Siaradwr Allanol: Mynd i’r Afael ag Adborth, Dr Robert Nash

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein siaradwr allanol nesaf.

Ddydd Gwener 11 Mawrth, 10yb-12yp, bydd Robert Nash yn cynnal dosbarth meistr ynglŷn â strategaethau i fynd i’r afael ag adborth.

Mae tudalen archebu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar agor a gallwch sicrhau eich lle yno.

Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ar-lein trwy Teams ac anfonir dolen atoch cyn y digwyddiad.

Gweler isod ddisgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr.

Disgrifiad o’r sesiwn

Pam nad ydyn nhw’n gwrando ar fy adborth?

Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl berfformio’n dda yn hytrach na pherfformio’n wael, ac un o brif amcanion rhoi adborth i fyfyrwyr yw eu cynorthwyo i wella eu perfformiad.  Pam, felly, mae ein myfyrwyr mor aml yn anwybyddu, yn gwrthwynebu ac yn gwrthod yr adborth a rown iddynt, a beth allwn ni ei wneud am hyn?  Er mwyn rhoi’r gweithdy mewn cyd-destun, byddwn yn ystyried yn gyntaf i ba raddau mae’r problemau hyn yn unigryw i fyfyrwyr. Yn benodol, byddaf yn rhannu ambell ddarlun o feysydd amrywiol mewn seicoleg gymdeithasol sy’n dangos y cymhellion meidrol sydd wrth wraidd osgoi adborth. Gan gadw’r agweddau hyn mewn cof, awn ymlaen i ymchwilio i’r rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol sy’n cyfyngu ar allu myfyrwyr i fynd I’r afael â’u hadborth yn effeithiol. Byddwn yn ystyried ffyrdd ymarferol y gallwn ni, fel addysgwyr, gyfrannu at oresgyn y rhwystrau hyn. Trwy gydol y trafodaethau, mae cynaliadwyedd yn allweddol: wrth i’r baich gwaith academaidd gynyddu fwyfwy, ni all ein hatebion bob amser gynnwys rhoi mwy o adborth, adborth mwy cyflym, ac adborth mwy cywrain.  Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o geisio rhoi ar waith yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth addysgu eraill dros gyfnod o bron i ddegawd yn gweithio ar y problemau hyn.

Bywgraffiad y siaradwr

Mae Dr Rob Nash yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aston ac yno, ar y funud, mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Israddedigion yn yr Ysgol Seicoleg. Fel seicolegydd arbrofol, prif arbenigedd Rob yw’r cof dynol, yn arbennig y ffordd y mae atgofion yn magu rhagfarn, yn cael eu hystumio a’u ffugio.  Er hyn, mae hefyd yn arwain a chyhoeddi ymchwil ar bwnc adborth mewn addysg, gyda’r pwyslais ar y ffordd mae pobl yn ymateb ac adweithio wrth gael adborth. Mae Rob yn Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch, yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymhreiriaid Legal & Criminological Psychology, ac mae’n un o awduron Developing Engagement with Feedback Toolkit (Higher Education Academy, 2016).

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni (lteu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*