Modiwlau Rhiant a phlentyn 2023-24

Gan fod modiwlau 2022-23 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.

Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant. Mae’r drefn rhiant a phlentyn yn gweithio yn yr un modd gyda Blackboard Ultra.

Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol.
  2. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig.

Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.

Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?

Bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r modiwl y mae’n nhw wedi’i gofrestru ar ei gyfer (hyd yn oed os mai’r modiwl plentyn yw hwnnw) wrth fewngofnodi i Blackboard ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y modiwl rhiant. Ni chaiff hyfforddwyr osod cynnwys yn y modiwl plentyn.

Pwyntiau i’w hystyried

Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i gynnwys modiwlau gael ei greu, yw’r amser perffaith i gysylltu eich modiwlau. Er bod cysylltu modiwlau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, fe ddylech hefyd ystyried yr isod:

  • Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y modiwlau yn cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y modiwl). Yn ogystal â sleidiau PowerPoint, deunyddiau darlithoedd, mae’n cynnwys hefyd Cyhoeddiadau ac deunyddiau rhyngweithiol eraill ar eich modiwl rhiant.
  • Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl plentyn (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno.
  • Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar fodiwl plentyn cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y modiwl rhiant.

Sut gallaf reoli’r cynnwys i sicrhau mai myfyrwyr y modiwl yn unig fydd yn ei weld?

Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau ac ‘amodau rhyddhau’ (gelwid yn ‘rhyddhau’n ymaddasol’ gynt yn Blackboard Original) os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno modiwl ail a thrydedd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol fodiwlau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn ac un ar gyfer myfyrwyr y drydedd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp ac amodau rhyddhau os dymunwch wneud hyn.

Llyfr Graddau Rhiant a Phlentyn

Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yn Llyfr Graddau’r modiwl rhiant (gelwid yn ‘Ganolfan Raddau’ gynt yn Blackboard Original). Fodd bynnag, gallwch bennu a ydynt wedi’u cofrestru ar y modiwl plentyn gan fod y wybodaeth yma yn ymddangos wrth enw’r myfyriwr yng ngholofnau’r Llyfr Graddau. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y drefn neu os oes gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*