Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Mae hwn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau ar gyfer Mis Medi. Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard:
Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau. Os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.
Tua diwedd mis Gorffennaf byddwn yn dechrau creu modiwlau Blackboard ar gyfer 2022-23.
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd fersiynau gwag o unrhyw gyrsiau presennol yn cael eu creu. Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Academaidd yn ddiweddar.
Bydd cynnwys a ffeiliau’r cyrsiau yn cael eu copïo o’r fersiwn o’r modiwl yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd mannau cyflwyno Turnitin, recordiadau Panopto na gweithgareddau rhyngweithiol Blackboard yn cael eu cynnwys wrth gopïo; bydd angen ail-greu’r rhain. Mae gennym lawer o Gwestiynau Cyffredini gynorthwyo’r staff gyda hyn.
Os ydych chi’n cynnal modiwl newydd yna bydd y rhain yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Templedi Adrannol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn yr un modd, os ydych chi’n cynnal modiwl na chafodd ei gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yna bydd y rhain hefyd yn cael eu creu’n wag.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon (eddysgu@aber.ac.uk). Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y modiwlau wedi’u creu.
Mae Dr Laura Stephenson, o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl TFM0120: Gender and Media Production.
Yn ogystal, cafodd y modiwlau canlynol statws Canmoliaeth Uchel:
Dr Andrew Filmer o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am fodiwl TP33420: Performance and Architecture
Dr Maire Gorman o Ysgol y Graddedigion a Ffisegam fodiwl PGM4310: Quantitative Data Collection and Analysis
Claire Ward o Dysgu Gydol Oes am fodiwl XA01605: Natural History Illustration: Seed Heads
Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.
Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.
Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.
Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ardudalennau gwe’rUned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)
Gall modiwl Blackboard wedi’i gynllunio’n dda olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Gofynnon ni i’n grŵp o Lysgenhadon Dysgu Myfyrwyr drafod beth mae modiwl wedi’i gynllunio’n dda’n ei olygu iddyn nhw. Rhennir canfyddiadau’r drafodaeth hon yn gategorïau fel y gwelir isod.
Gwybodaeth Modiwl
Amserlen addysgu – dangos yr hyn sy’n ddisgwyliedig drwy gydol y semester (a gynhelir drwy gydol cynllun y modiwl mewn ffolderi). Nid oes angen rhyddhau’r holl gynnwys ar ddechrau’r modiwl o reidrwydd ond yn hytrach map yn dangos i fyfyrwyr yr hyn sydd angen iddynt gynllunio ar ei gyfer. Lawrlwythwch y templed amserlen addysgu:
Llawlyfr modiwl – esboniodd un o’r myfyrwyr fod y llawlyfr bron fel contract rhwng myfyriwr a chydlynydd modiwl. Dylai gynnwys yr holl wybodaeth hanfodol (a all fod, ac mewn rhai achosion, a ddylai fod hefyd yn gynwysedig mewn gwahanol adrannau e.e. yr holl wybodaeth yn ymwneud ag asesu yn Asesu ac Adborth). Edrychwch ar y blog hwn ar lawlyfrau cynhwysfawr.
Cwestiynau Cyffredin ar y modiwl – Gellid cynhyrchu cwestiynau cyffredin drwy gydol y modiwl yn seiliedig ar ymholiadau a ddaw i law y cydlynydd modiwl ac yna eu defnyddio i helpu myfyrwyr y dyfodol e.e. pa werslyfr yw’r gorau / sut ydych chi’n trefnu’r aseiniad / awgrymiadau am adnoddau i helpu gyda chysyniad anodd ac ati. Gallech ddefnyddio swyddogaeth y bwrdd trafod i holi myfyrwyr am gwestiynau yr hoffent gael atebion iddynt.
Fideo cyflwyno byr – byddai’n braf cynnwys fideo sy’n croesawu myfyrwyr i’r modiwl, egluro sut i lywio drwyddo ac amlinellu’n fyr sut fydd yr amserlen addysgu’n edrych. Does dim rhaid iddo fod yn hir nag yn ffurfiol!
