Rhaglen lawn: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 9fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd,  29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021. Mae thema’r gynhadledd eleni, Byrfyfyrio â Chyfyngiadau: Ail-lunio Cymuned Ddysgu mewn Cyfnod o Newid yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.

Rydym yn falch o gadarnhau ein rhaglen lawn.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Rydym yn gyffrous iawn i groesawu pedwar siaradwr allanol eleni:

  • Prif siaradwr eleni yw Dr Chrissi Nerantzi sydd yn Brif Ddarlithydd – DPP Academaidd, Academi Addysgu’r Brifysgol (UTA), Prifysgol Fetropolitan Manceinion. Bydd Dr Nerantzi yn canolbwyntio ar addysgeg agored a hyblyg.  
  • Ein hail siaradwr allanol yw Andy McGregor, sy’n Gyfarwyddwr Technoleg Addysgu ar gyfer JISC. Bydd ei weithdy yn canolbwyntio ar ddyfodol asesiadau.  
  • Ein trydydd siaradwr allanol yw Dr Dyddgu Hywel, Uwch-ddarlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Bydd ei chyflwyniad rhyngweithiol yn canolbwyntio ar flaenoriaethu lles myfyrwyr a staff. (Bydd cyflwyniad Dr Hywel drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn cynnig cyfieithu ar y pryd.)
  • Bydd ein siaradwr allanol olaf, Joe Probert,  sy’n Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid yn Vevox, yn cyflwyno sesiwn ar sut i wneud defnydd effeithiol o bleidleisio i ennyn diddordeb dysgwyr.

Mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol eleni gan gynrychiolwyr o bob cyfadran. Yn ogystal â’n pedwar siaradwr allanol, byddwn hefyd yn cael cyflwyniad gan fyfyrwyr, fforwm Dysgu o Bell a phanel Ysgol Fusnes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd, a chofiwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*