Dyddiau cau galwad am gynigion – Cynhadledd Fer: Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm

Ar Ddydd Iau 25ain o Fawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal yr ail o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein. Y thema fydd ‘Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, a byddwn yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff.

Y tri phrif edefyn ar gyfer y Gynhadledd Fer fydd:

  • Adnabod y rhwystrau o ran lles myfyrwyr
  • Meithrin gwytnwch mewn myfyrwyr
  • Annog myfyrwyr i ffynnu

Rydym yn chwilio am gynigion gan staff, cynorthwywyr addysgu ôl-raddedig a myfyrwyr, i roi cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar eu harferion presennol o ran datblygu lles yn y cwricwlwm. Hyd yn oed os nad yw eich cynnig yn cyd-fynd yn union â’r edefynnau uchod, croesawn gynigion perthnasol eraill.

Os hoffech gyflwyno cynnig i’r Gynhadledd Fer, llenwch y ffurflen ar-lein hon cyn Dydd Gwener 26 Chwefror.

Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*