Deunyddiau Dysgu
Ffolderi – dylai’r cynnwys fod wedi’i rannu’n wythnosau (neu bynciau). Dylai gyd-fynd â’r amserlen addysgu. Mae cysondeb o fewn ffolderi’r un mor bwysig, ceisiwch gynnwys yr un math o ddeunyddiau dysgu ym mhob ffolder (gallwch ddefnyddio eiconau bach i nodi’r math o weithgaredd) a’u cadw mewn trefn gyson:
Tasgau paratoi sesiwn fyw – eglurwch yr hyn sydd angen ei wneud.
Dolenni Teams at sesiynau byw.
Darlithoedd wedi’u recordio ymlaen llaw (darnau clir/bach a dim sŵn cefndir)
Gweithgareddau i’w cwblhau sy’n rhoi canlyniadau/adborth ar unwaith i brofi gwybodaeth. Gallech ddefnyddio profion Blackboard neu gwisiau Panopto.
Enghreifftiau, sy’n cysylltu damcaniaeth â’r byd real cymaint â phosibl.
Darllen – pa eitemau o’r rhestr ddarllen sy’n cyfeirio at gynnwys yr wythnos honno.
Nodwch: Lle bo’n bosibl defnyddiwch ‘review status and adaptive release’ – mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ar gyflymder gwahanol, mae’n well gan rai bod y cynnwys i gyd yn cael ei ryddhau ar unwaith, eraill mewn camau. Mae gweithredu fel hyn yn rhoi rheolaeth i’r myfyrwyr dros faint o gynnwys maen nhw’n ei weld ar yr un pryd a gall eu helpu i gadw trefn.
Mae’r porwr we Microsoft Edge yn ceisio agor ffeiliau Microsoft Office yn uniongyrchol yn y porwr. Wrth gyrchu ffeiliau yn Blackboard mae hyn yn achosi gwall gyda’r neges; “404 – File or directory not found.”
Er mwyn osgoi hwn, rydym yn awgrymu defnyddio naill ai porwyr gwe Google Chrome neu Firefox.
Fel arall gallwch newid y gosodiad canlynol yn Microsoft Edge:
Agorwch y ddewislen Edge trwy glicio ar y tri dot a chlicio Gosodiadau / Settings
Cliciwch Eitemau wedi’u llwytho i lawr / Downloads
Diffoddwch y gosodiad Agor ffeiliau Office yn y porwr /Open Office files in the browser
Ysgrifennwyd gan Nathalia Kinsey, Hanes a Hanes Cymru
Un o’r pethau a drafodwyd yn ystod y prosiect Llysgenhadon Dysgu oedd mor ddefnyddiol y gall llawlyfrau modiwl fod i fyfyrwyr. Trwy gydol fy nhair blynedd yn yr adran Hanes, llawlyfrau modiwlau oedd prif ffynhonnell y wybodaeth allweddol am bob modiwl. Yn aml, byddwn yn lawrlwytho llawlyfrau modiwlau ar ddechrau’r semester a’u cadw ar fy mwrdd gwaith, er mwyn gallu cyrraedd atynt yn hawdd pan fyddai arnaf angen cipolwg ar feini prawf marcio traethawd, cadarnhau dyddiad cyflwyno, neu weld beth oedd angen i mi ei ddarllen ar gyfer fy seminar nesaf. Roedd cael yr holl wybodaeth allweddol hon mewn un ddogfen yn golygu fy mod yn gwybod ble i edrych pan fyddai arnaf angen rhywbeth, heb orfod chwilio trwy Blackboard, yn pendroni lle’r oedd darlithydd wedi rhoi darn penodol o wybodaeth. Y wybodaeth allweddol a gynhwyswyd yn y llawlyfrau oedd:
manylion cyswllt y darlithydd;
cyflwyniad byr i’r modiwl;
rhestrau wedi’u rhifo o deitlau darlithwyr a seminarau, gyda gwybodaeth am y paratoadau angenrheidiol;
dyddiadau cau aseiniadau, nifer geiriau a pholisi hyd aseiniad yr adran;
dewis o deitlau traethodau (er efallai nad yw hyn yn berthnasol, neu gellid ei addasu ar gyfer adrannau eraill)
meini prawf marcio.
