Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod

Distance Learner Banner

Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod

Rhag ofn na welsoch ein blog blaenorol, mae ystafelloedd trafod nawr ar gael yn Microsoft Teams. I baratoi ar gyfer addysgu yn semester 2, a chynnydd yn yr addysgu ar-lein, rydym am roi rhai awgrymiadau i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o’r Ystafelloedd Trafod. Gellir eu defnyddio’n effeithiol iawn i gynorthwyo a hybu dysgu’r myfyrwyr, yn ogystal â rhoi’r dewis i chi rannu grwpiau mawr o fyfyrwyr i grwpiau trafod haws eu trin.

Yn yr un modd â’n holl gyngor ynghylch dysgu ar-lein, meddyliwch beth yr hoffech i’ch myfyrwyr ei wneud cyn, yn ystod, ac ar ôl y gweithgaredd.

Cyn dechrau’r Ystafelloedd Trafod:

  1. Ymgyfarwyddwch â sut mae’r ystafelloedd trafod yn gweithio. Gellir ond cychwyn ystafelloedd trafod ar ôl i’r cyfarfod ddechrau. I greu ystafelloedd trafod, mae’n rhaid i chi fod wedi trefnu’r cyfarfod.
  2. Cynlluniwch y dasg ar gyfer y myfyrwyr a rhowch wybod iddynt beth ydyw o flaen llaw. Holwch eich hun beth yr hoffech i’r myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cymryd rhan yn y gweithgaredd? A hoffech iddynt gynhyrchu unrhyw beth yn ystod yr ystafell drafod? A ydych eisiau iddynt gyflwyno unrhyw beth pan ddônt yn ôl i’r brif ystafell?
  3. Sicrhewch fod eich myfyrwyr yn deall beth sydd angen iddynt ei wneud cyn iddynt fynd i’r ystafelloedd trafod. Hefyd, rhowch strategaeth iddynt ar gyfer cysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio yn y brif ystafell. Neu gall myfyriwr ailymuno â’r prif gyfarfod eto.
  4. Rhowch wybod i’r myfyrwyr faint o amser sydd ganddynt yn yr ystafell drafod cyn y bydd yn rhaid iddynt ddod yn ôl i’r brif ystafell.

Yn ystod y Gweithgaredd:

  1. Os oes unrhyw un o’r myfyrwyr yn cael trafferth ymuno ag ystafell drafod – er enghraifft, maent wedi ymuno fel gwestai neu nad yw eu cyfrifiaduron yn cydweddu ag ystafelloedd trafod, gofynnwch iddynt aros yn y prif gyfarfod.
  2. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddefnyddio dogfen gyfrannol yn eu hystafell drafod i gadw cofnod o’u trafodaeth. Gallant ddod â’r ddogfen yn ôl i’r brif ystafell. Gall myfyrwyr hefyd weithio ar fwrdd gwyn cyfrannol yn eu hystafelloedd trafod.
  3. Mae croeso i chi bicio i mewn i’r ystafelloedd ar unrhyw adeg os oes angen, i roi cyfle i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau.
  4. Defnyddiwch y nodwedd sgwrsio ym mhob ystafell i fwydo gwybodaeth ychwanegol i mewn ar unrhyw adeg neu i ofyn i’ch myfyrwyr ystyried rhywbeth arall.

Ar ôl y Gweithgaredd

  1. Casglwch ynghyd yr holl adnoddau y mae’ch myfyrwyr wedi’u cynhyrchu yn ystod eu gweithgaredd – gofynnwch iddynt eu hatodi i sgwrs y cyfarfod a rhannwch hyn gyda gweddill y grŵp neu drwy Blackboard.
  2. Gofynnwch i’r myfyrwyr wneud tasg anghydamserol y tu allan i’r sesiwn Teams i atgyfnerthu eu trafodaeth neu gweithgaredd. Gall hyn gynnwys ysgrifennu dyddlyfr myfyriol neu flog neu gyfrannu at fwrdd trafod ar Blackboard. Bydd hyn o gymorth i’r rhai nad oedd yn bresennol allu ymgysylltu â’r gweithgareddau.

Rydym yn awyddus iawn i glywed sut yr ydych wedi bod yn defnyddio’r ystafelloedd trafod wrth addysgu. Cysylltwch â ni ar lteu@aber.ac.uk i roi gwybod i ni beth rydych wedi bod yn ei wneud.

Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer defnyddio Ystafelloedd Trafod. Gallwch archebu lle ar ein cyrsiau ar-lein.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*