Gellir creu profion a chwisiau ar-lein i’ch myfyrwyr trwy ddefnyddio adnodd profion (Tests) Blackboard. Gallwch ddarparu profion i fod yn ddull ffurfiannol o asesu, yn ddull hunanasesu i fyfyrwyr, neu’n ddull mwy ffurfiol o asesu perfformiad myfyriwr.
Yn ddiweddar, mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi diweddaru ein canllaw ynglŷn â phrofion Blackboard, er mwyn cefnogi staff sy’n darparu gweithgaredd asesu ar-lein i fyfyrwyr.
Pam defnyddio Profion Blackboard yn fy modiwl?
Manteision i Fyfyrwyr
Manteision i Staff
Sut mae creu prawf yn Blackboard?
Dilynwch ein cyfarwyddyd ar greu prawf, ac yna gosod y prawf yn Blackboard.
Profion Blackboard i Fyfyrwyr
Ar ôl ichi greu a gosod eich Prawf, rydym yn argymell eich bod yn rhoi ein canllawiau ar gymryd profion Blackboard i’ch myfyrwyr.
Os bydd myfyriwr yn cael trafferthion wrth gymryd y prawf, efallai y bydd angen i chi glirio ymgais y myfyriwr fel y gall ailsefyll y prawf.
Os hoffech ragor o wybodaeth o unrhyw fath am y broses neu os oes gennych gwestiynau penodol, cofiwch gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk). Os ydych yn bwriadu defnyddio’r profion ar gyfer asesu ffurfiol, cofiwch gysylltu â ni.
Hysbysiad: Support for teaching online – here we go again! | Learning and Teaching Enhancement Unit