Cyfuno Cyrsiau 2024-25

Mae cyrsiau 2024-25 bellach ar gael i staff yn Blackboard, felly rydym yn barod i gyfuno eich cyrsiau ar gais cydlynydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel Cyfuno cyrsiau (gelwid gynt yn berthynas rhiant a phlentyn). Mae cysylltu cyrsiau yn ffordd effeithiol o drin cyrsiau unigol gyda’r un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau i ddau neu ragor o gyrsiau gwahanol.

Yn ôl y drefn hon, bydd un cwrs yn gwrs cynradd (gelwid gynt yn rhiant), a’r cwrs neu gyrsiau eraill yn gwrs eilaidd (gelwid gynt yn blentyn). Ni chyfyngir ar nifer y gyrsiau eilaidd ond ni ellir cael mwy nag un cwrs cynradd.

Os ydych chi’n gydlynydd modiwl a hoffech i ni gysylltu eich cyrsiau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan nodi’r codau modiwl ar gyfer y cwrs cynradd a phob cwrs eilaidd yr hoffech ei gyfuno.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes wedi cyfuno cyrsiau ar draws y sefydliad. Dyma ambell engraifft:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol.
  2. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig.

Beth mae’r myfyrwyr yn gweld?

Wrth fewngofnodi i Blackboard, bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r cwrs y maent wedi’u cofrestru arno (hyd yn oed os mai’r cwrs eilaidd yw hwnnw) ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y cwrs cynradd. Ni ddylid gosod na chreu unrhyw gynnwys yn y cwrs eilaidd.

Pwyntiau i’w hystyried

Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i chi greu cynnwys eich cyrsiau, yw’r amser perffaith i gysylltu cyrsiau. Er bod cysylltu cyrsiau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, ystyriwch yr isod cyn gwneud cais:

  • Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y cyrsiau’n cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y cwrs). Gellir gweld sleidiau PowerPoint, deunyddiau darlithoedd, a chwynnwys fel Cyhoeddiadau a deunyddiau rhyngweithiol eraill ar eich cwrs cynradd.
  • Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl eilaidd (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r cyrsiau gael eu cyfuno.
  • Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar gwrs eilaidd cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y cwrs cynradd.

Sut gallaf reoli’r cynnwys i sicrhau mai myfyrwyr y modiwl yn unig fydd yn ei weld?

Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r cyrsiau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau ac ‘amodau rhyddhau’ (gynt ‘rhyddhau’n ymaddasol’ yn Blackboard Original) os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno cwrs ail a thrydedd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol gyrsiau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn ac 1 ar gyfer myfyrwyr y drydedd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp ac amodau rhyddhau.

Llyfr Graddau a Chyfuno Cyrsiau

Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yn Llyfr Graddau’r cwrs cynradd. Fodd bynnag, gallwch bennu a ydynt wedi’u cofrestru ar y cwrs eilaidd gan fod y wybodaeth yma yn ymddangos wrth enw’r myfyriwr yng ngholofnau’r Llyfr Graddau. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y drefn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Dogfennau Cydweithredol ar gael yn Blackboard Ultra

Icon Blackboard Ultra

Un o’r gwelliannau newydd gwych sydd gennym yn Blackboard Ultra yw’r gallu i gynnwys dogfennau cydweithredol.

I’r rhai ohonom a wnaeth lawer o’n gwaith dysgu ar-lein yn ystod pandemig Covid, byddwch yn cofio inni glodfori manteision llwytho dogfen gydweithredol yn y sgwrs. Rydym wedi bod yn gweithio ar alluogi hyn yn ein Cyrsiau Blackboard ac rydym yn falch o ddweud bod y nodwedd hon ar gael i chi ei defnyddio yn eich cyrsiau ar gyfer 2023-24.

Mae hyn yn golygu y bydd eich myfyrwyr yn gallu cydweithio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ar Blackboard, yn eu hamser eu hunain. Mae 3 math o ddogfen ar gael i fyfyrwyr gydweithio arnynt:

  1. Word
  2. PowerPoint
  3. Excel

Byddwn ni’n defnyddio’r dogfennau cydweithredol ar gyfer dewisiadau eraill yn lle blogiau a wicis. Ond, os ydych chi eisiau i’ch myfyrwyr lunio mapiau meddwl, creu syniadau, neu adeiladu ar sail eu nodiadau ei gilydd, edrychwch ar y dogfennau cydweithredol. Gallech hefyd eu defnyddio i gael myfyrwyr i gofrestru ar gyfer grwpiau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd grŵp mewn cyrsiau Ultra i gyfyngu eitem i fyfyriwr penodol neu grŵp penodol o fyfyrwyr.  Hoffech chi wybod sut i wneud hynny? Edrychwch ar ganllawiau Blackboard ar Microsoft OneDrive a dogfennau cydweithredol.

