Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod

Distance Learner Banner

Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod

Rhag ofn na welsoch ein blog blaenorol, mae ystafelloedd trafod nawr ar gael yn Microsoft Teams. I baratoi ar gyfer addysgu yn semester 2, a chynnydd yn yr addysgu ar-lein, rydym am roi rhai awgrymiadau i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o’r Ystafelloedd Trafod. Gellir eu defnyddio’n effeithiol iawn i gynorthwyo a hybu dysgu’r myfyrwyr, yn ogystal â rhoi’r dewis i chi rannu grwpiau mawr o fyfyrwyr i grwpiau trafod haws eu trin.

Yn yr un modd â’n holl gyngor ynghylch dysgu ar-lein, meddyliwch beth yr hoffech i’ch myfyrwyr ei wneud cyn, yn ystod, ac ar ôl y gweithgaredd.

Cyn dechrau’r Ystafelloedd Trafod:

  1. Ymgyfarwyddwch â sut mae’r ystafelloedd trafod yn gweithio. Gellir ond cychwyn ystafelloedd trafod ar ôl i’r cyfarfod ddechrau. I greu ystafelloedd trafod, mae’n rhaid i chi fod wedi trefnu’r cyfarfod.
  2. Cynlluniwch y dasg ar gyfer y myfyrwyr a rhowch wybod iddynt beth ydyw o flaen llaw. Holwch eich hun beth yr hoffech i’r myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cymryd rhan yn y gweithgaredd? A hoffech iddynt gynhyrchu unrhyw beth yn ystod yr ystafell drafod? A ydych eisiau iddynt gyflwyno unrhyw beth pan ddônt yn ôl i’r brif ystafell?
  3. Sicrhewch fod eich myfyrwyr yn deall beth sydd angen iddynt ei wneud cyn iddynt fynd i’r ystafelloedd trafod. Hefyd, rhowch strategaeth iddynt ar gyfer cysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio yn y brif ystafell. Neu gall myfyriwr ailymuno â’r prif gyfarfod eto.
  4. Rhowch wybod i’r myfyrwyr faint o amser sydd ganddynt yn yr ystafell drafod cyn y bydd yn rhaid iddynt ddod yn ôl i’r brif ystafell.

Read More

Arfer da ar gyfer gwaith grŵp ar-lein: 7 awgrym ymarferol

Mae gwaith grŵp yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr feithrin sgiliau trosglwyddadwy pwysig mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth a deinameg grŵp yn ogystal ag atgyfnerthu dysgu a dealltwriaeth. Gyda rhyngweithio wyneb yn wyneb yn gyfyngedig, gall gwaith grŵp ar-lein roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu a ffurfio perthynas â’u cyfoedion.

Er y gall myfyrwyr elwa llawer o waith grŵp, gall rhai deimlo’n bryderus o ganlyniad i nifer o broblemau posibl a all godi, megis anghydbwysedd cyfraniadau gan wahanol aelodau’r grŵp, deinameg grŵp anodd a materion amserlennu (Smith et al., 2011). Fodd bynnag, mae camau y gallech eu cymryd i leddfu’r materion hyn a dyma 7 awgrym ymarferol ar sut y gallech wneud gwaith grŵp ar-lein yn brofiad mwy pleserus ac ystyrlon i’ch myfyrwyr:

1. Dechrau ar yr un dudalen.
Sicrhau, cyn i’r gwaith grŵp ddechrau, bod pob myfyriwr yn cael cyfarwyddiadau clir yn ymwneud â sut rydych yn disgwyl i’r prosiect neu’r aseiniad gael ei gwblhau. Er enghraifft, sut ydych chi’n disgwyl i dasgau gael eu rhannu?
Mae’n hanfodol eich bod yn gosod deilliannau dysgu clir. Pa wybodaeth a sgiliau y disgwylir i’r myfyrwyr eu caffael drwy ymgymryd â’r gwaith grŵp? Gall hyn fod yn ddefnyddiol er mwyn dangos i fyfyrwyr y manteision sydd i’w cael o ymgymryd â gwaith grŵp.
Os yw’r gwaith grŵp wedi’i raddio, rhowch criteria marcio manwl i’r fyfyrwyr.

