[:cy]Rydyn ni’n edrych ymlaen at Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni a gynhelir ymhen ychydig llai na mis, rhwng 7-9fed Medi 2020.
Efallai eich bod wedi darllen y bydd y Gynhadledd eleni’n cael ei chynnal ar-lein trwy Teams, felly gallwch ymuno am gymaint neu gyn lleied o’r gynhadledd ag y dymunwch.
Gallwch lwytho’r rhaglen llawn ac archebu eich lle ar-lein.
Rydyn ni’n ddiolchgar i gael nifer o siaradwyr allanol eleni. Traddodir y ddarlith gyweirnod gan yr Athro Ale Armellini, a fydd yn sôn am ymgorffori dysgu cyfunol yn yr holl gyrsiau ym Mhrifysgol Northampton. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect hwn ar we-ddalen Prifysgol Northampton.
Heblaw’r Athro Armellini, byddwn hefyd yn croesawu Dr Kate Lister o’r Brifysgol Agored a fydd yn sôn am ymgorffori lles yn y maes llafur. Yn ogystal â’i chyflwyniad, bydd Kate hefyd yn cynnig sesiwn galw heibio lle gallwch holi cwestiynau penodol am y strategaeth lles.