Isafswm Presenoldeb Gofynnol 2023 -24: Diweddariad ar gyfer Cyrsiau Ultra

Icon Blackboard Ultra

Er mwyn paratoi ar gyfer symud i Ultra, mae Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard y Brifysgol wedi’i ddiweddaru a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd.

Rydym yn ailedrych ar bob un o’n polisïau bob blwyddyn, ond oherwydd y symudiad i Blackboard Ultra rydym wedi treulio mwy o amser yn paratoi’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol.

Mae Isafswm Presenoldeb Gofynnol llawn 2023 -24 bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.   

Mae rhai o’r newidiadau i’r IPG wedi eu rhestru isod:

  • Dylai ffolder Gwybodaeth y Modiwl gynnwys:
    • Dolen i bob recordiad Panopto’r modiwl
    • Manylion cyswllt staff
  • Lleoliad trefnus ar gyfer Deunyddiau Dysgu
    • Nid ydym wedi pennu ffolder Deunyddiau Dysgu oherwydd y cyfyngiadau ffolder dwy lefel yn Ultra.
    • Mae gan gydweithwyr yr opsiwn i greu strwythur sy’n ateb eu hanghenion.
  • Mae’r ffolder Asesu ac Adborth yn aros yr un fath ag o’r blaen ac yn cael ei llenwi ymlaen llaw gyda:
    • Canllawiau i fyfyrwyr ar gyflwyno eu gwaith a dod o hyd i’w hadborth.
    • Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
    • Dolen i’r LibGuide ar Gyfeirnodi a Llên-ladrad
    • Dolen i Hen Bapurau Arholiad
  • Mae’r ffolder Arholwyr Allanol bellach ar dudalen gynnwys modiwlau Ultra. Dylai’r ffolder hon aros yn gudd bob amser ac mae’n lle i chi gasglu deunyddiau ar gyfer arholwyr allanol.
  • Dylai’r ddolen i Restr Ddarllen Aspire fod ar dudalen gynnwys y modiwl a dim mwy na 6 lefel ffolder i lawr. Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â’ch rhestrau darllen, cysylltwch â’ch Llyfrgellwyr Pwnc.

Rydym bellach wedi dechrau ein rhaglen hyfforddiant Ultra Adrannol ac yn gobeithio eich gweld dros yr wythnosau nesaf. Os nad oes modd i chi fynychu eich sesiwn, rydym yn cynnal cyfres o sesiynau a drefnir yn ganolog i bob aelod staff gael ymuno.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn ag Ultra, cysylltwch â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Cyrsiau Ultra 2023-24

Pan ddewch yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd eich cyrsiau newydd yn Blackboard yn edrych ychydig yn wahanol. O fis Medi 2023, bydd yr holl gyrsiau newydd yn Blackboard yn gyrsiau Ultra.

Rydym wedi bod yn defnyddio Ultra Base Navigation (UBN) yn Blackboard ers mis Ionawr 2023, ac rydym yn gwybod bod llawer ohonoch yn meddwl ei fod yn haws i’w ddefnyddio – yn enwedig ar ddyfeisiau symudol.

Mae gan gyrsiau Ultra yr un dyluniad hygyrch a chyfeillgar i ffonau symudol ag UBN – dyma sut mae cwrs Ultra yn edrych:

Sgrinlun o Gwrs Ultra Blackboard

Oherwydd y ffordd y mae wedi’i ddylunio, nid oes gan gwrs Ultra fyth mwy na dwy lefel o ffolderi – mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer cyflymach ac yn haws dod o hyd i’ch deunyddiau cwrs a’r dolenni cyflwyno aseiniadau. Ac mae yna hefyd offer chwilio ym mhob cwrs.

Rydym hefyd wedi ailgynllunio templed y cwrs i sicrhau ei fod yn defnyddio’r iaith y mae’r cwrs yn cael ei addysgu ynddi. Os yw eich modiwl yn cael ei addysgu yn Gymraeg, bydd templed eich cwrs nawr yn Gymraeg. Ac mae gan fodiwlau dwyieithog dempled cwrs dwyieithog.

