Croeso, Caitlin Evans – Cydlynydd Addysg Ddigidol

Helo! Fy enw i yw Caitlin ac rwyf wedi ymuno’n ddiweddar â’r tîm Addysg Ddigidol fel Cydlynydd Addysg Ddigidol ran-amser. Rwy’n falch o gyflwyno fy hun ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau yn fy rôl newydd.

Cefais fy magu yn Aberystwyth ac rwyf wedi symud yn ôl yma’n ddiweddar o Washington, D.C. ar ôl graddio o fy MA mewn ‘Media and Strategic Communication.’ Treuliais dwy flynedd yn yr Unol Daleithiau, ac yn ystod fy amser yna gweithiais hefyd fel ‘Assistant Editor’ i blatfform newyddiaduraeth i fyfyrwyr yn seiliedig ar yr amgylchedd, ac fel ‘Teaching Assistant’ i athro newyddiaduraeth a chyn-gyflwynydd y newyddion i CNN.

Cyn dilyn fy nghradd master’s, cwblheais fy BA mewn Ffrangeg a Siapaneeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn ystod hyn treuliais flwyddyn dramor yn astudio yn Clermont-Ferrand (tref brifysgol fach yng nghanol Ffrainc – braidd fel yr Aberystwyth o Ffrainc ac efallai yn gyfarwydd i chi os ydych yn hoffi rygbi) a Tokyo.

Fe wnes i garu byw tramor a cefais y profiad mwyaf anhygoel a gwobrwyol yn ymdrochi fy hun mewn ddiwylliannau wahanol, ymweld â lleoedd newydd, a chwrdd â phobl o ar draws y byd. Yn bendant, fe wnaeth y brofiad yma cynnu fy awydd i fyw dramor, ac rwyf fel arfer yn meddwl am ble rydw i eisiau mynd nesaf!

Heblaw am fy nghariad o ieithoedd a theithio, rwyf hefyd yn caru llyfrau ac yn treulio llawer o’m hamser rhydd yn darllen. Yn y pen draw, rwyf eisiau ysgrifennu llyfr fy hun! Rwy’n caru cerddoriaeth a chyngherddau, bwyta bwyd da, ac yfed coffi da – yn enwedig gyda fy ffrindiau. Rydw i hefyd yn mwynhau rhedeg, ac rwyf ar fîn dechrau hyfforddi ar gyfer Hanner-Marathon Caerdydd!

Rwy’n cyffroes i ddechrau yn fy swydd newydd ac i barhau gyda fy ngwaith yn addysg uwch, ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag a chefnogi staff a myfyrwyr ar hyd y brifysgol.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*