y gynhadledd ar-lein trwy Teams rhwng 30 Mehefin a’r 2il o Orffennaf. Mae archebu bellach ar agor ar gyfer y gynhadledd eleni, ac mae dal modd i chi gyflwyno cynnig drwy ein ffurflen ar-lein.   

Dr Chrissi Nerantzi (@chrissinerantzi), Prif Ddarlithydd – DPP Academaidd, Academi Addysgu’r Brifysgol (UTA), Prifysgol Fetropolitan Manceinion

Ym Met Manceinion, datblygodd Chrissi’r rhaglen datblygu proffesiynol FLEX, rhaglen seiliedig ar ymarfer a drwyddedir yn agored sy’n ymgorffori llwybrau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol trwy ddefnyddio portffolios proffesiynol digidol a chyfleoedd datblygu agored, gan gynnwys mentrau cydweithredol ar draws mwy nag un sefydliad. Mae FLEX wedi ysbrydoli mentrau pellach yn fewnol ac yn allanol gyda staff a myfyrwyr. Hi yw sylfaenydd y gymuned traws-sefydliadol Creativity for Learning in Higher Education (#creativeHE), y gweminarau Teaching and Learning Conversations (TLC) a chyd-sylfaenydd y cyrsiau agored Flexible, Distance and Online (FDOL), y cwrs Bring Your Own Devices for Learning (BYOD4L) a’r sgwrs trydar Learning and Teaching in Higher Education (#LTHEchat). Mae Chrissi yn dysgu ar yr MA mewn Addysg Uwch yn ei sefydliad ac mae’n arwain y cynllun Recognising and Rewarding Teaching Excellene a’r Good Practice Exchange. Mae hefyd yn cydlynu cyflwyniadau i’r NTF a CATE ac mae’n mentora cydweithwyr yn rheolaidd. Mae Chrissi yn cyfrannu at weithgareddau datblygu academaidd pellach yn Academi Addysgu’r Brifysgol (UTA), gan gynnwys cynllun Fframwaith Safonau Proffesiynol y sefydliad; mae’n cynorthwyo cydweithwyr i gynllunio’r cwricwlwm creadigol ac mae’n un o’r Cysylltiadau Cyfadrannol ar gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Mae ymagwedd Chrissi tuag at ddysgu ac addysgu yn arbrofol, yn chwareus ac yn gydweithredol. Mae ei diddordebau ymchwil ym meysydd creadigrwydd, dysgu agored a chydweithredol ac mae wedi cyhoeddi’n eang ac yn agored, yn aml ar y cyd ag eraill.

Ar hyn o bryd, mae’n arwain y gwaith o ddatblygu’r Global Culture Jam, rhaglen pum niwrnod a gyd-gynlluniwyd gyda staff a myfyrwyr ac i fyfyrwyr a staff ar draws ManMet, partneriaid cydweithredol a’r cyhoedd ehangach, ac a gynigir ym mis Mehefin 2021 i ddathlu dysgu, addysgu a gweithio traws-ddiwylliannol. Mae’r Global Culture Jam wedi ysbrydoli creu ysgol haf ryngwladol yn ei sefydliad.

Mae Chrissi’n ymwneud yn wirfoddol â’r rhaglen fyd-eang, Open Education for a Better World Programme, fel mentor, cydlynydd mentoriaid ac aelod o’r bwrdd cynghori. Mae’r rhaglen, a sefydlwyd dros bedair blynedd yn ôl, yn defnyddio addysg agored i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae Chrissi yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol ac yn Brif Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch. Mae hefyd yn Ysgolhaig Ymweliadol yn y Lab of Informatics and Robotics in Education and Society Applications (LIRES) a’r Academi Roboteg ym Mhrifysgol Macedonia yng Ngwlad Groeg, ac yn 2020 daeth yn Athro Gwadd yn yr Ysgol Addysg a Seicoleg ym Mhrifysgol Bolton, lle mae’n cefnogi Rhagoriaeth Addysgu.

2 thoughts on “Cyhoeddi’r Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

  1. Pingback: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Ail siaradwr gwadd: Andy McGregor, JISC | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

  2. Pingback: Rhaglen lawn: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021 | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*