4ydd Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract

Turnitin icon

Heddiw, 16 Hydref 2019, yw’r 4ydd Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract.

Yn y blogiad arbennig hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o sut mae Twyllo ar Gontract yn effeithio ar Addysg Uwch. Ym Mhrydain, mae Twyllo ar Gontract yn golygu defnyddio melinau traethodau. Mae’r gwasanaethau hyn wedi cael mwyfwy o sylw yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn ôl adroddiad a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, mae un ym mhob saith o raddedigion diweddar wedi cyfaddef iddynt dalu rhywun i wneud eu gwaith drostynt (Newton, 2018).  Er mwyn tynnu sylw at y mater hwn, mae’r Ganolfan Ryngwladol dros Uniondeb Academaidd yn yr Unol Daleithiau wedi sefydlu’r Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract. Yng ngwledydd Prydain, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA) sy’n darparu arweiniad ar Dwyllo ar Gontract.

Yn 2018, ysgrifennodd penaethiaid mwy na 40 o brifysgolion ym Mhrydain at yr Ysgrifennydd Addysg gan ofyn am wahardd melinau traethodau. Mae hefyd achosion cyfreithiol yn dal i fynd yn eu blaen yn erbyn yr arfer hwn. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae defnyddio melinau traethodau yn dod o dan y rheoliadau Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

Myfyrwyr – pwy all helpu?

O safbwynt myfyrwyr, mae sawl rheswm a all esbonio pam rydych yn credu mai Twyllo ar Gontract yw’r unig ateb. Efallai nad ydych wedi gadael digon o amser i gwblhau’ch aseiniad. Efallai nad ydych yn deall cwestiwn yr aseiniad neu’ch bod chi’n ei chael hi’n anodd deall cysyniad cymhleth. Efallai hefyd eich bod yn pryderu am eich marciau ac yn awyddus i wneud yn well. Beth bynnag fo’r rheswm, mae digonedd o bobl o gwmpas a all eich helpu i wneud eich gorau glas â’ch aseiniadau.

Y peth cyntaf i’w wneud ar ddechrau’r semester yw sicrhewch eich bod yn cynllunio’ch amser yn ofalus. Rhowch ddigon o amser i chi’ch hunan i edrych drwy’r wybodaeth am yr aseiniad a’r modiwl. Sicrhewch eich bod yn cael gwybod pob un o’ch dyddiadau cau i’ch modiwlau a’ch bod yn eu rhoi ar eich calendr ar-lein. Os gwnewch hynny, fe fyddwch yn gwybod pryd y bydd angen i chi baratoi’ch gwahanol aseiniadau a phryd y byddwch yn debygol o fod ar eich prysuraf. Mae hynny hefyd yn rhoi digon o amser i chi i ddeall eich aseiniad a’r hyn y disgwylir i chi ei wneud.

Sicrhewch eich bod chi’n gofyn am gymorth. Os na ddeallwch gwestiwn yr aseiniad neu gysyniad, siaradwch â’ch darlithydd neu’ch tiwtor a gofynnwch am gymorth. Gofynnwch gwestiynau penodol – pa ran yn union o’r ddamcaniaeth neu gysyniad na ddeallwch? Edrychwch ar y deunydd sydd ar gael i chi drwy ‘Blackboard’ megis nodiadau darlithoedd, sleidiau PowerPoint, neu recordiadau o’ch darlithoedd, a’u defnyddio i’ch helpu i wneud penderfyniad am eich aseiniad ar sail gwybodaeth gadarn. Siaradwch â’ch cyd-fyfyrwyr hefyd ac efallai y gallwch ystyried sefydlu grŵp astudio i drafod materion penodol.  Gallwch hefyd gael cyngor gan Lyfrgell y Brifysgol, gan gynnwys cyngor am gadw cyfeiriadau rydych wedi dod ar eu traws a’r feddalwedd sydd ar gael i’ch helpu i reoli a fformatio’ch cyfeirnodau. 

Rhowch ddigon o amser i chi’ch hun i edrych ar yr adborth a gawsoch o’ch aseiniadau blaenorol ac i ystyried yr adborth hwnnw. Ystyriwch y meysydd rydych wedi gwneud yn dda ynddynt, yn ogystal â’r hyn y gallwch ei wella. Yn eich aseiniad nesaf, ceisiwch wella’r elfennau hynny sydd wedi’u nodi yn rhai i’w gwella. Does dim modd defnyddio Melin Draethodau i wneud hynny – dim ond chi sy’n adnabod eich gwaith eich hun a pha elfennau mae angen i chi ganolbwyntio arnynt. Gallwch weld yr holl adborth rydych wedi’i gael o’ch aseiniadau drwy fewngofnodi i Blackboard.

Yn y newyddion

Newyddion y BBC. 2018. ‘Essay cheating: how common is it?’. Newyddion y BBC.. [ar-lein]. https://www.bbc.co.uk/news/education-43975508. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019.

Newyddion y BBC. 2018. ‘Essay mills: ‘One in seven’ paying for university essays. Newyddion y BBC.. [ar-lein]. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-45358185. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019.

Husbands, C. 2019. ‘Essay mills prey on vulnerable students – let’s stamp them out’. The Guardian. 20 Mawrth. [ar-lein]. Ar gael yn: https://www.theguardian.com/education/2019/mar/20/essay-mills-prey-on-vulnerable-students-lets-stamp-them-out. Dyddiad cyrchu diwethaf: 01.10.2019. 

Cyfeiriadau

Newton, P. 2018. ‘How common is Commercial Contract Cheating in Higher Education and is it increasing? A systematic review’. Frontiers in Education. 30 Awst. [ar-lein]. Ar gael yn: https://doi.org/10.3389/feduc.2018.00067. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019. 

ASA. 2017. Contracting to Cheat in Higher Education: How to Address Contract Cheating, the Use of Third-Party Services and Essay Mills. [ar-lein]. Ar gael yn: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/contracting-to-cheat-in-higher-education.pdf?sfvrsn=f66af681_10. Dyddiad cyrchu diwethaf: 01.10.2019.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*