![](https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/files/2023/10/BB-Ultra-image-2.jpg)
Y mis hwn rhyddhawyd nifer o welliannau pellach yn Blackboard Learn Ultra.
Gwelliannau o ran Swp-Olygu (Batch Edit)
Mae Swp-Olygu yn symleiddio gwneud newidiadau i eitemau lluosog ar unwaith yn Blackboard p’un a yw hynny’n golygu gwelededd, amodau rhyddhau neu ddileu. Mae Blackboard wedi diweddaru Swp-Olygu fel bod camau gweithredu bellach yn berthnasol i bob eitem y tu mewn i Ffolderi a Modiwlau Dysgu.
![](https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/files/2023/10/learn_ultra_instructor_Batch-EditSupportForRecursiveActions-1024x564.png)
Mae’r holl eitemau i’w gweld ar un dudalen erbyn hyn. Mae Blackboard wedi ychwanegu’r gallu i ehangu a chwympo Ffolderi a Modiwlau Dysgu.
Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio Swp-olygu gweler Tudalen gymorth Swp-Olygu Blackboard.
Llyfrgell Ddelweddau Unsplash
Fel y trafodwyd mewn neges flog flaenorol, gall Hyfforddwyr nawr chwilio llyfrgell delweddau stoc helaeth Unsplash am ddelweddau stoc o ansawdd uchel, heb freindal i’w defnyddio o fewn Blackboard.
Gweler ein neges flog flaenorol yma.
Blackboard Ally
Y mis hwn hefyd fe wnaethom alluogi offer hygyrchedd Blackboard Ally sy’n caniatáu i fyfyrwyr lawrlwytho fformatau cynnwys amgen yn ogystal â gwiriwr hygyrchedd ar gyfer Hyfforddwyr.
Gweler ein neges flog flaenorol yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blackloard Learn Ultra cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk