Canlyniadau Arolwg Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr (2021-2022)

Gan Joseph Wiggins

Unwaith eto mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhedeg yr Arolwg Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr, arolwg sy’n gofyn i ddysgwyr am effaith dysgu ar-lein a dysgu a weithredir â thechnoleg. Eleni cwblhaodd dros 600 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yr arolwg.

Metrigau Allweddol

Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun	81% Cymorth gyda mynediad at lwyfannau ar-lein/gwasanaethau oddi ar y safle 	74% Ansawdd yr amgylchedd dysgu ar-lein	83% Deunyddiau dysgu ar-lein difyr a chymhellol	44% Mae dysgu ar-lein yn gyfleus	72% Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs	80% Rhoi gwobr/cydnabyddiaeth am sgiliau digidol 	22% Cefnogaeth i ddysgu’n effeithiol ar-lein	72%

Mae arolwg JISC wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf gyda rhywfaint o’r cwestiynau metrig allweddol wedi’u newid. Ar gyfer y cwestiynau sydd wedi aros yr un fath neu’n debyg iawn gallwn gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.

Metrig Allweddol2020-20212021-2022
Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun60%81%
Mynediad at lwyfannau ar-lein oddi ar y safle67%74%
Amgylchedd dysgu ar-lein40%83%
Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs69%80%

Yn y mwyafrif o’r metrigau allweddol hyn gwelwyd cynnydd cadarnhaol gyda Phrifysgol Aberystwyth  wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol. Caiff y duedd hon i wella ei hadlewyrchu drwy holl ganlyniadau’r arolwg.

Yn achos cwestiynau a newidiodd yn y metrigau allweddol nid oes modd cymharu nifer ohonynt oherwydd y newidiadau a wnaed. Er enghraifft y llynedd holwyd am ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Wedi’u cynllunio’n dda’. Newidiwyd hyn i ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Difyr a chymhellol’. Gyda thueddiadau dysgu ar-lein mae cwestiynau’n ymwneud â chymhelliant yn nodweddiadol yn fwy negyddol, gan wneud cwestiynau sy’n defnyddio’r ansoddeiriau hyn lawer yn fwy negyddol.

Cymhariaeth Meincnodi

Nid yw’r problemau gyda chymharu â chanlyniadau’r flwyddyn flaenorol yn broblem gan fod JISC yn rhedeg yr arolwg yn genedlaethol ar draws sefydliadau addysg uwch a phellach. Mae’r data ehangach yn rhoi data meincnodi addas i ni.

CwestiwnEin data niData’r DU
Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun62.56%57.62%
Cymorth gyda mynediad at lwyfannau ar-lein/gwasanaethau oddi ar y safle74.40%69.26%
Ansawdd yr amgylchedd dysgu ar-lein82.56%76.93%
Deunyddiau dysgu ar-lein difyr a chymhellol44.33%42.84%
Mae dysgu ar-lein yn gyfleus72.36%68.03%
Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs80.39%74.32%
Rhoi gwobr/cydnabyddiaeth am sgiliau digidol21.79%24.04%
Cefnogaeth i ddysgu’n effeithiol ar-lein71.86%66.08%

Gyda’r meincnodi hwn mae’r data’n dangos bod PA yn sgorio’n uwch na data cenedlaethol y DU ym mhob un o’r metrigau allweddol bron. Mae’r bwlch rhwng ein canlyniadau yn fwy gyda data PA 5% yn fwy mewn saith o’r cwestiynau.

Yr unig fetrig oedd yn gymharol is wrth edrych ar ddata meincnodi’r DU oedd un o’r metrigau newydd a ychwanegwyd eleni. Cydnabyddiaeth a gwobrwyo myfyrwyr am sgiliau digidol. Fodd bynnag mae hwn yn cyd-fynd â data cenedlaethol gyda chwymp o 2% yn unig o’r data cenedlaethol.

Mae’r metrig newydd hwn yn amlinellu problem sydd gan bob sefydliad addysg uwch a phellach o ran cydnabyddiaeth i fyfyrwyr. Gan fod angen i ddysgwyr fod â dealltwriaeth o systemau technolegol i wneud defnydd llawn o’u cyrsiau, byddai cydnabod y sgiliau hyn yn helpu iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Dyfeisiau

Bellach mae dyfeisiau’n chwarae rhan fwy mewn addysg ac yn yr arolwg, y ddwy ddyfais uchaf oedd ‘Gliniaduron’ a ‘Ffonau Clyfar’.

