Crynodeb o’r Gynhadledd Fach ar Addysg Gynhwysol: Rhan 2

Dyma’r ail bostiad blog yn trafod ein Cynhadledd Fach ar Addysg Gynhwysol a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Grŵp E-ddysgu. Am drosolwg o’r hanner cyntaf, gweler y postiad blog hwn.

Agorodd ail hanner y gynhadledd gyda Neil MacKintosh a Meirion Roberts o gynllun BioArloesi Cymru IBERS yn trafod ehangu mynediad i’w modiwlau. Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi ceisio mynd i’r afael â’r prinder sgiliau lefel uchel a thechnegol mewn busnesau bio-seiliedig, gan gynnwys Bwyd-Amaeth. Un o amcanion y rhaglen yw i edrych ar ffyrdd o ddarparu cwrs dysgu o bell ar gyfer graddedigion sy’n gweithio ym myd diwydiant ar hyn o bryd ac nad oes ganddynt amser, o bosib, i wneud gradd ôl-raddedig. Gobeithir y bydd y cynllun yn cynyddu cynhyrchiant yng Nghymru trwy bwysleisio’r berthynas gilyddol rhwng diwydiant ac ymchwil. Mae cynllun BioArloesi Cymru yn gweithio’n agos â phartneriaid diwydiannol i ddarparu llwybr hyblyg i’r rhai hynny sydd mewn swyddi i ennill cymwysterau ôl-raddedig. Rhoddodd Neil gyflwyniad ar y cynllun cyn trosglwyddo’r awenau i’w gydweithiwr, Meirion Roberts. Mae Meirion yn ddarlithydd cyswllt yn BioArloesi Cymru ac mae’n gyfrifol am ddarparu profiad dysgu dwyieithog ar gyfer y modiwlau dysgu o bell uwchraddedig. Cyflwynir y cyrsiau BioArloesi ar-lein yn unig trwy ddefnyddio Blackboard ynghyd â llu o  wahanol ddeunyddiau dysgu. Ar hyn o bryd gall myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar y cwrs fanteisio ar adnoddau yn Gymraeg a Saesneg. Un o’r tasgau cyntaf i Meirion ar ôl dechrau gweithio gydag uned BioArloesi Cymru oedd creu rhyngwyneb, deunydd a darlithoedd dwyieithog ar gyfer y cwrs. Mae’r modiwlau hyn yn defnyddio fforymau ar Blackboard fel dull asesu. Un o’r heriau sy’n codi wrth ddarparu’r modiwlau hyn yn ddwyieithog yw sut i gymedroli a hwyluso fforymau dwyieithog. Yn dilyn trafodaeth rhwng y cynadleddwyr, teimlwyd mai un ffordd ymlaen fyddai annog y rhai sy’n defnyddio’r fforymau i bostio eu hymatebion yn Gymraeg a Saesneg, yn hytrach na bod angen cyfieithu ymatebion Cymraeg i’r Saesneg. Pe gosodid cynsail i bostio yn y ddwy iaith teimlwyd y byddai hyn yn ddull mwy cynhwysol o greu amgylchedd dysgu dwyieithog. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â defnyddio fforymau a asesir, mae gwybodaeth am raddio’r bwrdd trafod ar gael yma

Ar ôl y cyflwyniad hwn, rhoddodd Mary Jacob, darlithydd mewn Dysgu ac Addysgu yn y GDSYA, a Nicky Cashman, cynghorydd hygyrchedd yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, gyflwyniad ar Greu Deunyddiau Dysgu Cynhwysol a Hygyrch. Nod y cyflwyniad oedd rhoi cyngor ymarferol i staff ar sut i greu adnoddau mwy hygyrch i fyfyrwyr, gan gynnwys eitemau y gellir eu lawrlwytho o’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir. I roi ychydig o gyd-destun, mae 16% o Boblogaeth Myfyrwyr Aberystwyth wedi datgelu anabledd, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd y sector sef 12%. Trafododd Mary a Nicky y pynciau canlynol:

  • Offer Gwirio Hygyrchedd Microsoft – offeryn sydd wedi’i ymgorffori yn Word
  • Defnyddio arddulliau yn Word i wneud strwythur eich deunydd yn glir i fyfyrwyr
  • Sut i drosi eich dogfen Word yn ffeil PDF
  • Pa liwiau yw’r rhai mwyaf addas i’w defnyddio?

