Gweithdy Kate Exley: Symud eich Darlithoedd (PowerPoint) Ar-lein

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi gweithdy ar-lein arbennig a gynhelir gan Dr Kate Exley ddydd Mercher 17 Chwefror.

Bydd y gweithdy yn ddefnyddiol i gydweithwyr sy’n addasu a throsglwyddo eu darlithoedd traddodiadol ar gyfer dysgu ar-lein.

Archebwch eich lle ar-lein [link].

Er mwyn i gymaint o gydweithwyr â phosibl allu dod, rydym yn cynnal y gweithdy ddwywaith (11yb-12yp ac 1yp-2yp). Dewiswch ba sesiwn yr hoffech ddod iddi wrth archebu.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.

Trosolwg o’r Sesiwn:

Mae nifer o gydweithwyr wedi bod yn addysgu’n gyfunol neu ar-lein ers nifer o flynyddoedd ond mae pandemig Covid wedi golygu ei bod yn rhaid i ni gyd ddarparu llawer o’n dysgu ac addysgu o bell. Mae hyn wedi golygu symud ein darlithoedd, a draddodwyd o’r blaen mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, i lwyfannau ar-lein. Mae’r cyflymder y mae’r newid mawr hwn wedi digwydd yn ei hun wedi achosi heriau sylweddol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae’r gweithdy cyfunol hwn yn bwriadu darparu cyfarwyddyd, enghreifftiau a fforwm i gydweithwyr rannu eu profiadau a’u syniadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth hon.

Cyflwynir y gweithdy mewn dwy ran:

  • Bydd cyfres o 3 fideo byr ar gael ar neu cyn 5 Chwefror 2021 a dylid eu gwylio’n annibynnol cyn ymuno â’r fforwm drafod – oddeutu 45 munud o astudio annibynnol.
  • Fforwm drafod a gynhelir ar Teams ar 17 Chwefror, ble bydd gan gyfranogwyr gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a thrafod y pwnc – 1 awr o hyd.

Erbyn diwedd y ddwy awr, dylech allu:

  • Ystyried diben y ddarlith ar-lein yn ystod pandemig Covid
  • Trafod amrywiaeth o faterion dylunio ymarferol wrth symud darlithoedd ar-lein
  • Rhannu profiadau a syniadau gyda chydweithwyr ‘yn yr un cwch’
  • Dechrau cynllunio eich camau nesaf a beth y gallwch ei roi ar waith o ganlyniad i’r gweithdy

Mae’r gweithdy hwn wedi’i fapio’n bennaf i A2, A5, K2, K3 ar yr UKPSF.  

Bywgraffiad am yr Hwylusydd:

Mae Kate yn Uwch Swyddog Datblygu Academaidd ym Mhrifysgol Leeds ac yn Ymgynghorydd Annibynnol ym maes Datblygu Addysg Uwch. Mae hi wedi cyflwyno gweithdai ac ymgymryd â phrosiectau mewn mwy na 60 o Sefydliadau AU, AB, Meddygol ac Ymchwil ledled y DU a thramor. Mae hi’n awdur ac yn olygydd cyfres ar gyfer y gyfres lyfrau Routledge “Key Guides for Effective Teaching in Higher Education” sy’n cynnwys ‘Giving a Lecture’. Mae hi’n Uwch Ddarlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Birmingham a Phrifysgol Luxembourg, yn Gymrawd Uwch o Advance HE, Cymrawd Uwch o SEDA ac yn Gymrawd Dysgu Cenedlaethol (2008).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*