2. Cadwch niferoedd grwpiau yn fach.
Gall trefnu amser i gyfarfod fel grŵp fod yn heriol, yn enwedig os oes rhaid cynnal cyfarfodydd ar-lein. Gall grwpiau mawr wneud trefnu cyfarfodydd yn anodd iawn felly ceisiwch gadw niferoedd grwpiau’n fechan.
Gallwch hefyd annog myfyrwyr i ddefnyddio offer ar-lein am ddim, fel Doodle, i’w cynorthwyo i drefnu eu cyfarfodydd.

3. Rhoi arweiniad ar sut i gynnal cyfarfodydd ar-lein.
Gyda sesiynau ar-lein yn cael eu cyflwyno drwy MS Teams, dylai myfyrwyr fod yn gyfarwydd â sut i fynychu cyfarfodydd o fewn Teams, ond ni fyddant o reidrwydd yn gwybod sut i drefnu cyfarfod eu hunain. Rhowch gyfarwyddiadau clir iddynt ar sut i wneud hyn (FAQ – Sut ydw i’n sefydlu Cyfarfod Timau?)
Gallech hefyd roi cyfarwyddiadau i fyfyrwyr ar sut i ddefnyddio’r nodweddion cydweithredol defnyddiol o fewn Teams, megis y Bwrdd Gwyn a sut i rannu dogfennau cydweithredol.

4. Creu gweithle rhithwir.
Rhowch le rhithwir i fyfyrwyr weithio o fewn eu grwpiau, i gysylltu â’i gilydd ac i rannu syniadau.
Os ydych am i’ch myfyrwyr allu cydweithio ar ddogfen Word, efallai yr hoffech ystyried sefydlu tîm preifat ar gyfer pob grŵp o fewn MS Teams. Fodd bynnag, dylai pob asesiad aros yn Blackboard. Er mwyn i bob grŵp gael ei le ei hun i weithio, gallech sefydlu grŵp ar gyfer y myfyrwyr o fewn Blackboard. Mae’n bwysig rhoi awgrymiadau i fyfyrwyr ar sut i wneud y defnydd gorau o’u gweithle rhithwir.
Gallech hefyd sefydlu bwrdd trafod ar gyfer pob grŵp neu gallech greu bwrdd trafod cyffredinol ar gyfer y modiwl cyfan yn Blackboard fel y gall myfyrwyr ofyn cwestiynau i chi (FAQ: Sut ydw i’n ychwanegu bwrdd trafod at fy modiwl Blackboard?)

5. Rhannu cyfrifoldebau arwain.
Yn hytrach na chael un myfyriwr i arwain y grŵp, beth am ofyn i’r myfyrwyr gymryd eu tro i hwyluso ac arwain y drafodaeth ym mhob cyfarfod? Gall hyn helpu i sicrhau bod pob aelod o’r grŵp yn cymryd cyfrifoldeb cyfartal wrth arwain y grŵp ac yn rhoi cyfle i bawb ddatblygu sgiliau arwain pwysig.

6. Graddio.
Sicrhewch bod eich myfyrwyr yn deall sut bydd y gwaith grŵp yn cael ei asesu. Gellir marcio gwaith grŵp naill ai yn ei gyfanrwydd, yn unigol neu’n gyfuniad o’r ddau (e.e. marcio’r gwaith yn ei gyfanrwydd ond gan ystyried cyfraniadau unigol drwy hunanwerthusiadau a gwerthusiadau gan gymheiriaid).

7. Bod ar gael i roi cymorth.
Efallai y bydd gwaith grŵp yn heriol i rai myfyrwyr. Mae’n bwysig felly bod myfyrwyr yn gwybod beth i’w wneud os oes angen iddynt drafod unrhyw faterion gyda chi’n gyfrinachol neu os oes ganddynt unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r gwaith grŵp yn gyffredinol.
Rhowch fanylion i fyfyrwyr ar sut a phryd y gallant gysylltu â chi. Efallai y byddwch hefyd am sefydlu sesiynau galw heibio dewisol yn MS Teams ar gyfer y myfyrwyr lle gallant ymuno â chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Smith, et al. (2011) ‘Overcoming student resistance to group work: Online versus face-to-face’, The Internet and Higher Education, 14, pp. 121–128.