Yn ogystal â hyn, rhannodd Mary a Nicky adnodd a grëwyd gan Brifysgol Hull ar gyfer dylunio deunydd i ddysgwyr amrywiol. Mae’r adnodd hwn ar gael ar-lein a gellir dod o hyd iddo yma. Hefyd, dosbarthwyd taflen o’r enw ‘The Universal Design for Learning Guidelines’ a grëwyd gan CAST ac sydd i’w gael yma. Mae Mary hefyd yn cynnal Bwrdd Trello sy’n cynnwys llawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu. Mae yna garden ar y bwrdd Trello yn arbennig ar gyfer Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch, o dan yr adran Prosiectau/ meysydd diddordeb.

Rhoddwyd y cyflwyniad olaf gan Dr Jennifer Wood o’r Adran Ieithoedd Modern. Mae Dr Wood yn dysgu Sbaeneg a myfyriodd ar ei defnydd o Brofion Blackboard yn ei dysgu. Nod y profion hyn yw profi dealltwriaeth myfyrwyr sy’n dysgu Sbaeneg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae defnyddio Profion Blackboard yn galluogi Dr Wood i ryddhau amser yn ei gwersi wyneb yn wyneb a’i horiau cyswllt â’i myfyrwyr. Cyn defnyddio profion ar-lein, neilltuwyd amser gwerthfawr yn y sesiynau dysgu ar gyfer asesiadau dosbarth. Rhoddodd Dr Wood gyd-destun ychwanegol i’r cyflwyniad hefyd trwy drafod pryder ynghylch ieithoedd tramor (Foreign Language Anxiety) a sut y gall Profion Blackboard helpu i leddfu hyn oherwydd bod modd eu sefyll (a’u hailsefyll) ar amser sy’n siwtio’r myfyriwr ac mewn amgylchedd lle y maent yn teimlo’n gysurus. Un o fanteision defnyddio profion Blackboard yw bod modd eu hallforio, eu mewnforio a’u hail-ddefnyddio mewn modiwlau gwahanol ar ôl i chi eu llunio. Yn ogystal â hyn, gellir marcio profion yn awtomatig a rhoi adborth i’r myfyrwyr ar ôl iddynt gwblhau’r prawf. Gan ddibynnu ar yr angen dysgu, gall profion fod naill ai’n ffurfiannol neu’n grynodol a gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â’r ganolfan raddau. Ond yn ogystal â’r manteision sy’n deillio o ddefnyddio profion, gall beri rhai heriau hefyd. Gall gymryd amser i lunio a chreu’r profion. Serch hynny gallwch eu creu ar amser sy’n gyfleus i chi, a gallwch eu mewnforio a’u defnyddio yn y modiwl sydd gennych dan sylw. Mantais hyn yw y bydd gennych adnodd y gallwch ei ddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn. Os sylwch chi fod cwestiwn yn anghywir, gallwch ailddyrannu’r marciau, newid y graddau neu olygu’r cwestiwn ar gyfer pawb sydd wedi sefyll y prawf. Mae sawl math o gwestiynau y gellir eu defnyddio mewn cwisiau Blackboard. Gweler yma am restr lawn o’r mathau o gwestiynau sydd ar gael ar gyfer profion Blackboard (sylwch y bydd y math o gwestiwn a ddewiswch yn penderfynu a oes modd ei farcio’n awtomatig ai peidio). Mae rhagor o wybodaeth am brofion ar gael yma. Mae’r Grŵp E-ddysgu bob amser yn hapus i weithio gyda’n cydweithwyr academaidd i’ch helpu i gynllunio a chreu eich profion, a’u rhoi ar waith. Mae gennym gryn dipyn o arbenigedd yn y maes hwn. 

Ein Cynhadledd Fach eleni oedd ein prysuraf hyd yma o ran nifer y bobl a fynychodd. Blwyddyn nesaf efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried symud i ystafell arall. Os hoffech awgrymu pwnc ar gyfer Cynhadledd Fach y flwyddyn nesaf mae croeso i chi gysylltu â ni. Hoffwn eich atgoffa hefyd bod ein Galwad am Gynigion ar agor ar gyfer ein Cynhadledd Fer. Gallwch gyflwyno cynnig trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon. Hoffem ddiolch i’r holl gyflwynwyr am roi o’u hamser ac am rannu eu harferion â phawb a fynychodd y gynhadledd.  

E-learning Group Image

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*