Mae llawer o wybodaeth am Ultra ar wefan Blackboard, gan gynnwys cyflwyniad i lywio eich ffordd o amgylch Cwrs Ultra (Noder – mae’r fideo ar y dudalen hon ar safle allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig). 

Mae holl gyrsiau y blynyddoedd blaenorol yn dal i fod ar gael – felly os oes angen edrych yn ôl ar ddeunyddiau hen gwrs, gallwch wneud hynny hefyd.

Cyrsiau Blackboard Ultra wedi’u creu ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023-24

Icon Blackboard Ultra

Mae’r fersiynau gwag o gyrsiau Blackboard Ultra ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023-24 bellach wedi cael eu creu gan ddefnyddio templed y Brifysgol, y cytunwyd arno ymlaen llaw

Creu Cyrsiau Ultra yn gynnar yw’r cam nesaf wrth inni drosi i Blackboard Ultra ac mae’n ein paratoi ar gyfer hyfforddiant dros y misoedd nesaf.

I weld eich cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, cliciwch ar Cyrsiau i ddod:

Sgrinlun o dudalen Cyrsiau Ultra gyda ‘Cyrsiau i ddod’ wedi'i amlygu

Byddwch yn gweld unrhyw gyrsiau yr ydych wedi’ch rhestru fel hyfforddwr arnynt yn ogystal â chyrsiau yr ydych, o bosibl, yn eu cefnogi fel gweinyddwr adrannol.

Os nad ydych yn gweld cwrs y dylech fod yn dysgu arno yna holwch eich gweinyddwr adrannol – efallai nad ydych wedi cael eich ychwanegu at gofnod y modiwl yn y System Rheoli Modiwlau. Rydym yn diweddaru’r ffrwd hon bob bore Mawrth felly gallwch ddisgwyl gweld eich modiwlau ar brynhawn Mawrth wedi i’r diweddariad ddigwydd.

Mae’r cyrsiau yn breifat ar hyn o bryd a byddant ar gael ar 1 Medi 2023. Ni fydd myfyrwyr yn ymddangos ar eich cyrsiau nes eu bod wedi cwblhau’r cofrestru.

Rydym wedi cysylltu â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu yr adrannau i drefnu sesiwn hyfforddiant ar gyfer eich adran.

Os hoffech ddechrau paratoi eich cyrsiau, efallai y bydd arnoch eisiau:

Mae cam nesaf y trosi i Ultra yn canolbwyntio ar hyfforddi a sicrhau bod ein deunyddiau cymorth wedi cael eu diweddaru. Gweler ein crynodeb o hyfforddiant am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blackboard Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Fyddaf fi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a deunyddiau ar ôl inni symud i Ultra?

Icon Blackboard Ultra

Bydd cyrsiau’r blynyddoedd blaenorol yn parhau i fod ar gael (yn unol â pholisi cadw’r brifysgol). Byddwch chi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a’u deunyddiau gan ddefnyddio’r gwymplen Cyrsiau.

Sylwch fod y ffordd i gael gafael ar gyflwyniadau Turnitin o’r cyfnod cyn haf 2022 wedi newid – darllenwch ein canllawiau ar lawrlwytho cyflwyniadau Turnitin a wnaed cyn haf 2022.

Diweddariad ar Brosiect Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon

Mae peth amser wedi mynd ers i ni roi adroddiad ar ein cynnydd wrth drosglwyddo i Blackboard Ultra. Rydym ni wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer dechrau ein rhaglen hyfforddi a sicrhau bod yr integreiddiadau’n gweithio.

Diweddariad Technegol

Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar y broses Creu Cyrsiau. Er mwyn helpu cydweithwyr i drosglwyddo i Ultra, rydym ni’n creu cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn gynharach o lawer eleni.

Bydd hyn hefyd yn helpu gyda hyfforddiant wrth i gydweithwyr baratoi eu cwrs Ultra byw.

Bu’n rhaid gwneud llawer o waith i sefydlu’r integreiddiadau a’u cael i weithio:

  • Panopto: mae Panopto wedi symud i gysylltydd API yn barod ar gyfer Cyrsiau Ultra.
  • Talis Aspire. Mae LTI Talis Aspire bellach wedi’i alluogi. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Ymgysylltu Academaidd i sicrhau bod hyn mor llyfn â phosibl.
  • Turnitin. Cwblhawyd y gwaith o drosglwyddo Turnitin i gysylltydd LTI yn ystod haf 2022, ac nid oes angen newidiadau ychwanegol i Turnitin ar gyfer symud i Gyrsiau Ultra.
  • Cyfarfodydd Microsoft Teams. Byddwn yn symud i’r LTI Teams yn ystod haf 2023. Bydd yr offeryn hwn ar gyfer amserlennu cyfarfodydd Teams.

