Sut i sicrhau bod recordiadau anghydamserol yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol

Mae cynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw wedi dod yn ffactor allweddol wrth gyflwyno cyrsiau a galluogi’r profiad dysgu gorau i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae sawl strategaeth y gall darlithwyr eu defnyddio i sicrhau bod y recordiadau hyn yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol.

Mae sawl mantais i ddarlithoedd anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr – y genhedlaeth YouTube – yn adnabod y dull hwn o ddysgu yn dda iawn (Scagnoli, Choo a Tian, 2019). Rhai manteision yw y gall myfyrwyr reoli eu hymgysylltiad â’r cynnwys a’u bod yn gwerthfawrogi’r cyfleustra a’r hyblygrwydd y mae recordiadau anghydamserol yn ei roi iddynt, yn arbennig o ran cyflymdra’r dysgu a bod modd iddynt wylio drosodd a throsodd (Dale a Pymm, 2009; Ramlogan et al., 2014; Scagnoli, Choo a Tian, 2019).

Mae hi’n hanfodol felly bod staff yn amlinellu beth maent yn ei ddisgwyl gan y myfyrwyr o ran ymgysylltu â’r deunyddiau dysgu, a hynny yn y fideos a recordiwyd yn ogystal â’r sesiynau wyneb yn wyneb.

Darganfu Scagnoli, Choo a Tian (2019) bod dros hanner myfyrwyr israddedig yn llai tebygol o ymgysylltu â chynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw os oeddent yn teimlo nad oedd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gweithgareddau yn y sesiynau neu ag aseiniadau. Mae gwneud cyswllt eglur rhwng elfennau gwahanol o fodiwl, yn y cynnwys a recordiwyd eisoes a’r sesiynau wyneb yn wyneb, felly yn eithriadol o bwysig.

Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi cymdeithas a phresenoldeb wrth addysgu, ac yn fwy tebygol o fod yn wybyddol bresennol eu hunain (h.y. gwneud penderfyniad ymwybodol i ymgysylltu â’r ddarlith sydd wedi’i recordio yn unig, yn hytrach na cheisio amldasgio), os ydynt yn teimlo’n gysylltiedig â’r gymuned ddysgu. Yn syml: mae eich presenoldeb yn y deunyddiau wedi’u recordio yn hanfodol. Os yw’n bosibl, dangoswch eich wyneb, edrychwch ar y camera, a byddwch yn bresennol yn y recordiad . Yn enwedig gan fod y myfyrwyr, o bosibl, ond yn adnabod hanner uchaf eich wyneb, os o gwbl, mae gallu ymgysylltu â darlithwyr fel pobl yn ffordd allweddol o sicrhau bod eich cynnwys a recordiwyd yn ennyn mwy o frwdfrydedd.

Ystyriwch fod y myfyrwyr yn debygol iawn o ymgysylltu â darlithoedd a recordiwyd ar eu pennau eu hunain. Mae’r fideos felly’n sgwrs uniongyrchol, un i un. Addaswch eich cyflwyniad i fod yn fwy uniongyrchol, yn hytrach na’r modd y byddech chi’n traddodi darlith i ddarlithfa gyda 100 o fyfyrwyr.

Wrth ymgysylltu â’r fideos, mae talpio yn hanfodol. Nid yw’n ddigon recordio darlith a’i rhannu’n ddwy. Mae cynnwys tasg bob 5 i 10 munud yn torri’r ddarlith i fyny, yn gosod cyfrifoldeb am y dysgu ar y myfyrwyr, ac yn cynyddu’r rhyngweithio. Gallai hyn gynnwys

• Cwisiau (gellir ychwanegu’r rhain yn Panopto, ac oedi’r recordiad nes eu bod wedi’u cwblhau)
• Ysgrifennu sydyn (rhoi 2-3 munud i’r myfyrwyr ysgrifennu unrhyw wybodaeth bresennol sydd ganddynt neu grynhoi eu dealltwriaeth o bwnc hyd yma)
• Defnyddio’r nodweddion Nodiadau a Thrafodaeth yn Panopto (gellid defnyddio’r rhain ar gyfer Ysgrifennu Sydyn)
• Polau rhyngweithiol (gall y canlyniadau ffurfio sail i drafodaeth wyneb yn wyneb wedyn)

Yn yr un modd, mae gweithgareddau cyfochrog y gallech eu cynnwys ar gyfer eich myfyrwyr, megis cwestiynau am y pwnc, wedi’u darparu fel copi digidol o flaen llaw, y gall y myfyrwyr eu hateb wrth iddynt ymgysylltu â’r ddarlith (neu gallant ddewis eu defnyddio fel strwythur ar gyfer tasg Ysgrifennu Sydyn). Mae herio’r myfyrwyr i ddod â chwestiynau sydd wedi codi yn ystod darlith anghydamserol i sesiwn wyneb yn wyneb yn ffordd arall o annog ymgysylltiad â chynnwys a recordiwyd.

Dyma rai strategaethau eraill ar gyfer annog ymgysylltiad

• Egluro’n gwbl glir beth fydd y myfyrwyr yn ei elwa o’r sesiwn
• Defnyddio sleidiau clir, syml a graffig (cofiwch hygyrchedd)
• Crëwch fwrdd stori neu sgript ar gyfer eich cynnwys, os oes angen, i gynnal strwythur eglur o’r dechrau i’r diwedd
• Gorffennwch drwy atgoffa’r myfyrwyr o’r prif bwyntiau a beth yw’ch disgwyliadau o ran y gweithgareddau annibynnol cyn y sesiwn nesaf

Rydym yn argymell ein cyfarwyddyd ar ‘y ffordd orau o ddefnyddio’ch llais wrth recordio’ (isdeitlau dwyieithog yn y fideo) ac yn eich gwahodd i ymuno ag unrhyw sesiynau hyfforddi DPP perthnasol (dolen i’r sesiynau yma).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*