Sut alla i wirio dealltwriaeth wrth addysgu ar-lein?

Mae gwirio dealltwriaeth myfyrwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses ddysgu ac addysgu a gall gadarnhau i’r darlithydd beth sy’n cael ei ddysgu tra hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu eu hunain. Gwirio dealltwriaeth yw un o’r heriau mwyaf wrth addysgu ac mae gorfod gwneud hynny mewn ystafell ddosbarth rithwir hyd yn oed yn fwy heriol nag yn yr ystafell ddysgu draddodiadol lle addysgir wyneb-yn-wyneb! Fodd bynnag, mae sawl nodwedd ddefnyddiol o fewn MS Teams y gellir eu defnyddio i’ch helpu i wirio dealltwriaeth. Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut i wneud y mwyaf o’r nodweddion hyn:

Y nodwedd sgwrsio (chat).
Gallwch ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio mewn amrywiaeth o ffyrdd i wirio dealltwriaeth. Mae rhai syniadau’n cynnwys gofyn i’r myfyrwyr grynhoi cysyniad neu syniad, neu aralleirio damcaniaeth mewn ychydig o frawddegau a phostio hynny yn y nodwedd sgwrsio. Gall y nodwedd hon hefyd fod yn werthfawr iawn i wirio dealltwriaeth myfyrwyr tawelach sydd efallai’n dymuno peidio ag ymateb ar lafar i’ch cwestiynau. Dyma rai awgrymiadau ar sut i reoli’r sgwrs yn effeithiol yn MS Teams.

Screenshot showing reactions to a post in the chat

Emojis.
I godi bach o hwyl yn yr ystafell ddosbarth ac fel ffordd o osgoi ymatebion “ie/na”, gallech ofyn i’ch myfyrwyr ymateb i’ch sylw yn y sgwrs i fynegi sut maen nhw’n teimlo am bwnc neu gysyniad. Er enghraifft:

Nodwedd codi eich llaw.
Mae’r nodwedd codi eich llaw o fewn Teams yn caniatáu i ddefnyddwyr hysbysu’r darlithydd fod ganddynt gwestiwn neu sylw i’w wneud, ond gallech hefyd ei ddefnyddio i wirio dealltwriaeth. Beth am ofyn i fyfyrwyr ddefnyddio’r nodwedd mewn ymateb i gwestiwn? Er enghraifft, “codwch eich llaw os ydych am i mi ddangos i chi sut i wneud hynny eto“.
Gallech hefyd ddefnyddio’r nodwedd i annog myfyrwyr i ymhelaethu ar eu hatebion yn y sgwrs, er enghraifft “codwch eich llaw os gallwch ddweud mwy wrthyf am hynny“. Os yw’r myfyrwyr yn bryderus am ymateb ar lafar, gallwch eu hannog i ymateb gydag ymhelaethu yn ysgrifenedig yn y sgwrs.

Read More

Sesiynau galw heibio: Offer e-ddysgu

Hoffem gynnig cyfle i staff y Brifysgol ymuno â ni yn ein sesiynau galw heibio ar ddefnyddio offer e-ddysgu (Blackboard, Panopto, Turnitin a MS Teams) ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu. Bydd y rhain yn gyfle anffurfiol i chi siarad â’n Harbenigwyr Dysgu Ar-lein ac i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sydd gyda chi.

Cynhelir pob sesiwn galw heibio drwy MS Teams ac nid oes angen archebu lle, dim ond clicio ar y dolenni isod. *Noder y bydd sesiynau gyda seren (*) yn sesiynau dwyieithog, a bydd pob sesiwn heb seren yn cael ei rhedeg fel sesiynau cyfrwng Saesneg.

Bydd y sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cynnal ar:

19.01.2021 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams*
21.01.2021 (14:00-15:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams
26.01.2021 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams*
28.01.2021 (14:00-15:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams
02.02.2021 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams*
04.02.2021 (14:00-15:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

Gobeithiwn y bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gael atebion i unrhyw gwestiynau am eich anghenion addysgu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.