Mae’r rhain yn offer sydd eisoes yn bodoli ond un o fanteision symud i Ultra yw cyflwyno integreiddiad LTI Office 365. Mae hyn yn caniatáu i chi uwchlwytho dogfennau o OneDrive yn syth i Blackboard yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr gydweithio ar ddogfen gyda’i gilydd. I’r rheini ohonoch chi sydd wedi bod yn dilyn ein cynnydd ar y blog, fe welwch mai’r offeryn cydweithredol hwn yw sail ein datrysiad Wiki.

Diweddariad Hyfforddiant

Mae’r sesiwn Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Ultra bellach wedi’i chynllunio ac yn barod ar gyfer sesiynau hyfforddi staff adrannol.

Rydym ni wedi cyfathrebu â Chyfarwyddwyr Addysgu a Dysgu pob Adran i ddechrau trefnu eich sesiwn hyfforddiant adrannol. Os nad ydych chi’n gallu mynd i’r sesiwn a drefnwyd ar eich cyfer byddwn yn eu cynnal yn ganolog.

Gweler ein blogbost hyfforddi ar gyfer trosolwg o’n pecyn hyfforddi.

Isafswm Presenoldeb Gofynnol

Gan fod gan gyrsiau Blackboard Ultra ddull gweithredu cwbl wahanol o ran trefnu a gosod cynnwys, mae’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol wedi ei ailysgrifennu. Cadwch olwg am yr isafswm wedi’i ddiweddaru.

Deunyddiau Canllaw

Rydym ni wedi bod yn gweithio ar symleiddio a pharatoi ein deunyddiau canllaw, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin. Un newid y byddwch yn sylwi unwaith y byddwn mewn Cyrsiau Ultra yw y bydd ein cwestiynau cyffredin yn cysylltu’n uniongyrchol â deunyddiau cymorth Blackboard. Mae’r deunyddiau hyn ar gael yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Elfen allweddol o’r gynhadledd fydd Blackboard Ultra. Cadwch olwg ar ein blogiau wrth i ni gyhoeddi’r prif siaradwyr. Gair i atgoffa bod ein Galwad am Gynigion yn cau ar 5 Mai – gallwch gyflwyno cynnig yn defnyddio ein ffurflen Galwad am Gynigion.

Gwobr Cwrs Eithriadol 2022-23

Gwobr ECA

Mae Anna Udalowska, o Ddysgu Gydol Oes, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl XN16710: The Science of Wellbeing.

Yn ogystal, cafodd y modiwlau canlynol statws Canmoliaeth Uchel:

  • Alexander Taylor o Adran Seicoleg am fodiwl PS32120: Behavioural Neuroscience
  • Kathy Hampson o Adran Cyfraith a Throseddeg am fodiwl LC26120: Youth Crime ad Justice
  • Lara Kipp o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am fodiwl TP30020: Contemporary Drama
  • Panna Karlinger o Ysgol Addysg am fodiwl ED20820: Making Sense of the Curriculum

Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.

Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd wythfed mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.

Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.

Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl  ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.

Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.

Blackboard Ultra: Trosolwg o’r Dewisiadau Eraill yn lle Blog

Blackboard Ultra icon

Mae’r postiad blog hwn yn amlinellu’r datrysiadau y mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gweithio arnynt ar gyfer gweithgareddau Blog. Ar ôl rhoi tro ar y datrysiadau hyn, byddwn yn gweithio ar ddarparu cyfarwyddyd i gydweithwyr.

Y Cefndir

Mae Blogiau yn offer cydweithio a ddefnyddir ar gyfer nifer o weithgareddau a asesir a gweithgareddau na chaiff eu hasesu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nid yw’r offer ar gael ar hyn o bryd yn Blackboard Ultra (er gwaethaf ein ceisiadau i’w ddiwygio) ac nid yw ar fap datblygu Blackboard.

Mae anargaeledd yr offer Blog wedi’i gynnwys ym mhob rhan o’r broses o wneud penderfyniadau i dynnu sylw at hyn fel risg wrth symud i Blackboard Ultra.

Mae union natur blogiau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, trefnu eu meddyliau a’u syniadau’n gronolegol, a rhoi sylwadau ar negeseuon y naill a’r llall.

