Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Distance Learner Banner

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysgu yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu

eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Cyflwyniad i’r arlwy e-ddysgu

Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard

Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard ar gyfer pob modiwl.

Cipio Darlithoedd: Panopto

Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.

E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.

Adnoddau a rhagor o gymorth

Mae gennym ni nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin i’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.

Hyfforddiant

Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo â gwahanol elfennau o’r amgylchedd dysgu rhithwir,
  • yr agenda Dysgu Gweithredol,
  • asesu ac adborth,
  • hygyrchedd,
  • sgiliau cyflwyno, a mwy.

Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (L&T) yn nheitl y sesiwn.

Digwyddiadau

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, Cynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.

Rhaglenni

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal rhaglenni i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (TPAU) a’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE) ar lefel Meistr a Chynllun Cymrodoriaeth (ARCHE).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*