Roeddent hefyd yn aml yn cynnwys manylion eraill penodol i’r modiwl, megis map neu goeden deulu, yn ogystal â nodiadau ar gyfeirnodi, ffynonellau cynradd a ddefnyddir yn aml, neu sillafu enwau a allai ymddangos ar amryfal ffurfiau mewn gwahanol destunau. Ar y cyfan, rwyf i ac eraill sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi gweld bod llawlyfrau modiwlau yn ddogfennau hynod ddefnyddiol y byddai’n ddefnyddiol eu cael gan bob adran; maent yn un man lle mae’r holl wybodaeth allweddol am fodiwl ar gael yn hawdd er mwyn ei chadw wrth law.
Wrth i fis Rhagfyr nesáu, roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol. Mae’r broses hon yn trosglwyddo marciau o golofnau Canolfan Raddau Blackboard i dudalen Marciau Asesu fesul Modiwl AStRA (STF080).
Mae’r offer ar gael ym mhob modiwl Blackboard a hefyd yn yr offer Marciau Cydrannol yn MyAdmin. Gall Staff Gweinyddol Adrannol weld a throsglwyddo modiwlau ar gyfer pob modiwl yn eu hadran tra bod Cydgysylltwyr Modiwlau yn gallu gweld a throsglwyddo marciau ar gyfer eu modiwlau hwy.
I gefnogi’r broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol, cynhelir:
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Gwobr Cwrs Nodedig eleni ar agor ar gyfer cyflwyniadau gyda’r dyddiad cau am 12 canol dydd ar ddydd Llun 31 Ionawr 2022.
Gan barhau â’r un broses â’r llynedd, mae gennym ddull symlach o ymdrin â’r wobr.
Gofynnir i ymgeiswyr amlinellu eu 3 arfer sy’n sefyll ar wahân o ran eu modiwl, cyn nodi pa feini prawf y mae’r modiwl yn eu bodloni. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno recordiad Panopto gan gynnwys taith o’r modiwl.
Os ydych chi’n ystyried cyflwyno ar gyfer y wobr, mae gennym hyfforddiant i ymgeiswyr ar:
Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar ôl gwneud fy ffordd trwy ddau fodiwl enghreifftiol nad oeddwn i wedi eu gweld o’r blaen ac un arall o fodiwl a ddilynais yn yr 2il flwyddyn, sylwais mai’r cynlluniau modiwl mwyaf hygyrch a hawdd llywio drwyddynt oedd y rhai lle’r oedd y wybodaeth a’r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau wedi eu labelu yn ôl wythnos a theitl y pwnc, yn hytrach na dim ond yn ôl rhif y seminar benodol honno; h.y. ‘Seminar: Wythnos 2 – Dysgu am Benodoldeb ‘>’ Seminar 2 ‘. Roedd labelu’r ffeiliau fel hyn yn golygu bod dod o hyd i’r wybodaeth a gyflwynwyd yn y seminarau a’r darlithoedd penodol hynny yn broses fwy syml a chyflym na gorfod chwilio drwy amryfal gyflwyniadau PowerPoint seminarau er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol.
Yn ogystal, y ffolder fwyaf amlwg ar gyfer cadw recordiadau Panopto y ddarlith a’r seminar a’r sleidiau PowerPoint cysylltiedig fyddai ‘Deunyddiau Dysgu’ yn fy marn i. Byddai’n lle da hefyd i’r deunyddiau ychwanegol fel Rhestr Ddarllen Aspire, gweithdai, sesiynau tiwtorial, ac amserlen gyffredinol y modiwl hwnnw. Byddwn yn argymell, fodd bynnag, os oes nifer fawr o ffeiliau ar gyfer seminarau a darlithoedd h.y. mwy na thair ffeil yr wythnos, eu bod yn cael eu rhoi mewn ffolder ar wahân o dan y teitl ‘Darlithoedd/ Seminarau’ yn y golofn ffolderi ar y chwith, ynghyd â chopi o’r Rhestr Ddarllen Aspire.