Sut i sicrhau bod recordiadau anghydamserol yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol

Mae cynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw wedi dod yn ffactor allweddol wrth gyflwyno cyrsiau a galluogi’r profiad dysgu gorau i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae sawl strategaeth y gall darlithwyr eu defnyddio i sicrhau bod y recordiadau hyn yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol.

Mae sawl mantais i ddarlithoedd anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr – y genhedlaeth YouTube – yn adnabod y dull hwn o ddysgu yn dda iawn (Scagnoli, Choo a Tian, 2019). Rhai manteision yw y gall myfyrwyr reoli eu hymgysylltiad â’r cynnwys a’u bod yn gwerthfawrogi’r cyfleustra a’r hyblygrwydd y mae recordiadau anghydamserol yn ei roi iddynt, yn arbennig o ran cyflymdra’r dysgu a bod modd iddynt wylio drosodd a throsodd (Dale a Pymm, 2009; Ramlogan et al., 2014; Scagnoli, Choo a Tian, 2019).

Mae hi’n hanfodol felly bod staff yn amlinellu beth maent yn ei ddisgwyl gan y myfyrwyr o ran ymgysylltu â’r deunyddiau dysgu, a hynny yn y fideos a recordiwyd yn ogystal â’r sesiynau wyneb yn wyneb.

Darganfu Scagnoli, Choo a Tian (2019) bod dros hanner myfyrwyr israddedig yn llai tebygol o ymgysylltu â chynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw os oeddent yn teimlo nad oedd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gweithgareddau yn y sesiynau neu ag aseiniadau. Mae gwneud cyswllt eglur rhwng elfennau gwahanol o fodiwl, yn y cynnwys a recordiwyd eisoes a’r sesiynau wyneb yn wyneb, felly yn eithriadol o bwysig.

Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi cymdeithas a phresenoldeb wrth addysgu, ac yn fwy tebygol o fod yn wybyddol bresennol eu hunain (h.y. gwneud penderfyniad ymwybodol i ymgysylltu â’r ddarlith sydd wedi’i recordio yn unig, yn hytrach na cheisio amldasgio), os ydynt yn teimlo’n gysylltiedig â’r gymuned ddysgu. Yn syml: mae eich presenoldeb yn y deunyddiau wedi’u recordio yn hanfodol. Os yw’n bosibl, dangoswch eich wyneb, edrychwch ar y camera, a byddwch yn bresennol yn y recordiad . Yn enwedig gan fod y myfyrwyr, o bosibl, ond yn adnabod hanner uchaf eich wyneb, os o gwbl, mae gallu ymgysylltu â darlithwyr fel pobl yn ffordd allweddol o sicrhau bod eich cynnwys a recordiwyd yn ennyn mwy o frwdfrydedd.

Ystyriwch fod y myfyrwyr yn debygol iawn o ymgysylltu â darlithoedd a recordiwyd ar eu pennau eu hunain. Mae’r fideos felly’n sgwrs uniongyrchol, un i un. Addaswch eich cyflwyniad i fod yn fwy uniongyrchol, yn hytrach na’r modd y byddech chi’n traddodi darlith i ddarlithfa gyda 100 o fyfyrwyr.

Wrth ymgysylltu â’r fideos, mae talpio yn hanfodol. Nid yw’n ddigon recordio darlith a’i rhannu’n ddwy. Mae cynnwys tasg bob 5 i 10 munud yn torri’r ddarlith i fyny, yn gosod cyfrifoldeb am y dysgu ar y myfyrwyr, ac yn cynyddu’r rhyngweithio. Gallai hyn gynnwys

• Cwisiau (gellir ychwanegu’r rhain yn Panopto, ac oedi’r recordiad nes eu bod wedi’u cwblhau)
• Ysgrifennu sydyn (rhoi 2-3 munud i’r myfyrwyr ysgrifennu unrhyw wybodaeth bresennol sydd ganddynt neu grynhoi eu dealltwriaeth o bwnc hyd yma)
• Defnyddio’r nodweddion Nodiadau a Thrafodaeth yn Panopto (gellid defnyddio’r rhain ar gyfer Ysgrifennu Sydyn)
• Polau rhyngweithiol (gall y canlyniadau ffurfio sail i drafodaeth wyneb yn wyneb wedyn)

Yn yr un modd, mae gweithgareddau cyfochrog y gallech eu cynnwys ar gyfer eich myfyrwyr, megis cwestiynau am y pwnc, wedi’u darparu fel copi digidol o flaen llaw, y gall y myfyrwyr eu hateb wrth iddynt ymgysylltu â’r ddarlith (neu gallant ddewis eu defnyddio fel strwythur ar gyfer tasg Ysgrifennu Sydyn). Mae herio’r myfyrwyr i ddod â chwestiynau sydd wedi codi yn ystod darlith anghydamserol i sesiwn wyneb yn wyneb yn ffordd arall o annog ymgysylltiad â chynnwys a recordiwyd.

