Croeso i fyfyrwyr newydd (a chroeso’n ôl i bawb sy’n dychwelyd) – awgrymiadau ar sut i ddefnyddio ein systemau E-ddysgu

Croeso i'n holl fyfyrwyr newydd

Hoffem groesawu’r holl fyfyrwyr newydd a dweud ‘croeso’n ôl’ wrth y rheini ohonoch sy’n ymuno â ni eto am flwyddyn arall. Gan fod y tymor bellach ar gychwyn, dyma rywfaint o gyngor ac awgrymiadau ichi o ran defnyddio ein systemau E-ddysgu. Yn y blogbost hwn, byddwn yn cyflwyno ein prif wasanaethau i chi. Mae cefnogaeth a chyngor ar e-ddysgu yn cael eu darparu gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Dyma rai o’n hawgrymiadau gorau i’ch helpu i ddechrau defnyddio ein systemau.

  • Defnyddiwch Chrome neu Firefox i gael mynediad i’n systemau
  • Gwnewch yn siŵr fod eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth wrth law gennych
  • Dros yr wythnosau nesaf, treuliwch amser yn ymgyfarwyddo â’r systemau hyn fel eich bod yn barod i’w defnyddio

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwasanaethau TG neu’r llyfrgell, ebostiwch gg@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 62 2400.

Yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir

Blackboard Logo

Blackboard yw amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Gallwch ddod o hyd i Blackboard trwy fynd i blackboard.aber.ac.uk. Bydd arnoch angen eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth er mwyn mewngofnodi. Bydd eich dewis iaith ar gyfer defnyddio Blackboard yn seiliedig ar eich dewis iaith yn eich cofnod myfyriwr (Cymraeg neu Saesneg). Bydd gan bob modiwl y byddwch yn ei astudio ei safle Blackboard ei hun.  Yma, cewch adnoddau a fydd yn cefnogi eich dysgu a’ch addysgu.  Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar recordiadau o’ch darlithoedd a chyflwyno eich aseiniadau yn electronig. Gallwch lywio eich ffordd i wahanol rannau o fodiwl trwy glicio ar y ddewislen ar y chwith.

Yn ogystal â chael gafael ar eich adnoddau dysgu, efallai y bydd eich darlithydd yn gofyn ichi wneud gweithgareddau eraill yn Blackboard megis profion neu gwisiau, wicis, blogiau, neu ddyddiaduron myfyriol. Bydd gennych hefyd safleoedd Adrannol a fydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am eich aseiniadau a’r gefnogaeth bellach y gallwch ei chael.

E-gyflwyno

Turnitin logo

Bydd pob darn o waith testun sydd wedi’i lunio ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno’n electronig trwy gyfrwng Blackboard yn ystod eich cyfnod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwch hefyd yn cael eich marciau a’ch adborth yn electronig. Mae dau wahanol fath o gyflwyno electronig ar gael: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae gennym gyngor penodol ar gyflwyno trwy gyfrwng Turnitin a hefyd trwy gyfrwng Blackboard Assignment yn ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml. Gweler isod ein hawgrymiadau pennaf ar sut i gyflwyno eich gwaith yn electronig:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser i chi’ch hun gyflwyno’r aseiniad cyn y dyddiad cau
  • Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith y byddwch yn ei gyflwyno yn cael ei farcio’n ddienw, felly peidiwch ag ysgrifennu eich enw ar eich aseiniad
  • Cadwch eich aseiniad dan enw sy’n ystyrlon i chi
  • Gwiriwch ddwywaith eich bod yn cyflwyno’r gwaith i’r modiwl cywir
  • Edrychwch ar eich ebost wedi ichi gyflwyno er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi cael derbynneb ebost
  • Treuliwch amser yn darllen eich adborth yn ofalus ar ôl i chi gael eich marciau

Recordio Darlithoedd

Panopto logo

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio meddalwedd recordio darlithoedd o’r enw Panopto. Mae hyn yn golygu y gallwch gael gafael ar recordiadau o’ch darlithoedd trwy Blackboard. Mae gan Nordmann et al (2018) ffeithlun da ar sut i wneud y defnydd gorau o recordiadau o ddarlithoedd er mwyn cefnogi eich dysgu. Dyma grynodeb o’u cyngor:

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’ch darlithoedd. Er bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael ichi, ni ddylid eu defnyddio yn hytrach na bod yn bresennol yn y sesiwn ddysgu ei hun. Bryd hynny, cewch gyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i ddysgu hefyd gan eich cyfoedion. Meddyliwch am y recordiad o’r ddarlith fel rhywbeth sy’n atodol i’r sesiynau dysgu byw. Yn eich darlithoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodiadau a cheisiwch grynhoi’r trafodaethau yn eich geiriau eich hun.

Wrth ailwylio’r darlithoedd, byddwch yn benodol ac ewch yn ôl i’r rhannau nad ydych yn eu deall neu nad ydych yn eu cofio. Peidiwch â gwylio’r ddarlith gyfan – yn ddelfrydol dylech wneud hyn o fewn ychydig ddyddiau i’r ddarlith er mwyn gweld faint yr ydych yn ei gofio. Gwnewch yn siŵr fod eich nodiadau o’r ddarlith wrth law gennych fel y gallwch ychwanegu atynt.

Os na allwch fynd i’r ddarlith am resymau dilys, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio’r recordiad o fewn wythnos fel y byddwch yn ymwybodol o’r cynnwys diweddaraf – peidiwch â chadw’r holl ddarlithoedd tan ddiwedd y semester a’u gwylio i gyd un ar ôl y llall bryd hynny. Os byddwch yn defnyddio’r recordiad, gwyliwch ef ar y cyflymder arferol heb ei gyflymu er mwyn symud ymlaen. Rhowch eich sylw’n llawn i’r recordiad a pheidiwch â gwneud tasgau eraill. Ewch yn ôl at y rhannau nad ydych yn eu deall a’u hailwylio.  Gallwch ganfod yr erthygl lawn ar-lein.

Cyfeiriadau

Nordmann, E., Kuepper-Tetzel, C. E., Robson, L., Phillipson, S., Lipan, G., & Mcgeorge, P. (2018). Lecture capture: Practical recommendations for students and lecturers. [ar-lein]. https://doi.org/10.31234/osf.io/sd7u4. Cyrchwyd ddiwethaf: 03.10.2019.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*