Pa rai o’r dyfeisiau hyn ydych chi’n eu defnyddio’n rheolaidd i ddysgu (ticiwch bob un sy’n berthnasol)Cyfrifiadur pen desg	28% Gliniadur	93% Tabled	20% Ffôn clyfar	69% Sgrin ychwanegol	14% Meicroffon neu benset ychwanegol	21% Camera neu wegamera ychwanegol	10% Dim un o’r rhain	0%

Gyda’r wybodaeth hon, fe’n hysbysir ar gyfer gweddill yr arolwg mai dyma’r prif ddyfeisiau y mae myfyrwyr yn eu defnyddio i ryngweithio gyda dysgu ar-lein. Oherwydd bod gan y cwestiwn flwch ticio ni allwn ganfod pa gyfuniadau o ddyfeisiau mae’r myfyrwyr yn eu defnyddio.

Offerynnau Digidol

Pan ofynnwyd i fyfyrwyr mewn cwestiynau testun rhydd pa offeryn neu gymwysiadau digidol oedd yn ‘wirioneddol ddefnyddiol’ ar gyfer dysgu ar-lein, roedd dau brif gymhwysiad.

  • nododd 43.4% Blackboard
  • nododd 9.4% Microsoft Teams

Gan fod y cwestiynau’n rhai testun rhydd eglurodd rhai myfyrwyr resymeg eu dewis. Yn achos  Blackboard nododd y myfyrwyr: Gallu eu cyrchu o wahanol fathau o ddyfeisiau, canolog i’r profiad dysgu, wedi’u gosod a’u trefnu’n dda.

Mewn achosion o gyfeirio at drefnu modiwlau, nododd rhai myfyrwyr y problemau, gyda rhai modiwlau’n broblematig a heb fod yn addas i’r diben mewn rhai modiwlau.

CwestiwnCytuno %
Ydych chi’n cytuno ein bod ni’n eich cefnogi i ddefnyddio eich dyfais/dyfeisiau eich hun?62.56
Ydych chi’n cytuno ein bod ni’n eich cefnogi i gyrchu llwyfannau a gwasanaethau ar-lein oddi ar y safle?74.40
Ydych chi’n cytuno ein bod yn cyfathrebu’n effeithiol ar-lein?66.67
Ydych chi’n cytuno ein bod yn cynnig cyfle i chi fod yn rhan o benderfyniadau am lwyfannau dysgu?36.14

Ym mhob un o’r cwestiynau hyn cawsom ymatebion cadarnhaol gan fyfyrwyr o ran cyflwr presennol dysgu ar-lein, gyda rhai myfyrwyr yn gwneud pwynt eu bod yn teimlo nad oedd rhan iddynt mewn penderfyniadau am ddysgu ar-lein.

Pan ofynnwyd pa feysydd oedd myfyrwyr yn teimlo y dylai PA fuddsoddi ynddynt, roedd myfyrwyr yn gwyro at uwchraddio neu wella systemau presennol gydag ychydig iawn o fyfyrwyr yn gofyn am fwy o gefnogaeth ar-lein.

Beth hoffech chi i ni fuddsoddi ynddo?Mwy o gyfrifiaduron a dyfeisiau	12% Uwchraddio llwyfannau a systemau	44% Meddalwedd arbenigol ar gyfer eich cwrs	33% Cymorth TG	12%

Gofynnwyd i fyfyrwyr am anawsterau o ran dysgu ar-lein. Cafwyd sbigyn mawr yn benodol gyda ‘Cyswllt Wi-Fi gwael’. Fodd bynnag nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddilyniant felly ni allwn wirio a yw’r Wi-Fi neu unrhyw rai o’r problemau yn deillio o’r Brifysgol neu broblemau goddrychol y dysgwyr.

Oes unrhyw rai o’r rhain wedi’i wneud yn anodd i chi ddysgu ar-lein? (ticiwch bob un sy’n berthnasol)Dim cyfrifiadur/dyfais addas	11% Dim man diogel, preifat i weithio	13% Cyswllt diwifr gwael	52% Costau data symudol	13% Methu cyrchu llwyfannau dysgu	18% Dim un o’r rhain 	37%

Gofynnwyd i fyfyrwyr pa weithgaredd neu weithgareddau dysgu ar-lein oedden nhw wedi’u gwneud dros y bythefnos ddiwethaf. Yr opsiwn uchaf oedd cyrchu darlithoedd a dosbarthiadau wedi’u recordio. Caiff hyn ei amlygu yn y dadansoddiad testun rhydd, gan fod llawer o sylwadau’n nodi bod gallu ailedrych ar y deunydd a mynd drosto yn gymorth mawr wrth ddysgu.

