Sut alla i wirio dealltwriaeth wrth addysgu ar-lein?

Mae gwirio dealltwriaeth myfyrwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses ddysgu ac addysgu a gall gadarnhau i’r darlithydd beth sy’n cael ei ddysgu tra hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu eu hunain. Gwirio dealltwriaeth yw un o’r heriau mwyaf wrth addysgu ac mae gorfod gwneud hynny mewn ystafell ddosbarth rithwir hyd yn oed yn fwy heriol nag yn yr ystafell ddysgu draddodiadol lle addysgir wyneb-yn-wyneb! Fodd bynnag, mae sawl nodwedd ddefnyddiol o fewn MS Teams y gellir eu defnyddio i’ch helpu i wirio dealltwriaeth. Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut i wneud y mwyaf o’r nodweddion hyn:

Y nodwedd sgwrsio (chat).
Gallwch ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio mewn amrywiaeth o ffyrdd i wirio dealltwriaeth. Mae rhai syniadau’n cynnwys gofyn i’r myfyrwyr grynhoi cysyniad neu syniad, neu aralleirio damcaniaeth mewn ychydig o frawddegau a phostio hynny yn y nodwedd sgwrsio. Gall y nodwedd hon hefyd fod yn werthfawr iawn i wirio dealltwriaeth myfyrwyr tawelach sydd efallai’n dymuno peidio ag ymateb ar lafar i’ch cwestiynau. Dyma rai awgrymiadau ar sut i reoli’r sgwrs yn effeithiol yn MS Teams.

Screenshot showing reactions to a post in the chat

Emojis.
I godi bach o hwyl yn yr ystafell ddosbarth ac fel ffordd o osgoi ymatebion “ie/na”, gallech ofyn i’ch myfyrwyr ymateb i’ch sylw yn y sgwrs i fynegi sut maen nhw’n teimlo am bwnc neu gysyniad. Er enghraifft:

Nodwedd codi eich llaw.
Mae’r nodwedd codi eich llaw o fewn Teams yn caniatáu i ddefnyddwyr hysbysu’r darlithydd fod ganddynt gwestiwn neu sylw i’w wneud, ond gallech hefyd ei ddefnyddio i wirio dealltwriaeth. Beth am ofyn i fyfyrwyr ddefnyddio’r nodwedd mewn ymateb i gwestiwn? Er enghraifft, “codwch eich llaw os ydych am i mi ddangos i chi sut i wneud hynny eto“.
Gallech hefyd ddefnyddio’r nodwedd i annog myfyrwyr i ymhelaethu ar eu hatebion yn y sgwrs, er enghraifft “codwch eich llaw os gallwch ddweud mwy wrthyf am hynny“. Os yw’r myfyrwyr yn bryderus am ymateb ar lafar, gallwch eu hannog i ymateb gydag ymhelaethu yn ysgrifenedig yn y sgwrs.

Ystafelloedd Trafod.
Gallwch ddefnyddio nodwedd newydd MS Team, Ystafelloedd Trafod, i ddyrannu parau o fyfyrwyr i wahanol ystafelloedd rhithiol i fyfyrio ar gysyniad neu i feddwl am gwestiwn neu ysgogiad. Yna gallech wahodd pob pâr i rannu’r hyn y maent wedi’i drafod gyda’r brif ystafell drwy’r sgwrs, ar lafar neu ar ddogfen gydweithredol.

Y Bwrdd Gwyn.
Mae’r nodwedd Bwrdd Gwyn yn Teams yn caniatáu i fyfyrwyr dynnu llun, braslunio ac ysgrifennu ar gynfas digidol. Mae sawl ffordd wahanol y gallech ddefnyddio’r Bwrdd Gwyn i wirio dealltwriaeth, ond dyma ddau syniad:
1. Gallech ofyn i fyfyrwyr bostio sticky-note ac ysgrifennu eu pwynt mwyaf dryslyd (Muddiest Point) o’r ddarlith neu’r seminar – h.y. beth oedd y rhan anoddaf neu’r rhan fwyaf dryslyd yn y wers?
2. Gallech hefyd ddefnyddio’r Bwrdd Gwyn i wirio dealltwriaeth drwy ofyn i fyfyrwyr fynegi sut maen nhw’n teimlo am gysyniad drwy farcio X ar raddfa. Gallai hyn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi ailedrych ar bwnc ai peidio neu gynnig cymorth ychwanegol i’r rhai sydd dal yn ansicr.

Dogfennau Cydweithredol.
Gallech rannu dogfen Word drwy’r nodwedd sgwrsio o fewn Teams, lle bydd pob myfyriwr yn gallu ei golygu ar yr un pryd, fel ffordd o goladu meddyliau a syniadau pawb. Gallech baratoi’r ddogfen hon ymlaen llaw gyda rhai cwestiynau i fyfyrwyr eu hateb i wirio dealltwriaeth. Er enghraifft, “Beth yw prif bwynt yr awdur?“; “Beth yw’r dadleuon o blaid ac yn erbyn y syniad hwn?

Dau awgrym ychwanegol…..

Gwnewch ddefnydd o gwisiau byw.
Mae gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â phrawf Blackboard anghydamserol neu ychwanegu cwisiau at recordiadau darlithoedd anghydamserol yn Panopto yn ffordd wych i wirio dealltwriaeth y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, gallech hefyd gynnal cwisiau yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio meddalwedd trydydd parti fel Vevox, Mentimeter neu Kahoot i wirio dealltwriaeth mewn amgylchedd lle rydych wrth law i gynnig esboniad pellach (canllawiau ar ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer addysgu). Gallwch sefydlu’r rhain fel cwisiau dienw i annog myfyrwyr i gyfrannu.
Gallech hefyd bostio cwestiynau amlddewis yn y sgwrs a gofyn i fyfyrwyr ateb gydag emoji, e.e.:

Caniatewch amser ar gyfer hunanfyfyrio.
Mae’n bwysig iawn caniatáu amser ar gyfer hunanfyfyrio yn yr ystafell ddosbarth rithwir a pheidiwch â bod ofn gofyn i’ch myfyrwyr gymryd ychydig funudau i fyfyrio ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn y dosbarth i’w helpu i brosesu’r dysgu. Er enghraifft, gallech ofyn iddynt fyfyrio drwy grynhoi mewn cwpl o frawddegau: 1) y pethau a ddysgasant o’ch gwers; 2) y pethau y maent am wybod mwy amdanynt; a 3) unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

Gobeithiwn y bydd y rhain yn rhoi rhai syniadau i chi ynghylch sut y gallech ddefnyddio’r gwahanol offer yn MS Teams i wirio dealltwriaeth ar-lein. Os hoffech drafod sut i weithredu’r syniadau hyn yn ymarferol yn eich addysgu eich hun neu os oes gennych unrhyw gwestiynau yn gyffredinol, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*