Dyma rai strategaethau eraill ar gyfer annog ymgysylltiad

• Egluro’n gwbl glir beth fydd y myfyrwyr yn ei elwa o’r sesiwn
• Defnyddio sleidiau clir, syml a graffig (cofiwch hygyrchedd)
• Crëwch fwrdd stori neu sgript ar gyfer eich cynnwys, os oes angen, i gynnal strwythur eglur o’r dechrau i’r diwedd
• Gorffennwch drwy atgoffa’r myfyrwyr o’r prif bwyntiau a beth yw’ch disgwyliadau o ran y gweithgareddau annibynnol cyn y sesiwn nesaf

Rydym yn argymell ein cyfarwyddyd ar ‘y ffordd orau o ddefnyddio’ch llais wrth recordio’ (isdeitlau dwyieithog yn y fideo) ac yn eich gwahodd i ymuno ag unrhyw sesiynau hyfforddi DPP perthnasol (dolen i’r sesiynau yma).

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 11/1/2021

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd - Dysgu ac Addysgu
Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd – Dysgu ac Addysgu

Fel arweinydd ein rhaglen PGCTHE, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.        

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Trefnu Cynnwys yn Blackboard

 Distance Learner Banner

Gan ein bod yn defnyddio mwy a mwy o nodweddion ym modiwlau Blackboard, mae’r modd y cânt eu trefnu wedi dod yn gynyddol bwysig. Rydym yn cael nifer o ymholiadau gan fyfyrwyr sy’n cael trafferth dod o hyd i eitemau gwahanol neu fannau cyflwyno yn Blackboard.

I gynorthwyo â hyn, rydym wedi nodi ein prif awgrymiadau ar gyfer trefnu cynnwys.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn neu os hoffech wneud cais am MOT modiwl, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.

Awgrymiadau ar gyfer Trefnu Cynnwys Blackboard

Cyn dechrau creu a threfnu cynnwys ar eich modiwlau Blackboard, meddyliwch beth yw’r ffordd orau o’i drefnu fel bod modd i’r myfyrwyr gael mynediad ato’n rhwydd a bod y gweithgareddau a’r adnoddau dysgu gyda’i gilydd mewn lle rhesymegol. 

1: Trefnu Cynnwys:

Dewiswch yr eitem gywir o’r ddewislen ar gyfer eich cynnwysMae gan bob adran ei thempled ei hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r cynnwys yn y lle mwyaf rhesymegol i’r myfyrwyr ddod o hyd iddo.
Defnyddiwch strwythur ffolder i drefnu eich cynnwysDefnyddiwch ffolderi i sicrhau nad yw’r myfyrwyr yn gorfod sgrolio i lawr tudalen hir a’u helpu i ddod o hyd i gynnwys yn haws. Defnyddiwch ffolder wahanol ar gyfer pob wythnos neu bwnc.
Cyfyngwch ar sawl gwaith y mae’n rhaid clicio cyn gweld y cynnwysGofalwch rhag rhoi gormod o gliciau - dylai myfyriwr allu gweld y cynnwys angenrheidiol mewn 3 chlic ar y mwyaf.

