Pam a sut yr ydym yn rheoli cofrestriadau Blackboard

Un o’r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn yw gan bobl nad ydynt wedi’u cofrestru ar fodiwlau yn Blackboard. Ein hateb safonol yw y dylai’r staff a myfyrwyr fod wedi’u cofrestru ar y modiwl yng nghofnod y modiwl yn AstRA. Ar ôl gwneud hyn, dylai gymryd tua awr i’r cofrestriad gyrraedd Blackboard.

Ond gwyddom fod adegau o hyd pan fo myfyrwyr a staff yn cael eu hychwanegu i fodiwlau â llaw. Hoffem leihau hyn gymaint â phosibl, felly mae angen i ni ddeall pryd a sut mae hyn yn digwydd. Bydd ein harolwg byr yn ein helpu i wneud hyn. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn ein helpu i weld a oes angen gwneud newidiadau i’n prosesau er mwyn ei gwneud hi’n haws i bawb sydd angen bod ar fodiwl gael mynediad yn gyflym a hawdd.

Gall fod yn demtasiwn ychwanegu rhywun i fodiwl â llaw, yn arbennig os ydych ar frys, neu’n methu dod o hyd i rywun a all wneud y newid ar eich rhan. Fodd bynnag, mae sawl rheswm pam ein bod yn cymryd ein holl gofrestriadau o’r un ffynhonnell:

  1. Mae’n bosibl gweld yn glir pwy sydd â mynediad i fodiwl. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cofrestriadau staff oherwydd mae gan staff fynediad i farciau a manylion myfyrwyr. Os caiff ein holl gofnodion eu cymryd o AStRA, gwyddom, os oes gan rywun fynediad i fodiwl, bod eu cofrestriad wedi cael ei gymeradwyo. Hefyd, mae yna wiriadau o fewn AStRA sy’n gwneud yn siŵr mai dim ond manylion adnabod staff sy’n gallu cael caniatâd addysgu ar gyfer modiwl. Mae hyn yn osgoi camgymeriadau gyda manylion mewngofnodi neu gamgymeriadau teipio a allai olygu bod myfyrwyr yn cael mynediad i raddau (er enghraifft) yn ddamweiniol.
  2. Mae myfyrwyr yn cael mynediad i’r modiwlau y maent wedi’u cofrestru arnynt yn unig. Er ein bod yn annog y myfyrwyr i wirio eu Cofnod Myfyriwr, yn aml byddant yn mynd yn ôl y modiwlau y maent wedi’u cofrestru arnynt yn Blackboard. Felly, os yw myfyriwr wedi cael ei ychwanegu i fodiwl yn Blackboard â llaw, ond heb gofrestru’n iawn yn y cofnod myfyriwr, gallai hyn achosi pob math o broblemau. Yn arbennig wrth gyrraedd cyfnod y byrddau arholi.
  3. Gellir ailadeiladu cofrestriadau os oes angen. Os oes problem â Blackboard, gallwn ailadeiladu caniatâd i fodiwlau’n gyflym a hawdd gan fod ffynhonnell ganolog iddynt. Ni fydd unrhyw gofrestriadau â llaw wedi’u cynnwys yn y broses hon a gallai olygu oedi cyn cael mynediad.

Os ydych chi’n ychwanegu staff neu fyfyrwyr i fodiwlau â llaw (neu’n gofyn i rywun arall wneud ar eich rhan) gofynnwn i chi roi rhai munudau o’ch amser i gwblhau ein harolwg.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*