Pa rai o’r gweithgareddau dysgu hyn ydych chi wedi’u gwneud dros y bythefnos ddiwethaf (ticiwch bob un sy’n berthnasol)Darlith neu ddosbarth ar-lein byw	48.70% Cyrchu darlith neu ddosbarth a recordiwyd	72.30% Ar-lein a wyneb i wyneb	39.00% Prawf neu bapur ymarfer wedi’i farcio gan gyfrifiadur	19.70% Cwis neu bôl byw	15.10% Tasgau ymchwil ar-lein	35.10% Trafodaeth destun ar-lein	9.70% Cydweithio ar-lein e.e. rhanu adroddiad 	11.20% Gwaith labordy, ymarferol neu faes rhithwir	9.70% Gêm neu efelychiad ar-lein	5.60% Defnyddio penset realiti rhithwir	0.60% Dim un o’r rhain 	9.10%

Deunyddiau ar-lein a dysgu ar-lein

Gofynnwyd i fyfyrwyr i ba raddau roedden nhw’n cytuno â datganiadau am ddysgu ar-lein.

DatganiadCytuno%Niwtral%Anghytuno%
Mae deunyddiau ar-lein yn ddifyr ac yn cymell44.3040.5015.10
Mae deunyddiau ar-lein ar y lefel a’r cyflymder cywir62.0031.007.00
Mae deunyddiau ar-lein yn hygyrch77.1020.202.70
Mae deunyddiau ar-lein ar gael yn amserol66.8027.006.20
Mae dysgu ar-lein yn gyfleus72.4016.3011.30
Mae dysgu ar-lein yn gadael i chi gyfrannu yn y ffyrdd rydych chi’n eu dewis51.4027.8020.80
Mae dysgu ar-lein yn eich galluogi i wneud cynnydd da yn eich astudiaethau53.1028.4020.80
Mae dysgu ar-lein yn gwneud i chi deimlo’n rhan o gymuned o staff a myfyrwyr26.2031.2042.70
Mae dysgu ar-lein yn gadael i chi gael mynediad cyfartal58.3032.809.00

Mewn sawl achos cafwyd ymateb cadarnhaol gan fyfyrwyr, a chytunwyd bod y deunyddiau dysgu ar gael, yn hygyrch ac ar y cyflymder cywir. Roedd rhaniad rhwng rhai myfyrwyr o ran ymgysylltu â’r deunyddiau gydag ymateb niwtral uchel.

O ran dysgu ar-lein unwaith eto fe welwn ganlyniad cadarnhaol gan fwyaf gyda’r unig wendid yn broblem a ymddangosodd y llynedd, sef problem teimlo’n rhan o gymuned y brifysgol wrth ddysgu ar-lein.

Sylwadau Testun Rhydd

Cafwyd dros 2,000 o sylwadau testun rhydd yn canolbwyntio ar agweddau allweddol o’r profiad dysgu ar-lein.

Roedd y cwestiwn cyntaf yn holi am agweddau cadarnhaol dysgu ar-lein

  • 19.3% o fyfyrwyr hygyrchedd
  • nododd 16.9% o fyfyrwyr reoli amser a chyflymder y gwaith
  • nododd 9.2% o fyfyrwyr recordiadau darlithoedd
  • ni nododd 1.4% o fyfyrwyr unrhyw reswm

Roedd yr ail gwestiwn yn holi am agweddau negyddol dysgu ar-lein

  • nododd 20.6% o fyfyrwyr ddiffyg a/neu anhawster cymhelliant
  • nododd 9.8% o fyfyrwyr bethau’n tynnu sylw/amgylcheddau dysgu anaddas
  • nododd 2.6% o fyfyrwyr Blackboard

Gair Olaf

Yn gyffredinol, roedd gan fyfyrwyr ymateb cadarnhaol iawn i ddysgu ar-lein gyda gwelliant ers y llynedd, ac o’i gymharu â’r meincnod roedd data Prifysgol Aberystwyth yn uwch na data’r DU.

Pan ofynnwyd i ddysgwyr am ansawdd cyffredinol yr amgylchedd dysgu ar-lein sgoriodd 82.6% PA yn dda neu’n uwch.

Pan ofynnwyd i ddysgwyr am ansawdd cyffredinol y profiad dysgu ar-lein ar eu cwrs sgoriodd 80.4% PA yn dda neu’n uwch.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*