
Er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n ailsefyll ym mis Awst, rydym yn gofyn i holl gydlynwyr modiwlau ychwanegu’r eitem Paratoi ar gyfer ailsefyll newydd i’r ardal Asesu ac Adborth yng nghyrsiau Blackboard.
Mae Paratoi ar gyfer ailsefyll yn cynnwys adnoddau i gefnogi myfyrwyr sy’n ailsefyll gwaith cwrs neu arholiadau yn y cyfnod arholiadau atodol. Ar ôl ei ychwanegu at gyrsiau, gall cydweithwyr ychwanegu unrhyw wybodaeth benodol i fodiwl neu adran i’r maes Asesu ac Adborth.
Mae manylion sut i ychwanegu Paratoi ar gyfer ailsefyll ar gael.
Yn ogystal â defnyddio Paratoi ar gyfer ailsefyll, dylai cydlynwyr modiwlau wneud y canlynol yn eu cyrsiau Blackboard:
Ychwanegu manylion unrhyw waith cwrs atodol, gan gynnwys cyfarwyddiadau llawn a dyddiad cyflwyno, i’r ardal Asesu ac Adborth
- Gwneud pob pwynt cyflwyno yn weladwy i fyfyrwyr fel y gallant weld adborth ar aseiniadau blaenorol
- Gwneud yr holl ddeunyddiau dysgu yn weladwy i fyfyrwyr fel y gallant baratoi aseiniadau ac adolygu ar gyfer arholiadau
- Darparu manylion pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau academaidd yn ystod y cyfnod gwaith cwrs ac arholiadau
- Darparu manylion pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau academaidd yn ystod y cyfnod gwaith cwrs ac arholiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ychwanegu Paratoi ar gyfer Ailsefyll i’ch cwrs, cysylltwch ag e-ddysgu@aber.ac.uk