2. Enwi Cynnwys:

Defnyddiwch derminoleg a chonfensiynau enwi cyfarwydd Os ydych chi’n ychwanegu dolen i recordiad Panopto, gwnewch yn siŵr eich bod yn addasu enw’r ddarlith.
Byddwch yn gyson gyda chonfensiynau enwiDefnyddiwch yr un derminoleg drwy gydol y modiwl a rhowch enwau ystyrlon i eitemau.
Defnyddiwch ddisgrifiadau ar ffolderi cynnwysAmlinellwch gynnwys y ffolderi yn y disgrifiadau ffeil er mwyn i’r myfyrwyr wybod beth sydd ynddynt

3. Dealltwriaeth o’r Cynnwys:

Crëwch eitem Blackboard gyda throsolwg o’r modiwlDefnyddiwch strwythur wythnos wrth wythnos i roi gwybod i fyfyrwyr beth y gallant ei ddisgwyl. Cofiwch gynnwys unrhyw ddyddiadau allweddol ar gyfer aseiniadau neu dasgau. Gall hyn fod ar ffurf tabl.

Defnyddiwch Panopto i recordio taith fideo o’r modiwl
Gwnewch sgrinlediad o daith o’r modiwl yn amlygu’r ardaloedd allweddol i fyfyrwyr. Crëwch ddolen i’r recordiad o dan Gwasanathau Modiwl
Defnyddiwch gyhoeddiadau gyda dolenni i’r cwrs i dynnu sylw’r myfyrwyrBydd defnyddio dolen i’r cwrs yn galluogi myfyrwyr i lywio i’r adran honno o’r cyhoeddiadau. Defnyddiwch hyn i dynnu sylw eich myfyrwyr at eitem, ffolder neu offer penodol megis man cyflwyno.

4. Adolygu Cynnwys:

Defnyddiwch ragolwg myfyriwrPan fyddwch wedi creu eich cynnwys, defnyddiwch y nodwedd rhagolwg myfyriwr i weld sut mae’n edrych i’r myfyrwyr.
Symudwch unrhyw gynnwys y mae’r myfyrwyr yn cael trafferth dod o hyd iddoHyd yn oed ar ôl creu cynnwys, mae’n bosibl ei symud o hyd. Gofynnwch i’ch myfyrwyr a ydynt yn gallu dod o hyd i’r cynnwys a’r gweithgareddau dysgu a gwneud unrhyw addasiadau os oes angen.

Mae gennym Isafswm Presenoldeb Gofynnol diwygiedig ar gyfer dysgu yn ein cyd-destun presennol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.

I gael rhagor o syniadau sut i drefnu eich modiwlau, edrychwch ar rai o enillwyr ein Gwobr Cwrs Nodedig.

Gweithdy Kate Exley: Symud eich Darlithoedd (PowerPoint) Ar-lein

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi gweithdy ar-lein arbennig a gynhelir gan Dr Kate Exley ddydd Mercher 17 Chwefror.

Bydd y gweithdy yn ddefnyddiol i gydweithwyr sy’n addasu a throsglwyddo eu darlithoedd traddodiadol ar gyfer dysgu ar-lein.

Archebwch eich lle ar-lein [link].

Er mwyn i gymaint o gydweithwyr â phosibl allu dod, rydym yn cynnal y gweithdy ddwywaith (11yb-12yp ac 1yp-2yp). Dewiswch ba sesiwn yr hoffech ddod iddi wrth archebu.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.

Trosolwg o’r Sesiwn:

Mae nifer o gydweithwyr wedi bod yn addysgu’n gyfunol neu ar-lein ers nifer o flynyddoedd ond mae pandemig Covid wedi golygu ei bod yn rhaid i ni gyd ddarparu llawer o’n dysgu ac addysgu o bell. Mae hyn wedi golygu symud ein darlithoedd, a draddodwyd o’r blaen mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, i lwyfannau ar-lein. Mae’r cyflymder y mae’r newid mawr hwn wedi digwydd yn ei hun wedi achosi heriau sylweddol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae’r gweithdy cyfunol hwn yn bwriadu darparu cyfarwyddyd, enghreifftiau a fforwm i gydweithwyr rannu eu profiadau a’u syniadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth hon.

Cyflwynir y gweithdy mewn dwy ran:

  • Bydd cyfres o 3 fideo byr ar gael ar neu cyn 5 Chwefror 2021 a dylid eu gwylio’n annibynnol cyn ymuno â’r fforwm drafod – oddeutu 45 munud o astudio annibynnol.
  • Fforwm drafod a gynhelir ar Teams ar 17 Chwefror, ble bydd gan gyfranogwyr gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a thrafod y pwnc – 1 awr o hyd.

Read More