Siaradwyr Allanol: Cynhadledd Fer: Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm

' Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’

Fel y cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, ddydd Iau 25th Mawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal ail Gynhadledd Fer y flwyddyn academaidd. Y thema fydd Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, fydd yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff.

Rydym ni’n falch i gyhoeddi bod dau siaradwr allanol rhagorol wedi derbyn ein gwahoddiadau i gyflwyno yn ystod y gynhadledd:

Ffynnu yn Aberystwyth – Rhoi Addysg Gadarnhaol ar Waith

Addysg Gadarnhaol yw plethu addysgu ar gyfer canlyniadau academaidd ac ar gyfer lles a datblygu cymeriad er mwyn galluogi’r dysgwr i ffynnu. Mae dechrau ar gwrs astudio academaidd, boed ar lefel israddedig neu uwchraddedig, llawn amser neu ran amser, yn ddigwyddiad bywyd pwysig a all effeithio ar iechyd meddwl a lles. Mae’r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn wahanol i unrhyw un arall ac mae ffocws pendant ar les myfyrwyr a staff – y rhai sydd yn addysgu a’r rhai nad ydynt yn addysgu – yn bwysicach nag erioed.

Yn y sesiwn hynod ryngweithiol hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu am elfennau allweddol seicoleg gadarnhaol yng nghyd-destun addysg uwch, gan gynnwys:

  • Pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol
  • Defnyddio cryfderau cymeriad wrth addysgu, adborth a datblygu staff
  • Sut gall persbectifau amser ddylanwadu ar gymhelliant

Bydd staff Prifysgol Aberystwyth yn y sesiwn hon yn cael cyfle i archwilio sut y gall eu harferion dyddiol gefnogi lles eu myfyrwyr, eu cydweithwyr a nhw eu hunain. Bydd y sesiwn yn cynnwys elfennau o adfyfyrio, trafod ac ymarfer gweithgareddau sy’n cefnogi lles. Er y bydd y ffocws yn bennaf ar gefnogi lles myfyrwyr, mae hyn ar ei orau pan fydd staff hefyd yn iach.

Bydd y sesiwn felly hefyd yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddatblygu eu strategaethau lles eu hunain ac ystyried sut y gall systemau a gweithdrefnau’r Brifysgol fod yn sail i ddiwylliant o les.

Y siaradwr:

Mae Frederika Roberts yn siaradwr bywiog, egnïol sy’n arbenigo mewn Seicoleg Gadarnhaol, Addysg Gadarnhaol ac Addysg Cymeriad.

Mae wedi defnyddio ei phrofiad o fod yn fam i ddwy ferch sydd â chyflyrau difrifol ar y galon ac sydd, rhyngddyn nhw, wedi cael dau ataliad a thair llawdriniaeth ar y galon, ac wedi’i gefnogi gyda sail o dystiolaeth fel y gall ei chynulleidfaoedd ddod yn fwy gwydn, hapus a llwyddiannus. Mae gan Frederika MSc mewn Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol ac mae’n gweithio at Ddoethuriaeth mewn Addysg. Mae’n sicrhau bod ei sesiynau’n gwneud y wyddoniaeth yn hygyrch i bob cynulleidfa, o blant o bob oed i athrawon a chynrychiolwyr mewn cynadleddau corfforaethol.

Frederika yw awdur ‘Recipe for Happiness’ (2013), ‘For Flourishing’s Sake’ (i’w gyhoeddi yn 2020), cydawdur ‘Character Toolkit for Teachers’ (2018) a chrëwr podlediad ‘For Flourishing’s Sake’.

Hi hefyd yw Cynrychiolydd Ewropeaidd IPPAed (Adran Addysg y Gymdeithas Seicoleg Gadarnhaol Ryngwladol) a chaiff ei chyfweld yn aml ar y radio a’r teledu ar bynciau’n ymwneud â’i harbenigedd, fel hapusrwydd, lles a gwydnwch.


Cymunedau Ar-lein a Lles Myfyrwyr

Mae ymdeimlad o gymuned yn rhan hanfodol o les a bywyd prifysgol. Yn y sesiwn hon, rydym ni’n archwilio sut i greu cymunedau digidol effeithiol a all gefnogi ymdeimlad myfyrwyr o berthyn a diben, hwyluso cysylltiadau ystyrlon, a darparu cymorth heb ddibynnu ar amgylchedd campws.

Y siaradwr:

Mae Kate Lister yn ddarlithydd addysg gynhwysol yn y Brifysgol Agored, ac yn gydymaith gydag Advance HE. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar greu addysgeg gynhwysol, cwricwla, asesiadau a phrofiadau astudio sy’n cefnogi lles meddyliol myfyrwyr a llwyddiant myfyrwyr anabl.

Caiff y rhaglen lawn ei chyhoeddi’n fuan.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*