UKCGE Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da – wedi’i lansio yn ddwyieithog yn y Brifysgol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio’r broses fewnol ddwyieithog ar gyfer Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da Cyngor y DU dros Addysg i Raddedigion. Gellir dod o hyd i fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r fframwaith drwy’r ddolen hon.

“Mae’r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da yn cydnabod, am y tro cyntaf ar lefel genedlaethol, y set eang, hynod gymhleth a heriol o rolau a gyflawnir gan oruchwylwyr ymchwil modern.” Gwefan Cyngor y DU dros Addysg i Raddedigion.

Datganiad gan Yr Athro Colin McInness, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi):

“Gall goruchwylio myfyrwyr ymchwil fod yn un o’r pethau mwyaf boddhaus a wnawn fel cymuned academaidd, ond yn un o’r pethau anoddaf hefyd. Mae’r heriau hyn yn effeithio ar bawb ohonom ni o bryd i’w gilydd, ac yn dal i ymffurfio wrth i ymarfer, dulliau a gwybodeg ymchwil ddatblygu. Bydd y Fframwaith hwn yn rhoi’r adnoddau a’r hyder i’n cymuned ymchwil ni yn Aberystwyth gael parhau gyda’n harferion goruchwylio ardderchog a chefnogi ein Myfyrwyr ymchwil.”

Mae Annette Edwards, o’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a Reyer Zwiggelaar, Pennaeth Ysgol y Graddedigion, yn cydweithio ar ran y Brifysgol, er mwyn marchnata a datblygu dealltwriaeth o’r fframwaith hwn. Bydd proses fewnol ar gael i bawb sydd â diddordeb mewn ymgeisio am yr achrediad hwn. Ewch i’r dudalen we hon am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb mewn gwneud cais trwy’r ffurflen ar-lein.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*