Er nad oes blogiau yn Ultra, mae dau ddarn o offer cyfrannu ac ymgysylltu cwbl integredig a fydd yn cynnig dewisiadau eraill: Dyddlyfrau a Thrafodaethau.

Dewis 1: Defnyddio’r offer Dyddlyfr

Er nad yw blogiau’n bodoli yn Blackboard Ultra, mae’r offer dyddlyfr yn parhau. Defnyddir dyddlyfrau mewn ffordd debyg i flogiau ond maent yn breifat rhwng tiwtoriaid cwrs a myfyrwyr. Os gall y gweithgaredd weithredu heb wneud negeseuon myfyriwr yn weladwy i bawb, rydym yn argymell defnyddio’r offer hwn.

Gallwch gael trosolwg o’r offer dyddlyfr trwy wylio hwn Tiwtorial trosolwg dyddlyfr.

Dewis 2: Defnyddio’r offer Trafodaethau

Os oes angen elfen ryngweithiol rhwng myfyrwyr ar y gweithgaredd, rydym yn argymell defnyddio’r teclyn trafod. Yma gallwch greu edefyn, trefnu eich trafodaethau drwy ffolderi, gosod y trafodaethau i’w graddio, annog cyfranogiad myfyrwyr drwy beidio ag edrych ar yr edefyn nes bod y myfyrwyr wedi cwblhau eu postiad cychwynnol.

I gael syniad ynglŷn â sut mae trafodaethau’n gweithio, edrychwch ar hwn fideo arddangos.

Er bod yr offer bwrdd trafod wedi newid, mae ein hegwyddorion ar ddyluniad byrddau trafod ac ymgysylltiad yn aros yr un fath. Edrychwch ar ein neges flog dyluniad bwrdd trafod i gael awgrymiadau a chwestiynau i chi ofyn i’ch hunain wrth ddylunio’r gweithgaredd.

Dewis 3: Defnyddio offer blogio WordPress

Er ein bod yn argymell bod gweithgarwch y bwrdd trafod yn aros ar Blackboard er mwyn sicrhau y gall ymgysylltiad ac asesiad myfyrwyr barhau, mae yna declyn blogio arall a gefnogir gan y Brifysgol: WordPress. Os ydych chi’n meddwl mai WordPress yw’r unig ddewis i chi, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni’n gyntaf i drafod eich gweithgaredd ac yna fe allwn ni roi cyngor pellach (eddysgu@aber.ac.uk).

Hyfforddiant Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon

Yn y blogbost hwn byddwn yn sôn am yr hyfforddiant yr ydym wedi bod yn ei greu fel ein bod yn barod i ddechrau defnyddio Blackboard Ultra.

Byddwn yn cynnig sesiwn hyfforddi Hanfodion E-ddysgu:  Cyflwyniad i Blackboard Ultra. Byddwn yn cysylltu â’ch cyfarwyddwr dysgu ac addysgu yn eich adran i drefnu hyn, gan gynnig naill ai sesiwn ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Yn y sesiwn hon, byddwn sôn am yr hyn y mae angen i gydweithwyr ei wneud i gael eu modiwlau yn barod ar gyfer mis Medi. Prif ganlyniad y sesiwn hon yw y bydd cydweithwyr yn gallu sicrhau’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol. Mae’r sesiwn yn cynnwys rhai awgrymiadau ar gynllunio, trosolwg o’r elfennau dadansoddi sydd ar gael yn Blackboard Ultra, yn ogystal â sut i greu mannau cyflwyno Turnitin, dolenni i’ch rhestr ddarllen, a dolenni Panopto. Byddwn yn eich cyflwyno i’r offer rhyngweithiol mwyaf diweddar: Trafodaethau a Chyfnodolion. Yn ogystal â hyn, byddwn yn edrych ar y llif gwaith newydd ar gyfer creu Aseiniadau Blackboard, Profion Blackboard a’r Llyfr Graddau.

Os na allwch ddod i sesiwn eich adran, rydym hefyd yn cynnig sesiynau’n ganolog.   

 Yn ychwanegol at y sesiwn hon, rydym yn cynnal rhai Sesiynau E-ddysgu Uwch a drefnwyd yn ganolog:

  • E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Drafodaethau
  • E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Gyfnodolion
  • E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Brofion
  • E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Wici
  • E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Blogiau

Caiff y sesiynau hyn eu hysbysebu ar ein safle archebu cyrsiau.

Os yw’r sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein, byddwch yn cael dolen Teams dros e-bost. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddechrau defnyddio Blackboard Ultra, cysylltwch â ni eddysgu@aber.ac.uk.